Swyddi ar lein
Prentis Coedyddiaeth ACGCC
Gweler Hysbyseb Swydd | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 26-31525
- Teitl swydd:
- Prentis Coedyddiaeth ACGCC
- Adran:
- Prentisiaethau
- Dyddiad cau:
- 29/05/2026 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro dwy flynedd
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad: Bangor, Conwy, Dolgellau neu Helygain
Ni yw'r tîm sy'n gyfrifol am reoli, arolygu, cynnal a chadw a gwella dros 1,000 cilomedr o ffyrdd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, gan gynnwys twneli'r A55, dros 2,000 o strwythurau ffyrdd a llawer o asedau eraill. Ein gwaith ni yw cadw'r rhwydwaith ffyrdd i symud, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae hynny'n llawer o ffyrdd. Ond nid dyna'r unig beth a wnawn, rydym hefyd yn diogelu cynefinoedd naturiol ar ochr y ffordd ac yn lleihau effaith amgylcheddol gweithgareddau ar hyd y rhwydwaith ffyrdd. Rydym yn brysur yn cynllunio, plannu a gwarchod y tir i wneud yn siŵr bod pob taith yn wyrddach ac yn llawn bywyd gwyllt hapus.
Mae rheoli'r rhwydwaith ffyrdd o ddydd i ddydd yn waith mawr, felly y tu ôl i'n timau rheng flaen mae tîm mwy y tu ôl i'r llenni sy'n darparu cefnogaeth mewn ffyrdd sy'n hanfodol ond nad ydynt bob amser yn weladwy i'r cyhoedd.
Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Cymhwyster sy'n gysylltiedig â choedwigaeth sy'n cyfateb i gymhwyster Lefel 2 a pharodrwydd i gyflawni lefel 4 neu
- Profiad perthnasol a pharodrwydd i gyflawni cymhwyster lefel 2 sy'n gysylltiedig â choedwigaeth.
DYMUNOL
- Tystysgrif Archwiliwr Coed Proffesiynol LANTRA
- Aelodaeth broffesiynol o gorff proffesiynol addas megis Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu'r Gymdeithas Goedwigaeth.
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio yn yr awyr agored yn ddelfrydol o fewn yr amgylchedd naturiol a / neu gyda choed trefol.
- Profiad o adnabod coed
- Profiad o ddefnyddio tabled a chyfrifiadur.
DYMUNOL
- Profiad o weithio / astudio Coedwigaeth / coedwigaeth drefol.
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o weithio mewn adeiladwaith amgylcheddol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Y gallu i gyflawni gwaith ar amser
- Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu a chyflwyno da.
- Gallu addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
- Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth a cyfarwyddiadau.
- Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli cyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth.
- Y gallu i gyflwyno rhaglenni gwaith
- Dealltwriaeth benodol o feddalwedd TG a ddefnyddir i reoli cynnal a chadw coed, e.e. Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac offer cronfa ddata
- Trwydded yrru ddilys gyfredol
DYMUNOL
- Yn gyfarwydd â'r Cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
- Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
- Y gallu i gwblhau asesiadau risg
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu gweithio dan bwysau
- Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
- Gallu gweithio gyda eraill.
ANGHENION IEITHYDDOL
Cymraeg yn ddymunol, Saesneg yn hanfodol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Cynorthwyo gyda reoli'r coed, coedwigoedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
- Cynorthwyo gyda arolygon diogelwch coed ac archwiliadau cyflwr coed ar hyd llwybrau cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
- Cynorthwyo gyda cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coedwigoedd, gwrychoedd ac ystâd feddal gysylltiedig a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
- Cynorthwyo’r tîm Amgylcheddol ACGCC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a, ble bo angen, gwneud arolygon neu archwiliadau o isadeiledd ystâd feddal.
- Cynorthwyo a rhoi cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheolaeth ystâd feddwl i staff ACGCC.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
- Cynorthwyo gyda trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith i gwrdd â thargedau a dyddiadau cwblhau
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau WGTRMM wedi'u cynllunio ac adweithiol a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth
- Cynorthwyo gyda rheoli Contractwyr (20+)
- Offer archwilio (sbienddrych, dyfais mesur pellter, dyfais tynnu llun digidol)
- Mynediad i gerbyd
Prif Ddyletswyddau
Arolygon ac Archwiliadau
- Arolygon diogelwch coed
Cynorthwyo gyda archwiliadau coed a gwrychoedd systematig ar hyd y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC). Mae hyn yn cynnwys bob coeden o fewn pellter disgyn o’r briffordd neu sy’n achosi rhwystr i welededd neu oleuadau, y rhai sy'n tyfu yn ystâd feddal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ogystal â choed trydydd parti mewn perchnogaeth breifat. Mae hefyd yn cynnwys coed sy'n tyfu yn yr ystâd feddal sydd o fewn pellter disgyn i eiddo trydydd parti.
Bydd angen casglu cofnodion arolygon yn y maes gan ddefnyddio dyfeisiau llaw sy’n tynnu lluniau digidol sydd â GPS ynddynt. Cesglir rhestr eiddo coed, data'r cyflwr a gweithrediadau rheoli ar gyfer coed a gwrychoedd.
Rhoddir blaenoriaeth ac asesiad risg i namau, a neilltuir gweithrediadau a argymhellwyd. Ble bo angen, efallai bydd angen arolygon ac archwiliadau pellach ar goed unigol. Mewnbynnu a chynnal a chadw data o fewn systemau rheoli asedau (ENVIS) Llywodraeth Cymru a systemau rheoli coed.
