Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Mae’r swydd hon yn gyfle i feithrin perthnasoedd rhwng Adran Addysg, Ysgolion Gwynedd a Llyfrgelloedd Gwynedd. Cydlynu a monitro prosiect a fydd yn annog cydweithio a chymhathu systemau TGCh er mwyn cyrraedd y nod o bob plentyn yn aelod o Lyfrgelloedd Gwynedd. Hyrwyddo y prosiect ymysg Ysgolion Gwynedd gan werthuso ac adolygu y prosiect a chreu toolkit i hwyluso sefydlu y prosiect ledled Cymru.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff : Cyllid : gronfeydd adnoddau hyrwyddo a gweinyddol ;
•Offer: Cyfarpar TG personol
Prif ddyletswyddau
•Rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth mae’r gwasanaeth yn ei wneud gan weithio yn unol â strategaethau a pholisïau a fabwysiedir gan Gyngor Gwynedd
•Cydweithio hefo swyddogion LMS Cymru a Swyddogion TG Adran Addysg Gwynedd i hwyluso a gweithredu trosglwyddo data gan sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Cyfrifoldeb dros drefnu ymgyrchoedd hyrwyddo llythrennedd ar gyfer Ysgolion Gwynedd yn cynnwys cynorthwyo a chydweithio i drefnu ymweliadau Llyfrgell, cystadlaethau, ymweliadau awduron, beirdd ac arlunwyr gan fanteisio ar ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol.
•Cyfrifoldeb dros baratoi deunyddiau marchnata a hyrwyddo’r prosiect o bob plentyn yn aelod o Lyfrgelloedd Gwynedd
•Cyfrifoldeb dros gyfnod y cynllun i werthuso a monitro y prosiect gan gynorthwyo yn y broses o greu adroddiad terfynol o lwyddiannau y prosiect peilot.
•Cyfrifoldeb dros greu ‘toolkit’ ar gyfer pwrpas rheadru i aelodau LMS Cymru.
•Adrodd i'r Llyfrgellydd Gwasanaethau Cymunedol ar feysydd sydd angen sylw,
•Mynychu a chymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm ac mewn pwyllgorau neu weithgorau a pharatoi adroddiadau fel y bydd galw. .
•Mynychu timau a gweithgorau eraill y Gwasanaeth Llyfrgell, yr Adran, neu weithgorau ar y cyd gyda gwasanaethau /asiantaethau allanol, fel bo angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau Gwaith: 18.5 awr yr wythnos. Cytundeb hyd 31 Hydref 2026. Delir yr hawl i newid patrwm oriau gweithio yn ôl gofynion y Gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gymhwyso i’r lefel briodol yng nghyswllt defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.
•Y prif safle gwaith fydd Canolfan Llyfrgell Caernarfon ond os bydd angen, gellir dod i drefniant dros dro ple bydd deilydd y swydd yn cyflawni dyletswyddau tebyg mewn llyfrgelloedd eraill ,a hynny o fewn ei oriau cytundebol, heb unrhyw amser neu dal ychwanegol am y gwaith hwnnw.