Pwrpas y swydd
•Rhoi cefnogaeth weinyddol i’r Gwasanaeth Maethu.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Rhoi cefnogaeth weinyddol – teipio, ffeilio, ateb y ffon a sicrhau gweithrediad o sustemau gweinyddol mewnol y Cyngor ( gwyliau, salwch, amserlenni ayyb) a threfnu cyfarfodydd .
•Trefnu i gasglu ystadegau a data rheoli perfformiad a’i gofnodi yn ôl yr angen.
•Sicrhau stoc priodol nwyddau ac offer swyddfa ar gyfer gwaith y gwasanaeth, gan gynnwys prosesu anfonebau i’w talu.
•Gweinyddu Panel Maethu Gwynedd sy’n golygu trefnu’r cyfarfod, anfon allan adroddiadau, cymryd cofnodion a chysylltu ag aelodau i gadarnhau cworwm. Mae hefyd yn angenrheidiol cymryd rhan mewn hyfforddiant panel maethu'r un pryd ag aelodau’r panel.
•Gweinyddu bas-data a chadw cofnodion er mwyn effeithloni cydymffurfiaeth y gwasanaeth a Rheoliadau Maethu (Cymru) 2003. Golyga hyn cadw manylion rhieni maeth yn gyfredol er mwyn cadw cofrestr, cofnodi cwynion, honiadau. Gyrru allan pecynnau maethu, gwiriadau CRB, ymholiadau gydag asiantaethau eraill, gwirio ceisiadau yn erbyn Cofrestr Amddiffyn Plant Gwynedd a gwiriadau meddygol ayyb yn ôl yr angen.
•Sicrhau trefniant effeithiol ar gyfer hysbysu Awdurdodau Lleol eraill o leoliadau gan Gwynedd o fewn eu ffiniau.
•Gweinyddwr dynodedig gwasanaethau plant ar gyfer sicrhau gweithrediad effeithiol o’r CSSR. Gan fod hwn yn adnodd cenedlaethol ac yn ddatblygiad newydd a blaenoriaeth gan y Cynulliad mae dealltwriaeth o ofynion yr adnodd a’u gweithredu yn hanfodol.
•Sicrhau trefniadaeth effeithiol ar gyfer Panel Adnoddau wythnosol – trefnu ystafell, sicrhau derbyn adroddiadau a’r gwaith papur angenrheidiol, cofnodi.
•Sicrhau bod gwybodaeth am leoliadau plant wedi ei fewnfwydo i fas-data plant mewn gofal.
•Cynorthwyo gweinyddydd Mabwysiadau i gyflawni tasgau statudol yn ôl yr angen.
•Unrhyw ddyletswyddau eraill priodol ar gais y Pennaeth Gwasanaeth.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith a chydymffurfio gyda’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
-