Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhob agwedd o waith y Cyngor er mwyn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bobl Gwynedd.
•Darparu cefnogaeth craffu effeithlon
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dim
Prif ddyletswyddau
Hybu a hyrwyddo’r Gymraeg
•Monitro gweithrediad Strategaeth Iaith 2023-2033 a chasglu data blynyddol gan swyddogion
•Datblygu a gweithredu cynllun marchnata ar gyfer cynllun gweithredu Strategaeth Iaith 2023-2033
•Ysgrifennu datganiadau i’r wasg a chreu cynnwys addas ar gyfer y wasg, cyfryngau a chyfrifon cymdeithasol
•Cyflawni rôl swyddog prosiect ar gyfer prosiectau amrywiol sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg
•Llunio rhaglen waith prosiectau, adrodd ar gynnydd a sicrhau bod y targedau yn cael eu cyflawni.
•Sicrhau bod adrannau yn cydymffurfio gyda pholisi iaith y Cyngor a Safonau’r Gymraeg drwy gynnal arolygon ar hap
•Ymgymryd â gwaith ymchwil amrywiol gan gynnwys ymarfer da gan eraill o ran hybu’r Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill.
•Ddarllen, deall, ymgymryd â gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth er mwyn llunio sylwadau ar asesiadau effaith ar y Gymraeg a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio.
•Gweithredu fel ceidwad y log asesiadau effaith a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio
•Darparu cymorth i swyddogion greu asesiadau effaith ar y Gymraeg yn unol â Safonau’r Gymraeg
•Cydlynu a gweinyddu Cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen y Gymraeg a Fforwm Iaith Gwynedd a chydweithio gyda’r Cadeirydd annibynnol a rhanddeiliaid eraill
•Sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â Mesur y Gymraeg 2011 a Safonau’r Gymraeg
Cefnogaeth i bwyllgor craffu
•Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i Aelodau Etholedig a Rheolwyr ym maes craffu.
•Datblygu a gweithredu cynllun marchnata ar gyfer gwaith y pwyllgorau craffu
•Ysgrifennu datganiadau i’r wasg a chreu cynnwys addas ar gyfer y wasg, cyfryngau a chyfrifon cymdeithasol
•Datblygu trefniadau er mwyn sicrhau gwell mewnbwn gan y cyhoedd i drefnidadau craffu’r Cyngor
•Gweithredu fel ceidwad y log craffu a chynorthwyo’r i fonitro cynnydd gwaith y pwyllgorau craffu unigol.
oArwain a chynnal Ymchwiliadau Craffu a Grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer gwahanol bwyllgorau craffu’r Cyngor drwy gynghori aelodau ar y trywydd cywir
•Cynghori aelodau yn unol â deddfwriaethau perthnasol.
•Darparu adroddiadau yn seiliedig ar drafodaethau Ymchwiliadau craffu a Grwpiau Tasg a Gorffen
•Gweithredu fel rhan o dîm sy’n creu rhaglen waith blynyddol ar gyfer craffu, ei diweddaru yn gyson ac adrodd yn flynyddol ar lwyddiannau craffu.
•Cyfrannu tuag at gynnal a chefnogi y Fforwm Craffu.
•Ymgymryd â gwaith ymchwil amrywiol gan gynnwys ymarfer da gan eraill yn y maes craffu
•Sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu yn unol a deddfwriaethau perthnasol i’r maes craffu e.e. Deddf Llywodraeth Leol, Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ayyb.
•Darparu hyfforddiant perthasol i'r maes craffu a’r Gymraeg
•Cynorthwyo’r Ymgynghorydd Craffu, Ymgynghorydd y Gymraeg ac Uwch Ymgynghorydd Y Gymraeg a Chraffu gyda thasgau fel bo’r angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
•-