Pwrpas y swydd
•Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau amlddisgyblaethol yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
•Cefnogi’r Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglenni gyffredinol o brosiectau refeniw a chyfalaf yr Asiant.
•Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar weinyddu contractau a chaffael prosiectau.
•Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad i monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunir.
•Bod yn rheolwr prosiect i’r gwasanaethau contractwyr a ymgynghorwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (darparwyr gwasanaeth LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
•Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol.
•Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
•Rheoli basdata y Fframwaith Contractau.
Prif ddyletswyddau
Rheoli Prosiect
•Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl gontractau’r Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
•Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais penodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni;
•Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect;
•Arddel egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2;
•Cysylltu gyda darparwyr Awdurdod Partneriaid a sector preifat ynghylch prosiectau yn cynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol;
•Cysylltu gyda’r Uned Cyflawni ac Archwilio yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau;
•Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i gau prosiectau, yn cynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
•Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant i weinyddu contractau a phrosiectau chaffael.
•Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunir. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:
•Adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid a pharatoi prosiectau brîff.
•Sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
•Cytuno ar raglen a brîff y prosiect.
•Cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
•Cysylltu â staff perthnasol LlC.
•Bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect a rheoli’r gyllideb yn eu cyfanrwydd.
•Cytuno ar a chymeradwyo iawndal.
•Adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol.
•Derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
•Cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
•Adrodd ar y gwariant hyd yn hyn, a phroffil gwariant y dyfodol wrth Uned Fusnes yr Asiant.
•Trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
•Adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
•Sicrhau y caiff prosiectau eu cau’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
•Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
•Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglen
•Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
•Cefnogi y Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
•Galluogi i gyflawni’r rhaglenni drwy y gwasanaeth caffael ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth.
Dyletswyddau Technegol Eraill
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, a monitro ac adnewyddu fframwaith contractau yr Asiant.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system prosiectau rheoli SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
•Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn eu gweithdrefnau caffael.
•Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac cwblhau y gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
•Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynllun drwy broses fidio’r Asiant.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
•Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiant, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, yn cynnwys:
•Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
•Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
•Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
•Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
•Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
•Contractau NEC3
•Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
•Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMA
Rheoli Perfformiad
•Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
•Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau ar gyfer archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
•Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
•Mynd i’r afael â meysydd lle mae diffyg perfformiad gan y darparwr gwasanaeth.
•Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
•Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol ar bob achlysur.
Cyffredinol
•Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
•Meithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
•Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
•Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda budd-ddeiliaid.
•Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
•Ymweld â safleoedd adeiladu.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).