Nodweddion personol
Hanfodol
•Yn berson hunanysgogol
•Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
•Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid mewn iaith glir, cywir a hawdd ei deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
•Sgiliau trefnu effeithiol
•Gallu i weithio fel rhan o dîm ac adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid
•Gallu i weithio’n annibynnol
•Gwydn, dibynadwy a hyblyg
•Yn medru ymdrin ag amrediad eang o bobl a phroblemau
•Yn medru uniaethu’n dda gyda phobl o bob oed, cefndir a gallu
•Ymwybyddiaeth o Gyfle Cyfartal sy’n gysylltiedig â materion tai
•Yn gadarn wrth ymdrin â phobl a’u hamgylchiadau personol
•Yn ymrwymedig i Ofal Cwsmer
•Yn cynnig cymorth / teg / ddim yn barnu
•Trwydded yrru ac yn meddu ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swydd
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyfatebol
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol yn y maes tai / digartrefedd
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad o weithio mewn sefydliad cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr
•Profiad o weithio i amserlenni tynn
•Profiad o weithio naill ai yn y maes tai cymdeithasol, neu mewn sector tebyg
•Profiad o wasanaethau sy’n darparu gwasanaethau atal digartrefedd neu gymorth tai
•Profiad o weithio ar eich liwt eich hun, cynllunio a monitro cynnydd eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser
•Profiad o fedru sefydlu a meithrin perthynas waith gyda phobl o adrannau, asiantaethau a sectorau eraill
Dymunol
•Profiad o gydweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, e.e. swyddogion, aelodau etholedig, cymdeithasau tai, sefydliadau gwirfoddol, y cyhoedd
•Profiad o waith comisiynu gwasanaethau ar ran sefydliad yn y sector cyhoeddus
•Profiad pwrcasu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus gan gynnwys llunio manylebau gwasanaeth, paratoi at dendro, y broses gwerthuso tendr, a gosod cytundeb
•Dealltwriaeth effaith a phwysigrwydd strategaethau ar gyfeiriad gweithredol gwasanaethau
•Profiad o weithio gyda, a dealltwriaeth o anghenion tai ac ail-gartrefu pobl fregus, yn enwedig o safbwynt digartrefedd neu gymorth tai
•Profiad a dealltwriaeth o rôl gwasanaethau tai, a chefnogaeth yn ymwneud â llety, yng nghyd-destun ehangach gwasanaethau eraill y Cyngor
•Y gallu i weithio’n bennaf heb oruchwyliaeth
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu tasgau a llwyth gwaith yn effeithiol
•Dealltwriaeth o’r sector tai cymdeithasol a digartrefedd ynghŷd â’r gwasanaethau cefnogol cysylltiol
•Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da
•Yn gallu ymdrin â chleientiaid a rhanddeiliaid mewn modd cadarn ond teg
•Yn gallu cynllunio ac adolygu llwyth gwaith, cwrdd â therfynau amser a safonau perfformiad
•Cymwys wrth ddefnyddio sustemau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys pecynnau megis Microsoft ayyb
Dymunol
•Sgiliau datrys problemau
•Gwybodaeth weithredol yn y meysydd canlynol:
oDeddfwriaeth digartrefedd – Deddf Tai (Cymru) 2014
oMaterion ac heriaidau sy’n wynebu pobl fregus
oCymwysterau Budd-daliadau’r Wladwriaeth
•Gwybodaeth arbenigol am gyngor tai neu waith yn ymwneud â digartrefedd
•Gwybodaeth weithredol o’r Grant Cymorth Tai a’r canllawiau cysylltiol
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)