Swyddi ar lein
Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
£41,177 - £43,149 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33336
- Teitl swydd:
- Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 23/11/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £41,177 - £43,149 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Helygain
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
CYFLOG: PS1 - £41,177-£43,149
Oriau - 37 hours
(Gweithio’n Hybrid)
Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod:
Halkyn
Mae Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol yn cefnogi’r Rheolwr(wyr) Llwybr yn effeithiol wrth reoli a darparu rhwydwaith diogel, dibynadwy ac effeithlon ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r rôl yn cynorthwyo mewn cydlynu a goruchwyliaeth o gynnal a chadw, gweithredol, a swyddogaethau gweinyddol dechnegol er mwyn sicrhau perfformiad effeithiol a gwydnwch y rhwydwaith. Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys rheoli arolygiadau ar y ffordd a chynnal gweithgareddau ymchwil yn unol â Deddf Ffyrdd newydd a Gwaith Stryd, gan gymhwyso Côd Ymarfer perthnasol ar ran Tîm Meddiannaeth ACGCC. Mae’r Rheolwr Llwybr Cynorthwyol hefyd yn cefnogi’r monitro ac gorfodi cydymffurfiaeth Deddf Priffyrdd 1980 i gefnogi uniondeb a gweithrediad rhwydwaith y briffordd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Rhys W. Williams on 07825 034028
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn
Dyddiad Cau / Closing Date: 23/11/2026 10:00am
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn tîm.
Hunan-reolaeth.
DYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau sylfaenol sy’n briodol i’r swydd
Hyder wrth ymwneud â chontractwyr neu weithwyr statudol eraill.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad perthnasol, neu
brofiad perthnasol eang.
Cymwysterau a hyfforddiant NRSWA i Oruchwylwyr (neu o fewn 6 mis o’r dyddiad penodi
DYMUNOL
Gradd mewn peirianneg sifil neu bwnc perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Cynnal a chadw neu wella priffyrdd ar rwydwaith cefnffyrdd neu briffyrdd allweddol.
DYMUNOL
Arolygiadau ac asesiadau priffyrdd
Ymdrin â chwynion,
Rheoli argyfyngau;
Goruchwylio contractau neu DSOs (Sefydliadau Llafur Uniongyrchol) mewnol neu weithlu arall.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd a deddfwriaeth gysylltiol.
Safonau rheoli traffig.
Yn wybodus o TG.
Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch.
Trwydded yrru ddilys gyfredol
DYMUNOL
Cyfarwydd â systemau rheolaethol cyfrifiadurol.
Gwybod am Archebu Gwaith neu systemau caffael eraill.
GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad
Mae’r Gymraeg yn ddymunol yn ardaloedd gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru
Mae’r Gymraeg yn hanfodol yn ardal gogledd orllewin Cymru
Darllen a deall
Mae’r Gymraeg yn ddymunol yn ardaloedd gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru
Mae’r Gymraeg yn hanfodol yn ardal gogledd orllewin Cymru
Ysgrifennu
Gwrando a Siarad
Darllen a Deall
Ysgrifennu
Mae’r Gymraeg yn hanfodol yn ardal gogledd orllewin Cymru
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i sicrhau y darperir rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).
•Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli’r gweithgarwch gweinyddol cynnal a chadw, gweithredol a thechnegol.
•Rheoli gofynion arolygu ac ymchwilio ffyrdd y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd (NRSWA) a gweithredu'r Codau Ymarfer perthnasol ar y rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Tîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC.
•Cynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth gyda darpariaethau gorfodaeth a thrwyddedu Deddf Priffyrdd 1980.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifol am reoli a chomisiynu rhaglenni gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, gwaith adweithiol a chyllidebau priodol ar gyfer cynnal a chadw’r rhwydwaith cefnffyrdd, gan ddefnyddio contractwyr sector cyhoeddus a phreifat yn y gadwyn gyflenwi.
•Cyfrifol am gadw trosolwg ar y gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau eraill o fewn y rhwydwaith cefnffyrdd.
