Swyddi ar lein
Swyddog Traffig x2
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28221
- Teitl swydd:
- Swyddog Traffig x2
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 01/05/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 42 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwasanaeth Swyddog Traffig Gogledd Cymru
SWYDDOGION TRAFFIG
Graddfa S2 (SCP 18 i 22) – £36,753 £39,273
(42 awr yr wythnos flynyddol (Pro Rata) sifftiau 12 awr, 4-on-4
off, 365 diwrnod y flwyddyn). Lleoliad: Wrecsam (Llay) Helygain
Y Gwasanaeth Swyddog Traffig yw wyneb cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar y gefnffordd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd batrolio coridor
ffyrdd deuol yr A55/A494/A550/A483 yng Ngogledd Cymru, ymateb i ddamweiniau, gwneud y safle yn ddiogel, bydd gennych y pŵer i atal
ac ailgyfeirio traffig, cau lonydd, gosod arwyddion traffig a symud cerbydau sydd wedi'u gadael neu sydd wedi torri i lawr, ac felly chwarae
rôl hanfodol yn niogelwch ein lonydd. Byddwch yn gyfrifol am hyrwyddo a meithrin perthynas waith da gyda’r holl randaliadau allweddol i
sicrhau cyflawni’r amcanion o leihau tagfeydd yn dilyn damweiniau. Yn ogystal, bydd angen cynorthwyo trwy nodi lle gellir gwella neu
atgyweirio'r isadeiledd priffyrdd, gan gynnwys wyneb y lôn ac arwyddion, i wella diogelwch defnyddwyr y ffordd ac anfon y wybodaeth
yn brydlon a chywir i’r person(au) perthnasol.Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyswllt wyneb y wyneb a chwsmeriaid yn ddymunol. Cydnabyddir ei bod yn bosib na fydd
yr ymgeisydd yn cyrraedd yr holl ofynion sydd wedi eu rhestru yn y swydd ddisgrifiad a manylion person ar gyfer y rôl - ond fel rhan o’r
broses dethol bydd hyn yn cael ei gymryd i ystyried. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fynychu hyfforddiant llawn fydd yn cael ei
ddarparu ar eu cyfer cyn dechrau ar y swydd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd weithio patrymau sift 12 awr (yn cynnwys penwythnosau a
Gŵyl y Banc) a bod ar gael i weithio oriau goramser fel bo’r angen.Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn.
Mae'r swydd yn destun cyfnod prawf a bydd rhaid i’r deilydd fyw o fewn 45 munud o'u safle gweithredol. Bydd rhaglen hyfforddiant achrededig gorfodol am 6 wythnos yn
ofynnol.Noder Bydd cyflogaeth barhaus o fewn y gwasanaeth yn dibynnu ar gwblhau'r hyfforddiant ac cyfnod prawf yn llwyddiannusFfurflenni cais a manylion pellach am y swydd hon ar gael drwy wefan Cyngor Gwynedd
www.gwynedd.llyw.cymru neu drwy gysylltu dros y ffôn 01286679076.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Nichola Williams ar 0300 123 1213 neu drwy e-bost NicholaHelenWilliams@nmwtra.org.ukDyddiad Cau: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 1af Mai 2025.
Byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Bod yn hyblyg wrth weithio patrymau shifft a gallu gweithio oriau goramser rhesymol yn ôl y gofynBydd yn disgwyl i'r deilydd fyw o fewn 45 munud o'u safle gweithredol
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad mewn rôl weithredol / sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
Trwydded yrru gyfredol ddilysPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad Gwaith:Profiad o orchwylio eraill mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriad gweithredol lle mae’n rhaid wynebu’r cyhoedd
Cyfathrebu:Cyfathrebu anghenion a chyfarwyddiadau yn glir;
Siarad gydag awdurdod a hyder;
Llunio adroddiadau a chrynodebau ysgrifenedig â stwythur da iddynt;
Delio â materion yn union gyrchol; newid modd cyfathrebu er mwyn bodloni anghenion y gynulleidfa
Gwytnwch:Yn ddibynadwy mewn sefyllfaoedd, gan allu meddwl yn glir a pheidio â chynhyrfu;
Ymateb yn rhesymegol i amgylchiadau sy’n newid;
Parhau i fod mewn rheolaeth o sefyllfa;
Rheoli sefyllfaoedd o wrthdaro;
Deilio â gelyniaeth a chythrudd mewn modd digynnwrf a phwyllog;
Rheoli pwysau a thensiwn mewn sefyllfaoedd anodd
Cynllunio a Threfnu:Penderfynu ar flaenoriaethau a threfnu baich gwaith;
Llwyddo i weithio i derfynau amser tynn drwy gynllunio’n ofalus;
Cadw at yr amcanion;
Dibynadwy a phrydlon
Gwaith Tîm:Cefnogi a chynorthwyo’r tîm yn weithredol er mwyn iddynt gyflawni eu hamcanion;
Cydweithredu gydag eraill a’u cefnogi;
Cyfrannu at amcanion y tîm
Hunan-gymhelliant:Dangos blaengaredd a chymhelliant, gan ymgymryd â thasgau heb i neb ofyn;
Gallu cymell ei hun, gan ddangos brwdfrydedd ac yrwymiad i’w rôl;
Gallu ei wybodaeth broffesiynol ei hun a chadw’r wybodaeth yn ddiweddar
Amrywiaeth:Cwrtais, goddefgar ac amyneddgar gyda phobl y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad, gan eu trin â pharch as urddas
Defnyddio iaith mewn ffordd briodol ac yn sensitif i’r ffordd y gall effeithio ar bobl;
Deall beth all bechu rhywun ac addasu eu gweithredoedd eu hunain;
Yn parchu a chynnal cyfrinachedd, lle bynnag bo’n bosibl
Iechyd a Diogelwch:Cydnabod manteision amgylchedd gwaith diogel;
Sicrhau y rhoddir sylw digonol i iechyd a diogelwch;
Sicrhau ei ddiogelwch ei hun;
Sicrhau diogelwch ei gydweithwyr
Technoleg Gwybodaeth:Rhaid dangos profiad o weithio gydag ystod o raglenni TG.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu delio â phob agwedd o’r swydd ar lafar yn hyderus yn Gymraeg a Saesneg.Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth yn gywir yn Gymraeg a Saesneg gan wahanol ffynhonellau er mwyn delio â phob agwedd o’r swydd.Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg yn hyderus gan ddefnyddio’r iaith ac arddull fwyaf priodol i fodloni anghenion y darllennydd.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Prif Swyddogaethau1. Bod yn wyneb cyhoeddus i Lywodraeth Cymru o ran patrolio ac ymateb i reoli digwyddiadau ar y rhwydwaith cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
2. Lleihau tagfeydd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau drwy ymateb i ddigwyddiadau, peryglon a damweiniau ar y rhwydwaith, a'u rheoli.
3. Rhoi cefnogaeth broffesiynol effeithiol i'r Heddlu ac i asiantaethau eraill.
4. Cynrychioli Llywodraeth Cymru drwy gyfleu delwedd gadarnhaol a phroffesiynol sy’n cryfhau gwerthoedd ac amcanion Llywodraeth Cymru.
5. Hyrwyddo a meithrin perthynas waith dda gyda’r rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau cyrraedd y nod gyffredin o leihau tagfeydd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau.
6. Nodi lle gallai seilwaith y ffordd, gan gynnwys yr arwyneb a’r arwyddion, gael ei wella neu’i drwsio, lle bo angen, er mwyn gwella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd, a rhoi gwybodaeth o'r fath yn ddi-oed a chywir i'r bobl briodol.
7. Hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr y ffordd, lle bo’n briodol, i geisio gwella eu diogelwch ar y ffyrdd.
Swyddogaethau Eilaidd
8. Cynnal patrolau ac archwiliadau i sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel.
9. Nodi a chefnogi lle bo angen i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd,
10. Patrolio, monitro a rhoi gwybod am y traffig a'r tywydd ar y rhwydwaith.
11. Sicrhau lle y bo modd bod diffygion ar y briffordd yn ddiogel.
Safonau Perfformiad
12. Cyflawni amcanion cerrig milltir a therfynau amser y cytunwyd arnynt yn foddhaol.
13. Cyflawni a chynnal y safon uchaf o ddatblygiad parhaus o ran rheoli darpariaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd.
14. Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol sy’n gysylltiedig â Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
15. Sicrhau y cedwir at Bolisïau Iechyd a Diogelwch yn y gwaith.
16. Sicrhau cysylltiadau da drwy gynnig gofal cwsmeriaid o safon.
17. Datblygu a chynnal perthynas waith dda a chynhyrchiant da yn unol ag amcanion sefydliadol a phersonol.
18. Bod yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
19. Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneudCyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Cerbyd, radio, camera fideo ar y corff, ffôn, llechenPrif Ddyletswyddau .
1. Cynnal patrolau amlwg iawn er mwyn darparu'r ymateb cychwynnol a threfnu cyngor arbenigol yn y man lle bu'r digwyddiad, y perygl neu'r ddamwain ar y ffordd.
2. Ymateb i ddigwyddiadau a gweithio’n ddiogel, yn unol â pholisi’r cwmni a hyfforddiant, i hwyluso clirio yn fuan ar ôl y digwyddiad neu chael gwared ar y perygl drwy roi systemau rheoli traffig brys ar waith.
3. Rhoi gwybod am y camau gweithredu a gymerir, a’u cofnodi gyda'r Ganolfan Reoli, yn ogystal â’r cyfarwyddiadau a roddir.
4. Cysylltu â’r Ganolfan Reoli i ofyn am adnoddau ychwanegol pan fydd angen.
5. Yn y gweithle, ymddwyn mewn ffordd nad yw’n peryglu eich iechyd a’ch diogelwch chi, nac eraill, gan gyflawni arferion gwaith yn unol â gofynion gweithredol a chyfreithiol.
6. Nodi a rheoli risg weithredol drwy gyfrwng asesiadau risg safonol a deinamig.
7. Rhoi systemau rheoli traffig brys ar waith yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a datganiadau ynghylch dulliau.
8. Cyfathrebu yn ysgrifenedig, yn electronig ac ar lafar ar ffurf adroddiadau a chofnodion yn ôl y gofyn.
9. Cynnal archwiliadau ar gerbydau, a’u cofnodi, a llenwi llyfrau oriau gyrwyr yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau’r cwmni.
10. Bod yn gyfrifol am faterion y gallant effeithio ar weithredu’r rhwydwaith yn ddiogel, a bod yn ymwybodol ohonynt, a rhoi gwybod am faterion o'r fath cyn gynted ag y sylwir arnynt.
11. Sicrhau a chofnodi bod yr arwyddion, yr offer a’r deunyddiau rheoli traffig sydd yn cael eu cludo gan y cerbyd Swyddog Traffig yn iawn ar ddechrau pob shifft, a chymryd camau i gywiro unrhyw ddiffyg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
12. Ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser gan sicrhau dull o ddelio â’r cyhoedd, yr Heddlu ac asiantaethau eraill sydd bob amser o safon uchel.
13. Cynnal patrolau/archwiliadau ar ddiogelwch y rhwydwaith a chofnodi gwybodaeth gan ddefnyddio dyfeisiau casglu data.
14. Adnabod a chofnodi anghenion o ran gwaith cynnal a chadw lle bo'n bosib.
15. Casglu a darparu gwybodaeth i’w dadansoddi gan y sefydliad ac asiantaethau eraill.
16. Mynychu achosion cyfreithiol i roi tystiolaeth fel tyst yn ôl y gofyn.
17. Mae pob un a gaiff ei gyflogi gan ACGChC yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Polisi Iechyd a Diogelwch, Polisi’r Amgylchedd a’r Polisi Ansawdd, fel y diffinnir yn System Reoli Busnes Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru.
18. Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd yn ofynnol â graddfa y swydd wrth reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd.
· Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
· Sicrhau y cydymffurfir â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
· Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
· Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
· Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
· Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrinAmgylchiadau Arbennig . e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Oriau gweithio:
• Gofyniad i weithio sifftiau o 42 awr yr wythnos flynyddol (Pro Rata) sifftiau 12 awr, 4 ymlaen-4 i ffwrdd, 365 diwrnod y flwyddyn (07:00 tan 19:00) er mwyn bodloni â’r gofynion gweithredol.
• Gofyniad am hyblygrwydd ar achlysur yn y patrymau shifft i gwrdd â’r gofynion gweithredol;
• Gofyniad ar adegau i weithio goramser ac yn ystod y nos;
• Gofyniad i weithio ar Wyliau Banc a Phenwythnosau wrth i’r patrymau sifft cael eu penderfynu;
• Gofyniad i weithio o leoliadau gweithredol eraill i gwrdd â’r gofynion gweithredol.
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.