Swyddi ar lein
Rheolwr Ardal Gwasanaethau Darparu
£50,269 - £52,413 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-30464
- Teitl swydd:
- Rheolwr Ardal Gwasanaethau Darparu
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 24/04/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £50,269 - £52,413 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS6
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Lleoliad - I'w Gadarnhau
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Rhion Glyn ar 01286 679268
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 24.04.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu i gymell tim o swyddogion drwy eu hysgogi i weithredu ar lefel gyson uchel gan ymddwyn yn broffesiynnol bob amser.
- Gallu i ymdrin a phobl mewn ffordd adeiladol, diplomatig gan greu awyrgylch bostitif lle mae barn pawb yn cael ei werthfawrgi
- Gonestrwydd, hunan hyder, adeiladol a hyblyg.
- Gallu i dderbyn cyfrifoldeb
- Gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac i ddewis dulliau addas ar gyfer cyfathrebu gwahanol negeseuon
- Gallu i feithrin perthynas gwaith gan ddewis a blaenoriaethu yn briodol ac o weithredu i gwrdd a thargedau amser
- Ymrwmiad parhaus i reoli perfformiad ac i wella perfformiad
- Gallu i weithio o dan bwysau, fel rhan o dim ac o fewn amserlenni tynn.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
- Cymhwyster rheolaeth cydnabyddedig mewn rheolaeth(ee ILM 5 neu 3)
- Addysg hyd at lefel NVQ5 neu gyfatebol
- Cymhwyster proffesiynnol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o reoli staff a chyllidebau yn llwyddiannus mewn adran/adain/gwasanaeth sylweddol ac mewn amyglchfyd o sialens/cystadleuol.
- Ymrwymiad i ansawdd gwasanaeth ac i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaeth.
DYMUNOL
- Profiad o weithio mewn Corff Cyhoeddus
- Ymwybyddiaeth o ofynion rheoleiddio a cofrestru yn y maes gofal
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Sgiliau arwain Tim yn llwyddiannus
- Sgiliau pobl ardderchog gyda gwybodaeth eang a thrylwyr o faterion yn ymwneud a staff.
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Agwedd positif ac arloesol tuag at sialensau a newid
- Gwybodaeth am Ffordd Gwynedd gyda dealltwriaeth dda o’r holl ystod o wasanaethau a datblygiadau o fewn y maes gofal.
- Dealltwriaeth drywlwyr o faterion Iechyd a Diogelwch a materion parhad busnes
- Dealltwriaeth o’r materion pwysig o fewn y meysydd gofal,arlwyo ac Iechyd.
- Sgiliau rheoli cyllidebau
DYMUNOL
- Cyfarwydd a defnyddio system rheolaeth gyfrifiadurol
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
GWRANDO A SIARAD – LEFEL UWCH
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
DARLLEN A DEALL – LEFEL UWCH
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
YSGRIFENNU – LEFEL UWCH
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Arwain y tim(au) mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
- Cynorthwyo pobl Gwynedd i fyw bywyd yn y modd y dymunant, drwy weithio gyda hwy yn ystod cyfnodau anodd, i gael gofal a chefnogaeth. Sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol oedolion, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill, yn cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth a byw bywydau llawn, hyd yn oed pan mae rhywun angen pecyn dwys o gefnogaeth neu lety arbenigol er mwyn cyfarch eu hanghenion.
- Dod o hyd i ddatrysiadau i gynorthwyo pobl sydd yn debygol o fod angen cymorth am gyfnod estynedig, a gweithio gyda phobl a’u gofalwyr i’w galluogi i gyflawni eu deilliannau personol yn y ffordd orau er mwyn bodloni eu hamgylchiadau eu hunain.
- Cynorthwyo’r Gwasanaeth i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Rheoleiddio ac arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru),Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt. Sicrhau bod staff yn cadw at y Codiau ymarfer a chanllawiau Arolygaeth Gofal Cymru
- Edrych ar gyfleoedd i weithio’n fwy effeithiol ar draws gwasanaethau, ac ar y cyd â’r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill.
- Arwain a rheoli holl faterion gweithredol o ran darparu Gwasanaethau Preswyl a Chymunedol .
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff - Cyfrifoldeb am reolaeth uniongrychol oddeutu 10 - 12 o staff ond cyfrifoldeb ehangach cyffredinol am oddeutu 400 o staff, cartrefi preswyl, gofal cymunedol a chanolfannau dydd oedolion yn yr ardal.
Offer - Cyfrifoldeb Uwch am ddiogelwch a defnydd addas o holl adeiladau, cerbydau, ac offer yn ymwnud a darparu’r gwasanaeth o fewn yr ardal benodol mae y cyfrifoldeb dydd i ddydd am y materion yma wedi ei dirprwyo i Reolwyr Cofrestredig.
Cyllid – Cyfrifoldeb am gyllideb refeniw y gwasanaeth am gyllid ynghlwm a phrosiectau corfforaethol neu draws-adrannol ac am unrhyw gyllid cyfalaf/refeniw priodol a gaiff ei neilltuo ar gyfer y Tim.