•Cyfrifol am gomisiynu a chadw trosolwg ar Ddarparwyr Gwasanaeth a chontractwyr ACGCC sy'n ymgymryd â gweithgareddau mewn sefyllfaoedd argyfyngus ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Prif ddyletswyddau
Arolygiadau
Cydweithio gyda swyddogion Arolygu i sicrhau y cwblheir yr holl arolygiadau, patrols a’r mesuriadau arferol ac arbenigol ar elfennau perthnasol y rhwydwaith yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC (WGTRMM) neu unrhyw gynlluniau mabwysiedig eraill.
Cydweithio gyda swyddogion Arolygu i gynnal arolygiadau arbenigol ac adweithiol o’r isadeiledd yn ôl gofyn y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a diweddaru Cronfeydd Data LlC ar y cyd â’r timau Cyflawni ac Arolygu.
Rheoli arolygiadau gwaith stryd Adran 75 a gweithgareddau gwaith arolygu Adran 72 ar ran Tîm Meddiannaeth ACGCC (awdurdod strydoedd) fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd .
Cynnal a chadw
Sicrhau yr ymatebir yn briodol i rwystrau, namau a diffygion a nodir gan batrolau arolygu ac ati o fewn yr amserlenni gofynnol, gan gynnwys comisiynu, rheoli a goruchwylio gwaith brys ac unrhyw waith adweithiol arall yn ôl y gofyn gan ddefnyddio’r adnoddau priodol a mecanweithiau caffael.
Monitro’r gweithrediadau ar y rhwydwaith perthnasol a sicrhau diogelwch defnyddwyr y cefnffyrdd cymaint â phosib.
Monitro’r darpariaethau a’r rhagofalon rheoli risg a ddefnyddir gan y sawl sy’n cyflawni unrhyw weithrediadau o fewn y rhwydwaith.
Gweithredu’r gofynion sy’n berthnasol ar y ffyrdd o Ddyletswydd Adran 81 i Gynnal a Chadw Cyfarpar o dan NRSWA ac Adrannau 41 & 150 y Ddeddf Priffyrdd.
Asesu a chymeradwyo ceisiadau am drwyddedau, er enghraifft i leoli sgipiau, sgaffaldau, hysbysfyrddau neu wneud gwaith cloddio ar y rhwydwaith cefnffyrdd gan sicrhau y cydymffurfir â Deddf Priffyrdd 1980, ynghyd â thelerau ac amodau'r drwydded.
Cynorthwyo i reoli pob agwedd o gynnal a chadw a gweithrediaeth y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifol am gydlynu, cadw trosolwg a goruchwylio rhaglenni’r gweithgareddau cynnal a chadw arferol a chylchol fel a bennir gan y Rheolwr Llwybrau.
Asesu cyflwr yr isadeiledd priffyrdd, ar ôl cynnal gwaith ac i awdurdodi ailagor ffyrdd pan fo hynny’n briodol.
Monitro ac ymateb i weithgareddau, gan gynnwys:
•Ymateb mewn tywydd garw, gan gynnwys patrolau llifogydd
•Cynnal a chadw yn y gaeaf
•Ailosod Gwaith Stryd
•Tipio slei bach
•Arwyddion heb eu hawdurdodi
Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol a brys, sy’n cynnwys:
•Difrod damweiniau ffyrdd
•Coed peryglus
•Cynnal a chadw lleiniau gwelededd
•Malurion ar y ffyrdd
•Unrhyw ddiffygion neu rwystrau sy’n berthnasol i ddiogelwch ac sydd angen sylw ar frys
Cysylltu â Thîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC, Cydlynwyr Gwaith Stryd priodol eraill a thimau Cyflawni ac Arolygu ACGCC o ran rhaglennu gwaith a gwyriadau.
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i adnabod, rhaglennu a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw neu wella sy’n cynnwys gwariant refeniw a/neu gyfalaf.
