Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi rheolwyr safleoedd y Cyngor i ddatrys problemau hefo’u hadeiladau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer mesur, camera, ffon symudol ayb
•Fan os yn berthnasol
Prif ddyletswyddau
•Gweithredu system i drwsio pethau sydd wedi torri neu angen eu cynnal a’u cadw yn adeiladau’r Cyngor.
•Sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn sydd yn bwysig i’r cwsmer gan ganolbwyntio ar dasgau sy’n cynrychioli gwerth.
•Gweithredu trefniadau i gasglu tystiolaeth am y galw a’r ffordd yr ydym yn delio ag o drwy gasglu tystiolaeth gan gynrychiolwyr yr adeiladau, contractwyr ac eraill allai fod yn cyfrannu tuag at y gwaith.
•Holi treiddgar a chynhwysfawr er mwyn cael dealltwriaeth lawn o’r broblem a’r amgylchiadau o ran cyflawni y gwaith.
•Datblygu a chofnodi ceisiadau am waith ar adeiladau a threfnu, neu geisiadau am wybodaeth am adeiladau a threfnu i ddiwallu’r ceisiadau.
•Delio a cheisiadau am waith arferol sy’n deillio o adroddiadau gwasanaethu cylchol
•Cynghori gweithwyr ar safleoedd ynglyn a beth i’w wneud pan fo problemau hefo’r adeiladau.
•Dehongli gwybodaeth a phenderfynu ar y trywydd gorau o ran gweithredu.
•Comisiynnu contractwyr gan ddilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynnu a rheoli contractwyr.
•Tynnu ar gefnogaeth sy’n ychwanegu gwerth os nad ydy’r sgiliau a’r wybodaeth ganddoch i ddatrys yr ymholiad eich hun.
•Cofnodi gwybodaeth gywir, eglur a chyfredol ar system y Cyngor.
•Casglu a chofnodi adborth gan gontractwyr a chwsmeriaid.
•Dod i ddeall y galw am y gwasanaeth drwy dystiolaeth.
•Gweithredu ar y dystiolaeth i wella a datblygu’r system a newid natur y galw.
•Adnabod rwystrau i ddarparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithlon a chefnogi Arweinydd y system i gael gwared á’r rhwystrau.
•Sicrhau bod ansawdd yn rhan greiddiol o bob cam o’r gwaith.
•Cymryd perchnolgaeth o geisiadau am waith o’r dechrau i’r diwedd.
•Ymdrin ag anfonebau gan gontractwyr a dilyn prosesau gweithredu cyllidol y Cyngor.
•Cymryd penderfyniadau ar sail arbenigedd yn y gwaith.
•Gweithredu mewn ffordd ddiogel ac yn unol á rheoliadau iechyd a diogelwch, polisiau’r Cyngor a chynlluniau rheoli risg.
•Cynghori a rhoi arweiniad, a phenderfyniadau ar faterion technegol i aelodau eraill y tim (yn benodol lefel 1) ar bob adeilad ym mherchnogaeth y cyngor.
•Ymweld â safleoedd i syrfeo adeiladau a phenderfynu ar y ffordd orau i ddelio á phroblemau.
•Archwilio gwaith i sicrhau ei fod yn cwrdd a safonau, yn unol a rheoliadau iechyd a diogelwch ac yn cynrychioli gwerth am arian.
•Paratoi manylebau gwaith, dyluniadau ac apwyntio contractwyr a neu ymgynghorwyr, yn unol â rheoliadau arianol y Cyngor.
•Rhedeg prosiectau adeiladu boed yn gynnal a chadw neu brosiectu addasu.
•Comisiynnu ymgynghorwyr i ychwanegu gwerth pan fo’r angen. Dadansoddi argymhellion yr ymgynghorwyr, dod i gasgliadau a gweithredu’n briodol.
•Delio a cheisiadau am waith cymhleth sy’n deillio o adroddiadau gwasanaethu cylchol
•Delio gyda galwadau cynnal a chadw sy’n golygu gwaredu neu ymdrin ag asbestos.
•Gweithredu fel Pencampwr Adeilad ar gyfer adeiladau penodol drwy redeg a chynghori ar gynlluniau sy’n cael eu cyllido gan y Rheolwyr Safle, cynorthwyo a chynghori ar adroddiadau Iechyd a Diogelwch, delio efo ceisiadau am ganiatad i wneud gwaith (C1+C2) gan Reolwyr Safle a delio gyda galwadau cynnal a chadw cymhleth yr adeiladau hynny.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Mae’r gwasanaeth cynnal a chadw yn wasanaeth 24/7 a bydd aelodau’r tim yn rhan o rota i ddarparu gwasanaeth tu allan i oriau swyddfa arferol (sydd heb ei gynnwys yn y cyflog sylfaenol). Bydd y swyddogion yn gweithio i drefn rota er mwyn sicrhau presenoldeb digonol yn y swyddfa i ddelio a galwadau ar unrhyw un adeg rhwng 8 y.b. a 5 y.p.