Lleoliad: Drenewydd, Llandrindod neu Aberystwyth
Ni yw'r tîm sy'n gyfrifol am reoli, arolygu, cynnal a chadw a gwella dros 1,000 cilomedr o ffyrdd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, gan gynnwys twneli'r A55, dros 2,000 o strwythurau ffyrdd a llawer o asedau eraill. Ein gwaith ni yw cadw'r rhwydwaith ffyrdd i symud, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae hynny'n llawer o ffyrdd. Ond nid dyna'r unig beth a wnawn, rydym hefyd yn diogelu cynefinoedd naturiol ar ochr y ffordd ac yn lleihau effaith amgylcheddol gweithgareddau ar hyd y rhwydwaith ffyrdd. Rydym yn brysur yn cynllunio, plannu a gwarchod y tir i wneud yn siŵr bod pob taith yn wyrddach ac yn llawn bywyd gwyllt hapus.
Mae rheoli'r rhwydwaith ffyrdd o ddydd i ddydd yn waith mawr, felly y tu ôl i'n timau rheng flaen mae tîm mwy y tu ôl i'r llenni sy'n darparu cefnogaeth mewn ffyrdd sy'n hanfodol ond nad ydynt bob amser yn weladwy i'r cyhoedd.
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 23/06 a 25/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch cynllunyfory@gwynedd.llyw.cymru neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.