Cysylltu ag eraill o ran materion cefnffyrdd, gan gynnwys:
•Llywodraeth Cymru a'u Darparwyr Gwasanaeth
•Swyddogion Traffig ACGCC a Chanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru
•Gwasanaethau Brys
•Darparwyr Gwasanaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd
•Sefydliadau statudol e.e. cyfleustodau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Highways England ac ati.
•Aelodau o’r cyhoedd;
•Perchnogion a datblygwyr tir;
•Eraill y cytunir arnynt â’r Rheolwr Llwybr.
Rhestr Gynnwys a Chofnodion Gweithredol
Cynorthwyo’r Rheolwr Llwybr a'r Tîm Cyflawni ac Arolygu i gasglu a chynnal a chadw gwybodaeth rhestr gynnwys isadeiledd cefnffyrdd.
Cynnal a chadw cofnodion gweithredol e.e. log digwyddiadau.
Rôl Rheoli Archwilio a Pherfformiad
Ymgymryd â rhaglen o fonitro, archwilio ac ymchwilio ar gyfer gweithgareddau a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth neu eraill (e.e. cyfleustodau) mewn perthynas ag Adran 65 NRSWA a PR 1.1.21.7 o WGTRMM.
Sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau a safonau.
Monitro perfformiad Darparwyr Gwasanaeth ac ymdrin â materion tanberfformio yn unol â gofynion yr Asiantaeth.
Rôl Rheoli Digwyddiadau
Ymgymryd â rôl Rheolwr Comander (Gweithredol) Efydd yr Asiantaeth pe bai digwyddiad brys fel y diffinnir dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Cynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfyngus i:
•Weithredu cynlluniau rheoli traffig, cau ffyrdd a gwyro llwybrau yn briodol.
•Gweithredu gwaith atgyweirio brys, neu lanhau isadeiledd priffyrdd.
•Asesu cyflwr isadeiledd priffyrdd, ar ôl digwyddiad ac awdurdodi ailagor y ffordd pan fo hynny’n briodol.
Rôl Rheoli Risgiau
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli risgiau ar y rhwydwaith cefnffyrdd drwy adnabod y risgiau. Sicrhau y gweithredir mesurau lleihau risg priodol e.e. ymdrin â rhwystrau neu ddiffygion Categori 1 a 2.
Gweinyddiaeth Dechnegol
Cynorthwyo’r Uned Fusnes i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch:
•hawliadau trydydd parti, hawliadau ad-dalu,
•adfer ffioedd sampl Adrannau 74 (Meddiannaeth) a 75 NRSWA,
•comisiynu a rheoli costau,
•ymgysylltu ag Awdurdodau sy’n Bartneriaid
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda phrosesau Rheolaeth Datblygu.
Rheoli Asedau
Cysylltu, hysbysu a chydweithredu â staff eraill yr Asiantaeth a’r Awdurdodau sy’n Bartneriaid wrth weithio ar fathau penodol o isadeiledd gan gynnwys:
•Asedau trydanol e.e. goleuo stryd;
•Arwyddion traffig e.e. diffygion goleuo ar arwyddion terfynol;
•Asedau strwythurol e.e. waliau cynnal;
•Asedau priffyrdd e.e. adeiladwaith y ffyrdd cerbydau;
•Asedau Geodechnegol e.e. rhwydo creigiau;
•Elfennau meddal yr ystâd e.e. torri gwair.
Sicrhau y caiff cofnodion priodol eu cadw, gan gynnwys cynorthwyo i gynnal a diweddaru gwybodaeth rhestrau cofnodi isadeiledd.
Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth.
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
•Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
•Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
•Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i gyflawni ei/eu dyletswyddau a chyfrifoldebau.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
•Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
•Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaid a chyrff perthnasol eraill.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr.
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 08:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) fel bo’r gofyn a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr mewn perthynas â gwaith neu weithgareddau arferol.
•Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn rhan o drefniadau rota 24 awr ar alw / wrth gefn yn ôl yr angen i gynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda rheoli digwyddiadau neu weithgareddau cynnal a chadw adweithiol.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
