Swyddi ar lein
Archwiliwr Dechnegydd Archwiliadau Arbennigol x2 - Cyf: 23-24873
£24,496 - £26,845 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Archwiliwr Dechnegydd Archwiliadau Arbennigol x2
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 27/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £24,496 - £26,845 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Archwiliwr Dechnegydd Archwiliadau Arbennig x 2 Swydd
CYFLOG SALARY: S1 (SCP 12-17) (£24,496 – £26,845)
LLEOLIAD:
1 Swydd - Bangor neu Halkyn (Gogledd Cymru)
1 Swydd – Aberaeron neu Llandrindod (Canolbarth Cymru)
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Ymgymryd ag archwiliadau arbenigol yn cynnwys Archwiliadau VRS Manwl, Draenio a Geodechnegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a gofynion System Wybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (IRIS). Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle am addysg bellach tuag at lefel ONC, HNC a gradd mewn peirianneg sifil ar sail rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi uchod, cysylltwch â Dorina Gerrard ar gyfer Swydd yn y Gogledd ar 07971 674349, ac James Bevan am Swydd yn y Canolbarth ar 07971674587.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU, 27ain o Ebrill, 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Yn gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth
Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofyn.
Dymunol
Yn gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ac yn gallu delio â therfynau amser gwaith
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
5 TGAU (Gradd C neu uwch) neu gymwysterau cyfwerth.
Saesneg a Mathemateg yn angenrheidiol.
Dymunol
ONC mewn Peirianneg Sifil neu gyfwerth.
National Sector Scheme for Vehicle Restraint Systems (Goruchwyliwr Archwilio)
Cymhwyster City & Guilds, neu gyfwerth, mewn Archwiliadau Diogelwch Priffyrdd
Cymhwyster ECDL mewn TG.
National Sector Scheme 12D(M7)
Achrediad CSCS priodol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o Archwilio neu gynnal a chadw priffyrdd.
Dymunol
Profiad o goladu data.
Medru dangos profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.
Profiad o archwilio neu gynnal a chadw’r mathau o asedau a ganlyn:
•Systemau Atal Cerbydau
•Systemau Draenio
•Asedau Geo-dechnegol
•Mathau eraill o asedau priffyrdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Sgiliau trefnu da.
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid.
Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel
Trwydded yrru gyfredol
Dymunol
Dealltwriaeth o Archwiliadau neu Gynnal a Chadw Priffyrdd
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Ymgymryd ag Archwiliadau Diogelwch a Chyflwr Asedau yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer y mathau o asedau a ganlyn:
•System Atal Cerbydau (SAC)
•Systemau draenio
•Asedau geodechnegol
•Asedau eraill fel y’u hadnabuwyd
•Cynorthwyo’r Archwiliwr Beiriannydd i reoli gweithgareddau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â’r mathau o asedau uchod sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol
•Bodloni rhwymedigaethau ACGChC dan Adran 41, “Duty to maintain highways maintainable at public expense” ac Adran 58 “Special defence in action against a highway authority for damages for non-repair of Highway”, Deddf Priffyrdd 1980.
•Cynorthwyo’r Archwiliwr Beiriannydd i weithredu gofynion Rheoliad 13 Endidau Archwilio o ran asedau priffyrdd dan Reoliadau Diogelwch Twnneli Ffyrdd 2007 (fel y’u diwygiwyd yn 2009).
•Ymgymryd â’r swyddogaethau ar y ffordd ac yn y swyddfa sy’n gysylltiedig ag archwilio arbenigol asedau a swyddogaethau cynnal a chadw.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Yr holl offer, cerbydau a systemau sy’n berthnasol i’r dyletswyddau.
Prif ddyletswyddau
Swyddogaeth Archwilio
•Ymgymryd ag archwiliadau arbenigol yn cynnwys Archwiliadau VRS Manwl, Draenio a Geodechnegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a gofynion System Wybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (IRIS).
