Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymdeithasol - Awtistiaeth - Cyf: 22-24819
£35,411 - £37,261 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymdeithasol - Awtistiaeth
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Adnoddau Gofal / Comisiynu
- Dyddiad cau:
- 30/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £35,411 - £37,261 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Aled Gibbard ar 01286 679 713 neu Helen Fon Owen ar 01286 679 809.
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 30.03.2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Ymrwymiad i weithio i warchod lles plant ac oedolion
Gallu i weithio dan bwysau
Parodrwydd i ddatblygu ac ehangu gwerthoedd, sgiliau a gwybodaeth
Gweithio fel rhan o dim a derbyn arolygaeth
DYMUNOL
Hyblyg o ran oriau gweithio
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
DipSW/CQSW/CSS
"Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhywun sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr.
Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
DYMUNOL
Hyfforddiant perthnasol yn ymwneud a’r maes awtistiaeth.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda phlant, pobol ifanc a’u teuluoedd a/neu oedolion ifanc.
Profiad o weithio gyda unigolion sydd ar y sbectrwm awtistiaeth/ gyda cyflwr niwroddatblygiadol.
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn tim plant neu leoliad gwaith efo plant neu oedolion bregus.
Profiad o weithio gyda unigolion yn yr oed trosiannnol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Trwydded yrru gyfredol.
Dealltwriaeth o rol gweithiwr cydmeithasol.
Gallu i weithio mewn partneriaeth a phlant, teuluoedd ac asiantaethau eraill.
Y gallu i ddylanwadu a hybu ar draws ystod o ddisgyblaethau profesiynnol gan ddefnyddio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth.
Sgiliau trefnu ac bod yn hyblyg.
Tystiolaeth o weithio’n aml-ddisgyblaethol ac ymwybyddiaeth o sut gall gweithio mewn partneriaeth fod yn fuddiol i ddarpariaeth gwasanaeth a gwella canlyniadau i unigolion.
DYMUNOL
Gweithio o dan y Canllawiau Amddiffyn plant neu oedolion bregus ac ymwbydddiaeth dda o’r prosesau yn ymwneud a gofal a chefnogaeth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Gwybodaeth am faterion sy’n berthnasol wrth i unigolion drosgwlyddo o wasanaethau plant i fod yn oedolion
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
Mae’r swydd wedi ei lleoli o fewn y gwasanaeth Awtistiaeth.
Mae’r tim yn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Pwrpas y swydd yw i ddatblygu gwasanaeth awtistiaeth o fewn y Sir, gan ganolbwyntio’n bennaf ar oed trosiannol ( sef pontio rhwng Gwasanaethau plant a Gwasanaethau Oedolion) a hybu gweithrediad cyson ar draws y Sir.
Bydd y swydd yn cynnal llwyth gwaith drwy gymysgedd o ymyrraeth uniongyrchol gydag unigolion awtistig a’u teuluoedd, cydweithio a gweithwyr eraill sy’n cynnal unigolion awtistig ynghyd ag ymyrraeth anunionyrchol drwy rannu gwybodaeth, gwneud gwaith ymgynghori a rhoi cyngor i weithwyr sy’n cefnogi unigolion awtistig.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Laptop a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
Click here to enter text.
1.I gwblhau gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a’u teuluoedd a gofalwyr gan ddefnyddio ymyraethau sydd yn seiliedig ar ganlyniadau a thystiolaeth.
2.Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud ynghyd a deddfwriaethau, polisi, chanllawiau cyfredol, ac ymarfer da. I gyfrannu a datblygu tuag at ffyrdd newydd o weithio a ymyraethau.
3.I weithio mewn modd sydd yn hybu lles plant ac oedolion awtistig.
4.Defnyddio'r amrywiaeth o declynnau asesu a ddefnyddir yn eich ardal i gasglu gwybodaeth gan y teulu/unigolion a'r gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm er mwyn hysbysu’r asesiad teulu holistaidd ar gyfer y teulu cyfan.
5.Casglu gwybodaeth ac adnabod cryfderau, nodau ac adnoddau gyda pob unigolyn/aelod teulu am y teulu cyfan er mwyn creu cynllun gofal a chefnogaeth sydd yn mynd i gyfarch anghenion y p;entyn/oedolyn.
6.I gynnig gwasanaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a’r gymuned yn unol a chanllawiau cyfreithiol sydd yn cyd fynd gyda Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Awtistiaeth, gan gynnwys asesu gofal a chefnogaeth.
7.Asesu angen a rhoi cefnogaeth i deuluoedd/oedolion mewn angen. Golyga hyn gydlynu gwaith gweithwyr o asiantaethau eraill gan ddefnyddio adnoddau yr adran a’r gymuned mewn modd hyblyg.
8.I gydlynnu a phroffesiynau eraill sydd yn gweithio ym maes awtistiaeth, yn arbennig y Gwasanaeth Awtisitiaeth Cenedlaethol a Rhanbarthol, Y Bwrdd Iechyd ac adrannau eraill o fewn y Cyngor.
9.I gyfrannu at ddatblygu ffurfiau newydd o waith neu wasanaeth er mwyn datblygu cyfleon yn y maes.
10.I gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr ym maes plant ac oedolion, drwy gynghori a rhannu gwybodaeth perthnasol am y maes.
11.Yn dibynnu ar brofiad a chymhwyster, i oruchwylio myfyrwyr (h.y cynnig lleoliadau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol os oes cyfle i wneud hynny).
12.I gwblhau’r canllawiau/gofynion gweinydddol angenrheidiol yn unol a chanllawiau, polisiau ac ymarfer.
13.I fynychu sesiynau hyfforddi gan anelu at wella sgiliau/ymarfer.
14.I helpu cydweithwyr i gario allan eu dyletswyddau. Bydd gofyn cydweithio a gweithwyr eraill ar draws y timau plant ac oedolion er mwyn gwella gwybodaeth a sgiliau ynglyn ag awtistiaeth.
15.Mewn amgylchiadau eithriadol, i ymgymryd a chyfrifoldebau er mwyn ymateb i sefyllfa o argyfwng.
16.Unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol fel y bydd angen gan bennaeth y gwasanaeth.
Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran I sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir I deilydd y swydd cydymffurfio a hyn.
Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir I ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’I graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol
Amgylchiadau arbennig
Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol pan fo angen.