Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymdeithasol AMHP Iechyd Meddwl
£46,142 - £48,226 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-32958
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymdeithasol AMHP Iechyd Meddwl
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl
- Dyddiad cau:
- 04/08/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £46,142 - £48,226 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Teressa Williams ar 01286 680882 neu drwy ebost: teressamargaretwilliams@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
Ebost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 04/08/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan ddibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr.
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a creu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, plant a theuluoedd.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol a Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP neu gyda’r gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP a’i fod wedi’i gymeradwyo o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol
Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
Dymunol
Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Dymunol
Profiad o weithio gyda unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl
Profiad o weithio yn agos gyda’r sector statudol ac anstatudol.
Profiad o wneud gwaith llys
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas .
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er bydd y gwasanaeth a datblygiad personol
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Dymunol
Sgiliau gwaith llys
Gwybodaeth am y maes iechyd meddwl – e.e. datblygiadau yn y maes, y rhan mae cyllid yn chwarae mewn darparu gwasanaeth.
Gwybodaeth am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleisant, 2014, Y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a’r Ddeddf Iechyd Meddwl, 1983.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithio fel aelod o dîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl. Bydd y swydd yn gyfrifol am asesu, trefnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd a phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr. Yn ogystal a hyn disgwylir i ddeilydd y swydd gysylltu a gweithwyr cymunedol eraill o’r sector statudol a’r sector wirfoddol pan fo’n briodol er mwyn cyd drefnu’r gwasanaeth a gyflawnir. Bydd hefyd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fel Gweithiwr Cydnabyddedig (AMHP) neu gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer Gwaith: Ffon symudol, Gliniadur ayb
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau AMHP (Iechyd Meddwl)
•Gweithredu fel Gweithiwr Cymdeithasol (RSW) ac fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn y Tîm Iechyd Meddwl.
•Ymgymryd gwaith statudol yn unol a’r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig Cydnabyddedig (AMHP) neu gyda’r gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP a’i fod wedi’i gymeradwyo o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.
•Cynnal eich statws proffesiynol trwy hyfforddiant ôl gymhwyso a goruchwyliaeth reolaidd.
Gweithiwr Cymdeithasol (hyd at blwyddyn 4 )
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Gweithiwr Cymdeithasol (hyd at blwyddyn 7)
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad trwy fentora.
•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl fentora.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i
•ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
•Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai
•profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.
Dyletswyddau Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-