Cynorthwyo gyda monitro archwiliadau er mwyn gwirio bod gwaith wedi'i gwblhau ar namau a adnabuwyd ar goed yn yr arolwg. Adborth a chydweithrediad gyda'r Tîm Busnes er mwyn sicrhau y cedwir systemau rheoli coed yn gyfredol.
- Coedwigoedd
Cynorthwyo gyda arolygon ac archwiliadau o'r coedwigoedd a lleiniau wedi'u plannu o fewn yr ystâd feddal ac argymell rheolaeth, gweithrediad a chofnodi.
Adnabod plâu ac afiechydon yn y coedydd, rhywogaethau anfrodorol a allai fod yn fygythiad i iechyd coed neu fioamrywiaeth.
Ymgymryd ag arolygon coed ar sail ad-hoc ar gais gan eraill megis Llywodraeth Cymru, staff ACGCC neu gŵyn gan y cyhoedd.
- Bioamrywiaeth
Adnabod cyfyngiadau a allai effeithio ar reolaeth coed neu wrychoedd megis rhywogaethau, safleoedd neu ddynodiad a warchodir, Gorchymyn Gwarchod Coed, Ardaloedd Cadwraeth, a threfnu arolygon angenrheidiol neu geisiadau caniatâd.
Gwneud archwiliad neu fonitro isadeiledd bioamrywiaeth ac asedau ystâd feddal eraill yn ôl gofyn y Cydlynydd Amgylcheddol neu'r Ecolegydd.
Cynnal a chadw
Cynorthwyo gyda dylunio a gweithredu rhaglenni rheoli ar gyfer gwaith ystâd feddal yn unol â chynlluniau rheoli amgylcheddol Llywodraeth Cymru, y Design Manual for Roads and Bridges (DMRB), gofynion deddfwriaeth ac arfer da.
Cynorthwyo gyda trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith er cyflwyno a rheoli rhaglenni gwaith adfer coed a gwrychoedd.
Cynorthwyo gyda dylunio a gweithredu rhaglenni rheolaeth ar gyfer ardaloedd coedwigoedd a gwrychoedd i gynnwys teneuo, tocio a rheoli afiechydon coed a gwella bioamrywiaeth fel y cytunir gyda'r Cydlynydd Amgylcheddol neu Ecolegydd.
Cynorthwyo gyda trefnu rhaglenni gwaith, ffurfio brîff prosiect a chaffael gwaith mewn cydweithrediad â thimau rheoli llwybrau a staff ACGCC eraill.
Cyfarfod â chontractwyr arbenigol er mwyn trafod gwaith angenrheidiol ac er mwyn asesu datganiadau dulliau gweithio, asesiadau risg a dogfennaeth eraill a dderbyniwyd ganddynt. Asesu ansawdd y gwaith a ymgymerwyd gan gontractwyr a sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth amgylcheddol ac arferion gweithio da.
Cynorthwyo gyda gweithredu prosesau coed peryglus a niwsans trydydd parti o dan adran 154 o'r Ddeddf Priffyrdd 1980. Gall hyn gynnwys ymweliadau safle i gyfarfod a thrafod materion yn ymwneud â choed gyda pherchnogion tir trydydd parti.
Gweithredu ac ymgymryd â rhaglen waith er mwyn cynnal a chadw neu newid asedau isadeiledd bioamrywiaeth ar y cyd â'r Cydlynydd Amgylcheddol neu'r Ecolegydd.
Cefnogi timoedd Rheoli Llwybrau ACGCC gyda materion rheolaeth amgylcheddol yn ystod achosion brys, gan gynnwys digwyddiadau achlysurol y tu allan i oriau.
- Gwelliannau Cyfalaf
Cynorthwyo i adnabod cyfleoedd ar gyfer gwaith lliniaru risgiau a gwelliannau, a chysylltu gwaith amgylcheddol yr un pryd â rhaglenni gwaith rheoli asedau eraill.
Cynorthwyo a darparu cefnogaeth a chymorth i'r Uned Cyflawni ac Archwilio a darparwyr gwasanaeth yn nyluniad a gweithrediad prosiectau gwelliannau cyfalaf, gan gynnwys rhaglenni gwaith ar gyfer goleuadau stryd, strwythurau, carthffosiaeth a gwaith geodechnegol, ac i sicrhau bod coed yn cael eu hystyried yn ddigonol ac yn derbyn diogelwch addas i'r gwreiddiau ac ati.
Cynorthwyo mewn cysylltu gyda darparwyr gwasanaeth a goruchwylwyr a'u harolygu yn eu hymgysylltiad i adeiladu gwaith gwelliannau i fioamrywiaeth.
- Gofynion Eraill
Rhoi cefnogaeth dechnegol i ACGCC a Llywodraeth Cymru ac ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd.
Adnabod eich anghenion hyfforddiant eich hun a chymryd rhan yn darparu a derbyn hyfforddiant yn ôl y gofyn.
Cynorthwyo mewn cysylltu ag ACDC, Highways England, UK Highways Ltd, Coed Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a Prif Ddylunwyr a Phrif Gontractwyr (e.e. datblygwyr, perchnogion tir, gwasanaethau a Network Rail) o ran materion cynllunio neu weithredu ar neu wrth y rhwydwaith.
- Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth.
Cynorthwyo ACGCC a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
- Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
- Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r Ecolegydd i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaiad a chyrff perthnasol eraill.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan yr Ecolegydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
- Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
- Gall rheoli digwyddiadau a sefyllfaoedd argyfwng ddigwydd tu allan i oriau gwaith arferol.
- Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).