Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Helpu yr unigolyn i fyw eu bywyd fel mae’n dymuno ei fyw.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Dysgu sut i wneud defnydd priodol o offer arbennigol sy’n helpu yr unigolyn fyw eu bywyd yn ol eu dymuniadau ac amcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
Prif Ddyletswyddau.
•Cyfnod cychwynnol (8 wythnos) – cwblhau e-ddysgu, gwneud hyfforddiant mandadol e.e. symud a thrin a cwblhau cyfnodau o brofiad Gwaith o fewn anableddau Dysgu, oedolion a plant – pythefnos yn bob lleoliad.
•Ymgymryd â rhaglen ddatblygu sy’n arwain at gwblhau Fframwaith Sefydlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan a chyflawni'r holl gymwysterau perthnasol wrth i chi symud ymlaen.
•Ymgymryd â rhaglen ddatblygu sy’n arwain at gwblhau cymhwyster lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion neu Plant a Phobl Ifanc lefel 3.
•Bod yn rhan o dîm, lle rydych chi’n dysgu am weithio mewn amgylchedd gofal, gan gynnwys iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal, urddas, parch ac yn dysgu sut i wneud cysylltiadau â phobl eraill. A cael cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
•Cydweithio’n agos dan oruchwyliaeth gyda partneriaid mewnol ac allanol I gael y canlyniadau gorau i’r defnyddwyr gwasanaeth e.e. Gweithwyr Cymdeithasol, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, meddygon teulu ayyb.
•Mynychu cyfarfodydd goruchwyliaeth, cyfarfodydd tîm, a diwrnodau hyfforddi i ddatblygu a chyfrannu at lwyddiant y tîm.
•Gweithio tuag at sefydlu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth helpu oedolion a phlant i gadw eu hannibyniaeth, gan sicrhau bod eu hanghenion gofal a chefnogaeth yn cael eu diwallu’n ddiogel. Hynny wrth hyrwyddo lles, iechyd, datblygiad, diogelwch, cydraddoldeb, cynhwysiant a pharchu amrywiaeth.
•Datblygu sgiliau adeiladu perthnasoedd efo defnyddwyr i ddeall yn union beth fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw ac i rymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
•Dangos empathi, gofal, a dealltwriaeth o ran anghenion arbenigol a chymhleth y bobl rydych yn gofalu amdanynt ac yn cefnogi.
•Cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor gan gynnwys deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, Diogelu a chyfrinachedd.
•Datblygu sgiliau i gynnig gofal o safon uchel gan sicrhau fod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol defnyddwyr yn cael eu cwrdd.
•Gweithio tuag at cynnig holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwaith gofal gan gynnwys gofal personol a cefnogi’r unigolion sydd yn defnyddio’r gwasanaeth.
•Gweithredu a defnyddio Systemau TG
•Pasio pob carreg filltir er mwyn gallu parhau i lefel nesaf Rhaglen yr Academi.
•Cael agwedd bositif tuag at Dysgu a Datblygu sgiliau a Gwybodaeth ar hyd y daith.
•Datblygu sgiliau fel bod modd bod yn eiriolwr I bobl I sicrhau bod eu hawliau a’u dewisiadau unigol yn cael eu parchu.
•O dan oruchwyliaeth bydd gofyn I chi gofnodi dogfennaeth berthnasol yn gywir ac yn gyfreithlon sy’n cyfrannu at ffeil gofal y defnyddiwr gwasanaeth. Bydd angen sicrhau cydymffriaeth â’r Safonau Gofal Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn ac arferion Gwaith da. O dan oruchwyliaeth bydd gofyn i chi gadw cofnodion priodol, paratoi adroddiadau, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd cyflawniad plant i sicrhau bod y rhieni'n cymryd cymaint o ran â phosibl yn y ganolfan ac yn y cartref.
•Dod I ddeall am y drefn Feddyginiaeth, gan ymgymryd ag hyfforddiant I’w ddeall
•Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru – Beth yw cofrestru? | Gofal Cymdeithasol Cymru
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio (DBS)
•Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ar ffurf rota – bydd hyn yn cynnwys penwythnosau, gyda’r nos
•Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw’n angenrheidiol.