•Ennill arbenigedd mewn defnyddio’r system cyfeirio rhwydwaith drwy ddeall system a dogfennau link-section-node y System Rheoli Cynnal Ffyrdd (RMMS).
•Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu diffygion Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
Cynnal archwiliadau perthnasol (wedi’u rhaglennu neu'n rhagweithiol)
•Creu gwybodaeth Archebion Gwaith am ddiffygion gydag amcan fesur fel sy’n ofynnol gan y meddalwedd cofnodi data archwilio yn y system IRIS.
•Hysbysu’r Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol, y Swyddogion Traffig, ACGChC neu’r Gwasanaethau Brys fel y gellir ‘cywiro a diogelu’ diffygion Categori 1 cyn gynted ag y bo’n briodol gwneud hynny.
•Archwilio, adnabod a chodi diffygion Adran 81 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd sy’n gysylltiedig ag ailosod gwasanaethau a chodi Archebion Gwaith am ddiffygion Categori 1 cysylltiedig i reolwyr drwy’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol / Awdurdodau Partner.
•Cysylltu â’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol o ran cynnal archwiliadau a diogelu diffygion.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Hawliadau Trydydd Parti a Rheolaeth Datblygu o ran ymdrin â hawliadau.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw
•Cynorthwyo’r Archwiliwr Beiriannydd i reoli comisiynu a gweithrediad swyddogaethau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â’r mathau o asedau uchod sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol.
•Creu gwybodaeth Archebion Gwaith am ddiffygion gydag amcan fesur fel sy’n ofynnol gan y meddalwedd cofnodi data archwilio yn system IRIS.
•Cynorthwyo’r Archwiliwr Beiriannydd i reoli atgyweiriadau diffygion categori a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyllidebau sydd ar gael ac o fewn cyfyngiadau arwynebedd ffordd.
Swyddogaeth Rhestr Eiddo
•Cynnal arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo asedau gan fanylu ar asedau priffyrdd newydd a phresennol yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi ar IRIS.
•Cyfrannu at gynnal a chadw’r system gyfeirio rhwydwaith, yn cynnwys addasu, diweddaru a chreu tudalennau’r dogfennau link-section-node. Adnabod ac adrodd am ddiffygion i’r ddogfennaeth neu’r system marcio ar y ffordd i’r Swyddog System Asedau.
Gweinyddiaeth Dechnegol RMMS (IRIS)
•Cofnodi, dilysu, golygu ac uwchlwytho data archwiliadau ac arolygon i mewn i’r system IRIS, yn cynnwys data archwiliadau arbenigol.Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth atodol ar gyfer cynhyrchu Archebion Gwaith Categori 1 (e.e. ffotograffau a mesurau rhagarweiniol).
•Darparu’r Uned Weithredol ag adroddiadau “diffyg heb ei orffen” a gwybodaeth atodol arall yn ôl yr angen.
•Cynorthwyo’r Archwiliwr Beiriannydd gydag Adroddiadau Gweithredol neu Adroddiadau Asedau ad hoc yn seiliedig ar brosiect o arolygon, IRIS neu gronfeydd data eraill ar gyfer yr Uned Cyflawni ac Archwilio, yr Uned Fusnes, yr Uned Weithredol, Llywodraeth Cymru ac eraill.
Cyffredinol
•Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
•Ymgymryd yn rhagweithiol ag amrediad eang o ddyletswyddau gweinyddol, yn cynnwys mewnbynnu data, ffeilio cyffredinol, llungopïo a phrosesu geiriau.
•Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
•Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
•Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheoli ACGChC yn effeithiol.
•Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
•Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
•Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y Gwasanaeth Archwilio Asedau Priffyrdd megis rheoli traffig.
•Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos neu ar benwythnosau o fewn rheoli traffig a Chau Twneli.
•Y gofyn i ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen gan roi ystyriaeth arbennig i faterion Iechyd a Diogelwch a hyfforddiant Archwilio Asedau Priffyrdd arbenigol.