Diben y Swydd
Ymgymryd â'r ystod lawn o waith technoleg priffyrdd sy'n ofynnol ar gyfer gosod a chynnal a chadw asedau technoleg priffyrdd a dodrefn stryd amrywiol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol. Unrhyw waith arall ar asedau technoleg sy'n ofynnol gan yr asiantaeth o bryd i'w gilydd.
Ymgymryd â'r holl waith archwilio, cynnal a chadw a phrofi gan gynnwys cwblhau adroddiadau rheoli asedau.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau .e.e. staff, cyllidebau, offer
Unrhyw offer, cerbydau, peiriannau neu nwyddau sy’n berthnasol i’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif Ddyletswyddau
Yr holl waith sy'n gysylltiedig â gosod, arolygu a chynnal a chadw asedau technoleg priffyrdd a dodrefn stryd eraill. Holl asedau y systemau diogelwch twneli, generaduron, gorsafoedd pwmpio, teledu cylch cyfyng, gorsafoedd tywydd, arwyddion negeseuon amrywiol, Rhwydweithiau TG, ffonau brys.
Rheoli'r holl ddogfennaeth / ardystiad angenrheidiol a sicrhau eu bod wedi'u cwblhau'n gywir a'u dychwelyd i'r goruchwyliwr / peiriannydd gwaith yn brydlon.
Sicrhau bod yr holl waith ac ardystiad yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth/argymhellion cyfredol e.e. Rheoliadau Trydan yn y Gwaith.
Sicrhau cydymffurfiaeth â holl safonau Prydain a phriffyrdd.
Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth/ardystiad sy'n gosod y safon i alluogi cydymffurfio â'r gyfraith wedi'i chwblhau.
Sicrhau bod yr holl amserlenni gwaith yn cael eu trafod gyda'r goruchwyliwr / peiriannydd gwaith a darparu adborth ar bob swydd.
Yn gymwys i fynychu argyfyngau a gwaith cynnal a chadw heb ei gynllunio, yn ystod ac y tu allan i oriau gwaith.
Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun gyda'r goruchwyliaeth leiaf
Sicrhau bod eich dyfeisiau TG yn weithredol bob amser ac yn cael eu defnyddio'n llawn i reoli'r asedau technoleg.
Bod yn rhan o system rota wrth gefn i fynychu safleoedd i gynorthwyo gydag argyfyngau a chywiro namau brys.
Sicrhau bod yr holl wendidau / diffygion yn cael eu cyfathrebu'n glir i'r peiriannydd / goruchwyliwr gwaith ar unwaith.
Cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau iechyd a diogelwch ac ati.
Sicrhau bod P.P.E. yn cael ei ddefnyddio pan fo asesiad risg yn gofyn am hynny ac y caiff ei storio'n gywir pan nad yw'n cael ei ddefnyddio.
Ymgymryd â'r holl hyfforddiant sy'n ofynnol i allu cwblhau'r gwaith yn ddiogel ac i safon gymeradwy / cydnabyddedig.
Ymgymryd â'r gwiriadau cerbydau gofynnol a chwblhau gwaith papur perthnasol yn llawn.
Rheoli'r holl stoc sydd ar gerbydau ac ar safleoedd, a chyfathrebu â'r peiriannydd / goruchwyliwr gwaith ynghylch unrhyw broblemau.
Sicrhau bod yr holl waith papur (taflenni amser, taflenni cerbydau) a thystysgrifau yn cael eu cwblhau'n gywir ac yn amserol.
Bod yn ymwybodol o'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch a Sicrhau Ansawdd i sicrhau bod yr Uned yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol.
Sicrhau eich bod yn ennill cymwysterau / derbyn hyfforddiant Cynllun Sector o fewn 24 mis o gael eich penodi i'r rôl.
Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon, ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y sefydliad.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati.
Cynorthwyo gydag argyfyngau a diffygion asedau brys y tu allan i oriau gwaith.
Mynychu twneli ffordd yr A55 pan fônt wedi'u cau dros nos, boed hynny wedi'i gynllunio neu heb ei gynllunio, yn unol â'r amserlen.
Bydd gofyn i yrru cerbydau'r cwmni
Gweithio ar ochr ffordd gyflym
Gweithio ar Uchder (MEWP, Ysgolion)
Gweithio o fewn ardal Rheoli Traffig ar ffyrdd cyflym
Gweithio ar y briffordd trwy gydol y flwyddyn
Gweithio mewn mannau cyfyngedig
Gweithio oriau anghymdeithasol am gyfnodau hir o hyd at 3 wythnos.