Prif Ddyletswyddau.
ARWAIN
- Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
- Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
- Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
- Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
- Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
- Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
- Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
- Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
- Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
- Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
- Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
- Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
- Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
- Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
CYFLAWNI
- Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
- Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
- Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
- Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
- Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.
HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
- Arwain y Tîm mewn modd sydd yn cynorthwyo pobl i fyw bywyd fel y dymunant, yn unol ag egwyddorion a nodweddion arweinyddiaeth dull Ffordd Gwynedd.
- Cyfrifoldeb gweithredol dros ymarfer y Gwasanaeth Preswyl a Gofal Cartref gan sicrhau safonau proffesiynol o’r radd flaenaf a gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn yn ganolog ym mhopeth.
- Cynnal perthynas waith adeiladol ac effeithiol gyda swyddogion perthnasol o’r Bwrdd Iechyd, gan gymryd mantais o gyfleoedd i gydweithio ac integreiddio er budd pobl Gwynedd.
- Sefydlu trefniadau effeithiol o fewn deddfwriaeth berthnasol, er mwyn diogelu a gwarchod pobl, ac ymateb mewn modd priodol ac amserol pan gyfyd achosion o gamdriniaeth neu esgeulustod.
- Arwain datblygiad strategaethau, ar y cyd â phartneriaid allweddol, er mwyn ymateb mewn cyfnodau o argyfwng mawr allai gael effaith negyddol ar ofal a chefnogaeth arferol pobl.
- Grymuso a chefnogi timau drwy gyfnodau o newid, gan sicrhau eu bod yn rhan greiddiol o’r gwaith angenrheidiol i drawsnewid gwasanaethau.
- Adnabod anghenion pobl sydd ag anghenion dwys a hirdymor, fel sylfaen ar gyfer cynlluniau comisiynu strategol / categori, ac annog ymarferwyr i rannu eu syniadau am wasanaethau a chefnogaeth y dylem ystyried eu datblygu o fewn ein cymunedau.
- Ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol gyda budd-ddeiliaid yn unol ag ymarfer gorau, gyda chefnogaeth gan arbenigwyr corfforaethol ac arweiniad y Gwasanaeth Busnes a Rheoli Ansawdd.
- Cyfrannu tuag at creu model o ddatrysiadau cyd-gynhyrchu gyda phobl a chymunedau, a gweithio i greu diwylliant lle nad yw’r Cyngor ac asiantaethau eraill yn darparu gwasanaeth hyd oni bod pob cyfle i gwrdd ag anghenion o fewn rhwydweithiau personol a chymunedol wedi’u hystyried.
- Cyfrannau tuag at strategaethau fydd yn cefnogi’r weledigaeth mai dim ond ar becynnau gofal dwys a llety arbenigol y byddwn yn dibynnu arnynt (ar draws pob grŵp cleient) pan fo’r holl opsiynau eraill wedi’u hystyried.
- Cefnogi a gwireddu strategaethau traws-adrannol penodol.
- Datblygu a diweddaru polisïau yn y meysydd a gaiff eu harwain gan y Tîm a chyfrannu at bolisïau trawsadrannol ac aml-asiantaethol, yn ôl yr angen.
- Cynrychioli’r Cyngor mewn grwpiau is-ranbarthol, rhanbarthol a chenedlaethol, pan fyddai gwneud hynny’n cynnig cyfleoedd i weithio’n fwy effeithiol a gwella profiadau pobl Gwynedd.
- Rheoli cyllidebau’r Tîm yn effeithiol a chyfrannu at iechyd a strategaethau ariannol yr Adran gyfan.
- Sicrhau bod y Tîm yn cydymffurfio ag egwyddor y cynnig rhagweithiol yng nghyd-destun anghenion ieithyddol pobl a diwallu holl anghenion strategaeth ‘Mwy na Geiriau’.
- Arwain ar / neu reoli prosiectau neu raglenni i drawsnewid neu wella gwasanaethau, a bod yn fodlon cynnig cefnogaeth mewn meysydd tu hwnt i rai’r Gwasanaeth neu’r Adran.
- Rheoli perfformiad y Tîm, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Busnes, i ddarparu gwybodaeth reolaethol a gwybodaeth sicrwydd ansawdd.
- Darparu arweiniad i aelodau etholedig, adrodd i weithgorau neu bwyllgorau yn ôl yr angen, a gweithredu’n unol â phenderfyniadau gwleidyddol.
- Cefnogi’r Pennaeth Cynorthwyol i arwain a sicrhau llwyddiant y Gwasanaeth a bod yn barod i ddirprwyo iddo/iddi, yn ôl yr angen.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Oherwydd natur y Gwasanaeth, bydd yn anorfod ar adegau bod deilydd y swydd angen mynychu digwyddiadau neu’r angen i fonitro safleoedd a gwaith y Tîm ar benwythnosau.
- Ymateb i unrhyw Argyfwng yn ymwneud â’r Gwasanaeth tu allan i oriau arferol y swydd.