NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg. Gallu i dderbyn cyfrifoldeb ac i gyfathrebu yn effeithiol. Y gallu i weithio’n dda o dan bwysau.
DYMUNOL
Personoliaeth ddymunol
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
NVQ 2 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
DYMUNOL
NVQ 2 neu gyfartal mewn gofal cwsmer
NVQ 3 neu gyfartal mewn pwnc megis Gweinyddiaeth neu Busnes.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o waith gweinyddol perthnasol.
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn llywodraeth leol gyda phobl sydd mewn angen.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Prosesu geiriau, basdata, taenlenni. Y gallu i weithio yn unigol ac fel aelod o dim, ac i flaenoriaethu Gwaith.
DYMUNOL
Y gallu i ymdrin a phobl o bob oedran a chefndir.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).