Ceisio am swydd ar lein
Sut i geisio am swydd ar-lein
-
Ceisio am swydd
-
Ewch i Fanylion Pellach y swydd drwy glicio ar bennawd y swydd yn y
Rhestr Swyddi.
- Dewisiwch yr opsiwn Ceisio ar lein.
- Nesaf fydd y dudalen Mewngofnodi/Creu cyfrif newydd, os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi.
-
Bydd hyn yn mynd â chi i Fy nghais lle ceir rhestr o bob adran yn eich ffurflen gais electronig - rhaid llenwi pob rhan cyn gallu cyflwyno eich cais.
- Mae yn golygu nad yw'r rhan wedi ei chwblhau.
- Mae yn golygu eich bod wedi llenwi ac arbed y rhan honno o'ch cais.
- Gallwch arbed eich cais a dod yn ôl ato ar unrhyw bwynt cyn y dyddiad cau i wneud newidiadau / addasiadau.
-
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ar ôl 20 munud o wneud dim a bydd unrhyw waith diweddar yn cael ei golli. Er mwyn atal hyn mae angen i chi arbed eich gwaith yn aml.
Bydd arbed eich gwaith yn mynd â chi yn ôl i dudalen Fy Nghais.
- Gallwch ddewis i arbed yr wybodaeth i'ch cais drwy glicio ar Arbed i'ch cais a / neu arbed yr wybodaeth i'ch proffil drwy glicio ar Arbed i'ch proffil.
- Gallwch edrych ar unrhyw un o'ch ceisiadau drwy fynd i
Fy ngheisiadau
-
Proffil swydd
- Mae Fy mhroffil swydd yn cynnwys copi o bob adran yn eich ffurflen gais electronig.
- Y tro cyntaf i chi lenwi cais am swydd ar lein, bydd yr wybodaeth yn cael ei arbed yn awtomatig i'ch proffil swydd wrth i chi glicio'r botwm Arbed i'ch cais.
- Gallwch newid y manylion yn eich proffil swydd ar unrhyw adeg.
-
Gwneud cais yn y dyfodol
- Bydd eich proffil yn cael ei gadw yn y system fel bo modd i chi ddefnyddio'r wybodaeth eto pe baech am wneud cais arall yn y dyfodol.
- Gallwch lwytho gwybodaeth o'ch proffil i'ch ffurflen gais electronig drwy ddewis y botwm Llwytho gwybodaeth o'ch proffil ym mhob rhan o'r cais.
-
Gwneud cais am swydd yn y dyfodol
- Gallwch dderbyn rhestr swyddi wythnosol drwy e-bost wrth ddewis yr opsiwn Hoffwn dderbyn rhestr swyddi Cyngor Gwynedd drwy e-bost (yn wythnosol) wrth gofrestru neu drwy olygu eich proffil defnyddiwr.
-
Cofiwch allgofnodi a chau eich porwr ar ôl gorffen defnyddio'r system, yn enwedig os ydych yn gweithio ar gyfrifiadur sy'n cael ei rannu.
Mynd i'r rhestr swyddi
Fy nghyfrif