NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Sgiliau cyfathrebu clir ac addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.
Gyda’r gallu i sefydlu a chynnal perthynas waith dda gyda chwsmeriaid, asiantaethau eraill, cydweithwyr a chontractwyr
DYMUNOL
Person trefnus sy’n gallu blaenoriaethu yr hyn sy’n bwysig i’r cwsmer.
Person sydd yn meddu ar y gallu i ysgogi ei hun ac eraill.
Y gallu i weithio o fewn amserlen dynn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn drwyadl ac amserol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith trydanol masnachol a gyfwerth a lefel 3 neu uwch neu wedi cyflawni prentisiaeth llawn.
Trwydded yrru lawn.
DYMUNOL
Cymhwyster I profi gosodiadau trydanol C&G2391
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ymateb i alwadau yn y maes cynnal a chadw adeiladau.
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn amrywiol safleoedd (e.e ysgolion, canolfanau hamdden, cartrefi preswyl, llyfrgelloedd ayyb)
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybyddiaeth gadarn o deddfwriaethau a rheoliadau perthansol i waith trydanol.
Ymwybyddiaeth glir o deddfwriathau a rheoliadau iechyd a Diogelwch perthnasol.
DYMUNOL
Yn meddu ar wybodaeth arbennigol sylfaenol mewn meysydd eraill megis cadwraeth ynni, peirianeg sifil neu osodiadau mecanyddol.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.