Pwrpas y Swydd.
Gweithredu fel rheolwr tîm. Pwrpas y tîm yw:
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Rheoli darpariaeth cartref grŵp bychain i blant mewn uned breswyl, sy’n golygu gweithredu fel rheolwr cofrestredig yr uned fel cartref plant.
•Bydd deilydd y swydd yn ‘Rheolwr Cofrestredig’ ar gyfer y cartref fel y manylir yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
•Rheoli cyfeiriadau am wasanaeth yn yr uned gan ddatblygu a rhoi amserlen yn ei le er mwyn diwallu anghenion plant wrth dderbyn gwasanaeth yn y cartref.
•Sicrhau bod yr uned yn cydymffurfio gyda’i Ddatganiad o Bwrpas a bod y plant a phobl ifanc sy’n byw yn yr uned yn derbyn y gefnogaeth addas i gyrraedd deilliannau cadarnhaol sy’n gyson gyda’i cynlluniau unigol.
•Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli staff, cyllideb a chyfrifoldebau rheolwr safle.
Prif Ddyletswyddau.
•Bod yn gyfrifol am reoli, cydlynu a datblygu ystod o wasanaethau o safon i bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio a/neu eu lletya yn y cartref. Hyrwyddo’r ymarfer o weithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, staff eraill yn y Gwasanaethau Plant, ac asiantaethau eraill, er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc.
•Sicrhau bod Datganiad o Bwrpas mewn lle, sy’n briodol i anghenion y plentyn / person ifanc ac sy’n amlinellu cymwysterau, profiad ac arbenigedd y staff a gyflogir yn y cartref a sicrhau bod y cartref yn cael ei redeg yn unol â’r egwyddorion fel maent wedi eu hamlinellu yn y Datganiad o Bwrpas.
•Derbyn cyferiadau am wasanaeth ac arwain a chydlynu’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a chyflawni Cynllun Personol y plentyn / person ifanc ar draws gwasanaethau integredig; cyfathrebu a gosod nodau, cefnogi datblygiadau mewn ymarfer a sicrhau y caiff cynnydd ei fonitro’n effeithiol.
•Darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd i gefnogi gwneud penderfyniadau sydd bob tro er lles pennaf y plentyn / person ifanc a sicrhau bod y sefydliad yn rhagweithiol wrth fonitro a darparu adborth i unigolion a rheolwyr llinell yn y cyswllt hwn.
•Darparu rheolaeth weithredol o’r tîm staff a rhyddhau adnoddau staff fel bod tasgau allweddol yn cael eu cyflawni. Sicrhau bod digon o adnoddau wrth gefn ar gael mewn sefyllfaoedd argyfwng / tu allan i oriau.
•Bod â chyfrifoldebau rheolaeth llinell am dîm o staff, gan sicrhau bod pob aelod staff wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
•Hyrwyddo datblygiad tim a datblygiad staff, gan gynnwys adnabod anghenion hyfforddiant a chynllunio ar y cyd gyda’r Adran Datblygu’r Gweithlu i gyfarfod yr anghenion hynny.
•Cymryd rhan ragweithiol mewn prosesau recriwtio, cwynion, disgyblaeth, iechyd a diogelwch a materion staffio eraill gyda chefnogaeth gan y Pennaeth Cynorthwyol/ Unigolyn Cyfrifol.
•Bod yn gyfrifol i’r Pennaeth Cynorthwyol am weithredu polisïau a threfniadau adrannol, gan sicrhau bod gweithwyr y tîm yn ymwybodol o rhain ac yn eu deall.
•Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill, y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth.
•Rheoli cyllideb benodol.
•Sicrhau bod gweithwyr yn defnyddio dulliau dogfennu a chofnodi’r Adran a datblygu dogfennaeth pwrpasol ar gyfer y cartref yn ôl yr angen.
•Sicrhau bod amgylchedd y cartref yn addas i anghenion y plant sy’n derbyn gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflwr cyffredinol yr adeilad a chynnal asesiadau risg yn ôl yr angen.
•Sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Rheoleiddio ac Archwilio Gofal Cymdeithasol 2016 (RISCA). Cadw cyswllt â chydweithredu gydag arolygwyr AGC gan gynnwys yn ystod arolygon ac ymweliadau eraill
•Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau am berfformiad a gwaith y tîm.
•Ymateb a gweithredu ar ganfyddiadau ymweliadau Rheoleiddio yr Unigolyn Cyfrifol, adroddiadau archwilio mewnol neu allanol a sicrhau bod materion a godwyd yn derbyn sylw
•Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion yn ôl yr angen.
•Hysbysu’r Pennaeth cynorthwyol o achosion a sefyllfaoedd sy’n codi cwestiynau polisi allweddol neu sy’n achosi problemau difrifol i’r Adran fel y gellir cael arweiniad arbennig neu ddatblygu polisi penodol newydd.
•Darparu arweinyddiaeth effeithiol trwy weithredu strategaethau sefydliadol, er mwyn gallu cyflawni amcanion y cartref. gan defnyddio dulliau ymyrraeth ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
•Mae’r swydd wedi ei lleoli ym Morfa Bychan, ond bydd hefyd yn golygu teithio gan y bydd yn delio gydag achosion ar draws Gwynedd.
•Mae gan yr adran gynlluniau i ddatblygu mwy nag un cartref. Y bwriad yw i ddau gartref rannu un Rheolwr Cofrestredig gyda cymorth Dirprwy. Bydd y swydd hon yn y pen draw yn rheoli dau gartref cofrestredig ar ddau safle gwahanol.