NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu i ddatblygu perthnasau positif ac effeithiol gyda pobl ifanc, yn enwedig rheiny sydd ‘dan risg neu yn wynebu digartrefedd
- Gallu i hunan-reoli a blaenoriaethu gwaith
- Gallu i wneud penderfyniadau a bod yn heriol, mentrus a parod i weithredu.
- Gallu i weithio fel rhan o dim a sefydlu a chynnal perthnasau cefnogol gyda cydweithwyr a phartneriaid.
- Gallu i fod yn hyblyg a creadigol yn eu ffordd o weithio ac wrth ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc
- Gallu i weithio oddi fewn i ffiniau proffesiynol
- Gallu i arddangos empathi a gallu i wrando ar anghenion unigolion a gweithredu i ymateb.
- Gallu i negyddu ar ran unigolion bregus.
- Gallu i weithio yn unigol ac fel rhan o dîm
- Gallu i weithio ‘dan bwysau
- Ymrwymiad cryf i ofal cwsmer.
DYMUNOL
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, ac o dan gyfarwyddyd mwy nag un Arweinydd / Tîm darparu
- Gallu datrys problemau mewn ffordd greadigol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Addysg dda hyd at Lefel A neu
- Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan ETS Cymru) neu
- Cymhwyster Lefel 3 mewn Astudiaethau Tai (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan CIH).
DYMUNOL
- Cymhwyster Lefel 4 neu uwch mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan ETS Cymru) neu
- Cymhwyster Lefel 4 neu uwch mewn Astudiaethau Tai (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan CIH).
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad eang o weithio gyda pobl ifanc bregus, wedi dadrithio, heb eu hysgogi, sy’n wynebu rhwystrau cymhleth
- Profiad yn y maes Tai neu unrhyw faes ymylol
- Profiad o ddefnyddio technegau cymhelliant i weithio / cefnogi pobl ifanc
- Profiad o rwydweithio, negyddu gyda ystod eang o bartneriaid a gwasanaethau arbenigol yn y maes ymgysylltiad pobl ifanc.
- Profiad o weithio mewn tîm / tîm aml-ddisgyblaethol.
DYMUNOL
- Profiad o weithio gyda rheini / gofalwyr i bobl ifanc fregus.
- Profiad o gyflawni gwaith ymestyn allan yn y gymuned
- Profiad o dracio gynnydd ac adrodd ar ganlyniadau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Dealltwriaeth a gweithredu oddi fewn i weithdrefnau diogelu
- Gallu cynnal a gwarchod cyfrinachedd unigolion a delio’n briodol gyda gwybodaeth sensitif a bersonol.
- Dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad.
- Dealltwriaeth o anghenion y grŵp cleient
- Sgiliau TG
- Sgiliau Cyfathrebu a cyflwyno da
- Y gallu i ysgogi eich hun ac eraill
- Meddiant ar drwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd.
DYMUNOL
- Gwybodaeth o ddarpariaethau ar gyfer y grŵp cleient.
- Gwybodaeth o systemau lles / budd-daliadau y Ganolfan Byd Gwaith
- Profiad o ddarparu hyfforddiant.
- Sgiliau casglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth.
- Sgiliau cymodi.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).