Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Arwain datblygiadau a gweithredu systemau a phrosesau sy’n sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion y Drwydded Gweithredwr. Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu rhaglenni hyfforddiant i yrwyr, yn cynnal archwiliadau mewnol o wasanaethau sy’n ymwneud â’r fflyd, ac yn cefnogi gwelliant parhaus ar draws gweithrediadau trafnidiaeth yr awdurdod.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff a’r gweithlu sy’n gysylltiedig a’r dyletswyddau a nodwyd. Unrhyw offer, cerbyd, beiriant, nwyddau a gweithdai sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd. Cyllideb sy’n gysylltiedig a’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif ddyletswyddau
Cydymffurfiaeth a Datblygu Systemau
•Datblygu a chynnal systemau i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â rhwymedigaethau’r Drwydded Gweithredwr.
•Monitro newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gorau, gan roi cyngor i’r Rheolwr Fflyd ac uwch swyddogion.
•Cynnal cofnodion cywir o weithrediadau’r fflyd, archwiliadau, a dogfennaeth cydymffurfiaeth.
Hyfforddiant a Datblygiad
•Dylunio a darparu rhaglenni hyfforddiant i yrwyr a staff gweithredol, gan gynnwys hyfforddiant anwytho, datblygiad proffesiynol parhaus, ac adfywiol.
•Gwerthuso effeithiolrwydd hyfforddiant ac addasu rhaglenni i ddiwallu anghenion sy’n newid.
•Hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch, proffesiynoldeb, a gwelliant parhaus.
Archwilio a Sicrhau Ansawdd
•Cynllunio a chynnal archwiliadau mewnol o weithrediadau’r fflyd o fewn Cyngor Gwynedd, gan gynnwys cynnal a chadw cerbydau, cofnodion yrwyr, a gweithdrefnau gweithredol.
•Cynhyrchu adroddiadau archwilio gyda chanfyddiadau clir a chynnig argymhellion ar gyfer gwelliant.
•Cefnogi gwasanaethau i weithredu camau cywiro a monitro cynnydd.
Cydweithio a Chefnogaeth
•Gweithio’n agos gyda rheolwyr gwasanaeth, staff gweithdai, Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol i sicrhau bod gweithrediadau’r fflyd yn cyd-fynd â nodau’r sefydliad.
•Cynrychioli’r awdurdod mewn fforymau allanol a grwpiau gwaith sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth a datblygiad y fflyd.
•Darparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud â’r fflyd i wasanaethau a swyddogion.
Cynllun Fflyd Werdd
•Arwain ar drawsnewid Fflyd y Cyngor i Fflyd o gerbydau allyriadau isel gan gynnwys creu manylebau ac archebu cerbydau.
•Cynhyrchu dogfennau perthnasol a hyfforddiant yn ymwneud a’r defnydd o gerbydau allyriadau isel.
•Cydlynu a pherchenogi trefniadau gwefru mewnol y Cyngor. Yn cynnwys fod y prif bwynt cyswllt i swyddogion, adolygu perfformiad pwyntiau gwefru ac adnabod lleoliadau i osod pwyntiau newydd.
•Fod yn gyfrifol am y peiriannau gwefru sydd a osodir ar safleoedd y Cyngor i ddibenion y Fflyd.
•Archebu a monitro y defnydd o gardiau wrth wefru ac adrodd fel yr angen perfformiad cerbydau gwyrdd.
•Adnabod cyfleoedd ar draws y Cyngor i leihau'r Fflyd neu gyfleoedd i arbed arian.
Cyffredinol
•Fod yn ymwybodol o Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac i gydweithredu gyda’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Cyngor er mwyn sicrhau bod yn cwrdd â’r ddeddfwriaeth.
•Cyfrifoldebau eraill sydd yn gymesur a’r swydd yn unol â’r Uwch Reolwr.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data”.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith arferol i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.