Swyddi ar lein
Peiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau
£38,510 - £40,444 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33217
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau
- Adran:
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Gwasanaeth:
- Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid
- Dyddiad cau:
- 25/10/2026 04:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £38,510 - £40,444 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Bryn Goodman Jones ar bryngoodmanjones@gwynedd.llyw.cymru neu Aled Rhys Hughes ar AledRHughes@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 16:00 O’R GLOCH, 25/10/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
• Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
• Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun
DYMUNOL
• Yn meddu ar drwydded yrru llawn
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Yn meddu ar brofiad perthnasol mesuradwy i’r swydd
• Ardystiad proffesiynol cyfredol o’r diwydiant TG, megis rhai - Microsoft, Citrix, A+ neu debyg
DYMUNOL
• Yn raddedig mewn disgyblaeth TG neu debyg
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Yn awdurdod technegol / arbenigwr ar faes penodol
• Profiad o gefnogi, cynnal a chadw a gweinyddu systemau corfforaethol TG
• Profiad o gefnogi elfen/nau o amgylchedd MS 365
DYMUNOL
• Profiad o gefnogi rhai o brif systemau canolg TG a ddefnyddir gan y Cyngor
• Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
• Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
• Medru datrys problemau yn rhesymegol.
• Sgiliau cofnodi cadarn, ac y gallu i ddogfennu adroddiadau i gynulleidfa technegol a/neu annhechnegol
• Gwybodaeth fanwl o, ac y gallu i weinyddu, ffurfweddu a cynnal a chadw:
o Systemau ebost corfforaethol (Exchange)
o Systemau gweithredu
o Active Directory
o Systemau SaaS
• Defnyddio/creu sgriptiau i ffurfweddu, cynnal a chadw a gweinyddu systemau TG
DYMUNOL
• Arbenigedd ar gefnogi, gweinyddu, dadansoddi a cynnal a chadw: -
o Amgylchedd Microsoft 365, gan gynnwys :
Exchange
Teams
Sharepoint Online
Purview
‘Conditional access’
o Technoleg rhithwir (VMware/Hyper-V)
o Systemau cadw wrth gefn
o Microsoft Windows Server (fersiynau cyfredol)
o Exchange (On premise)
o SMTP
o AZURE
o Entra
o Technoleg dilysu diogel (OAuth, SAML a.y.b.)
o Active Directory
o IIS (fersiynau cyfredol)
• Gwybodaeth o ddefnydd SQL management studio
• Gwybodaeth o’r model ITIL.
• Systemau Rheolaethol a monitro
• Gwybodaeth o safonau perthnasol e.e. ISO27001.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Yn gyfrifol am darparu, diogelu, gweinyddu, gweithredu, ehangu a chynnal a chadw systemau canolog Technoleg Gwybodaeth y Cyngor.
• Cefnogi systemau TG i Sicrhau parhad gwasanaeth
• Cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i sicrhau diogelwch systemau a phreifatrwydd data, gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth, ac yn atebol am sicrhau bod yr holl gysylltiadau data yn ddiogel ac yn gweithredu i'r lefelau a ragwelir, yn cydymffurfio â safonau perthnasol a pherchnogi datrysiadau a gwelliannau lle bo angen.
• Gwerthuso technolegau newydd a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau systemau, a chynnig datrysiadau arloesol o fudd i wasanaethau Cyngor Gwynedd, a phensaernio a chefnogi rheini
• Yn gyfrifol am fonitro cymwysiadau, basau data a systemau hanfodol.
• Darparu’r sgiliau angenrheidiol a datblygu, gweithredu, cynnal a chefnogi datrysiadau meddalwedd sy’n cwrdd ag amcanion busnes.
• Adrodd ar berfformiad y systemau canolog, a chasglu data a gwybodaeth i gynllunio darpariaeth TG y dyfodol.
• Rhoi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnodau cynllunio prosiectau
• Sicrhau y cefnogir y maes digidol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor a/neu y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth
• Ar gyfer prosiectau sicrhau bod pob elfen cyraeddadwy yn cael ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, yn glynu wrth y safonau diogelwch yn unol â’r manylion ac yn cydymffurfio â pholisïau Cyngor Gwynedd.
• Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleoedd ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
• Bod yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad parhaus systemau corfforaethol TGCh y Cyngor
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
• Rhoi arweiniad a chefnogaeth i eraill yn y gwasanaeth yn eu maes arbenigol
• Gall fod yn arweinydd technegol mewn prosiectau technegol y Cyngor
• Bod yn adnodd technegol i eraill yn yr adran neu’r Cyngor.
• Monitro gwaith
Cyllid:
• Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect / contract cefnogi.
• Archwilio mentrau bychain / canolig
Data/Offer/Meddalwedd
• Bod â mewnbwn i agweddau technegol prosiectau sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn ei chylch).
• Rhoi cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i gymwysiadau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
• Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
• Cysylltu gyda phartïon allanol i ddatrys materion
• Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cymwysiadau
Prif Ddyletswyddau. .
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
• Darparu cymorth technegol ac arweiniad i Ddesg Gymorth TG yn ôl yr angen, cefnogi defnyddwyr, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddarparu cymorth ail a drydedd linell a cynnal a chadw holl amgylchedd Microsoft 365 y Cyngor, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i:
• POB agwedd System ebost corfforaethol gan gynnwys y systemau hidlo
• MS Teams
• Amgylchedd Sharepoint online
• Purview (diogelwch a cydymffurfiad)
• Cyfrifon digidol oll staff y Cyngor a cyfrifon ymwelwyr sydd wedi eu creu ar yr amgylchedd
• Cysylltiadau pecynnau diogel a dulliau (Entra Applications)
• Darparu cefnogaeth ar gyfer amgylchedd clwstwr HA Microsoft SQL a’u basau data >200, gan gynnwys sefydlu o’r Newydd a mudo rhai presennol.
• Darparu cefnogaeth technegol ar gyfer systemau 3ydd parti ac unrhyw cymwysiadau/system sy’n gysylltiedig
• Sicrhau bod holl systemau o dan eu rheolaeth yn cael ei ddiweddaru o safbwynt eu diogelu yn gyson, a hyn yn unol a polisi ac amserlen patchio’r Cyngor
• Bod yn rhagweithiol a cyhoeddi systemau/adnoddau newydd yn brydlon i sicrhau gwerth am arian gyda buddsoddiadau mae’r Cyngor wedi ei wneud mewn dechnoleg
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Cynnal dogfennaeth o safon uchel ar gyfer pob maes cyfrifoldeb yn ôl yr angen
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
• Rhoi cymorth technegol i eraill.
• Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
• Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleoedd newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
• Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig
• Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
• Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch
• Mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu dogfennu
• Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i systemau TGCh y Cyngor.
• Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
• Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
Cyfathrebu:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr
• Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
• Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol
• Paratoi chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
• Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Arall:
• Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd
• Gall fod yn ymgynghorydd i’r busnes er mwyn gwella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
• Gweithio ar sawl tasg yr un pryd
• Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt
Cyffredinol:
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.
