Pwrpas y Rôl
Mae'r Swyddog Cefnogaeth Gorfforaethol yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei gyfanrwydd. Arwain ar drefniadau gweinyddol ar ran y Swyddfa Rheoli Portffolio gan sicrhau casglu data, cofnodi, prosesu anfonebau, a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf o fewn y tîm.
Cyfrifoldebau Craidd y Tîm
- Cyfrifol am ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifoldeb ar y cyd fel rhan o'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifol am gefnogi cydweithwyr ac aelodau'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Gweithredu fel llysgennad i Uchelgais Gogledd Cymru a'r rhanbarth.
Cyfrifoldebau Penodol i'r Rôl
- Darparu cefnogaeth weinyddol a chymorth i'r Swyddfa Rheoli Portffolio i sicrhau bod prosiectau a thasgau yn cael eu cyflawni.
- Trefnu a chefnogi cyfarfodydd o fewn trefn lywodraethol y Cyd-bwyllgor Corfforedig, gan gynnwys cytuno ar raglenni, cofnodi ac olrhain camau gweithredu.
- Rheoli dyddiaduron a threfnu cyfarfodydd gan gynnwys gwahoddiadau, technoleg, lleoliadau, arlwyo, argraffu, llungopïo a chylchredeg papurau cyfarfod.
- Sefydlu, cynnal a rheoli systemau gweinyddol effeithiol.
- Cefnogi'r gwaith o gydlynu Rhyddid Gwybodaeth a Rheoli Data. Gan gynnwys rheoli a mewnbynnu data i systemau mewnol ac allanol.
- Cyfrifol am baratoi a darparu gwybodaeth ar gyfer defnydd mewnol ac ar gyfer partneriaid allanol sy'n cyd-fynd â'r canllawiau brand cymeradwy.
- Cyfrifol am brosesu a rheoli archebion ac anfonebau, gan gynnwys codio, monitro a mewnbynnu ar daenlenni cyllid yn gywir.
- Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata'r tîm gan gynnwys creu cynnwys, ymgyrchoedd, digwyddiadau, y wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Cefnogi i ymdrin â gohebiaeth a'i blaenoriaethu.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gofynnol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel y rôl i gefnogi cyflawni blaenoriaethau sefydliadol.