Swyddi ar lein
Rheolwr Preswyl
£46,142 - £48,226 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30225
- Teitl swydd:
- Rheolwr Preswyl
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Hafan Y Ser
- Dyddiad cau:
- 09/02/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £46,142 - £48,226 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Lleoliad:- Uned Egwyl Fer Hafan Y Ser, Penrhyndeudraeth a Hafan Ni, Criccieth
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rona Jones ar 01766 772147
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 09.02.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i ddangos empathi a dealltwriaeth o anghenion a profiadau plant ag anabledd a’u teuluoedd.
Gallu i ddelio/rheoli sefyllfaoedd sensitif yn ofalus ac yn ddoeth.
Y gallu i arwain eraill mewn maes proffesiynol.
Ymrwymiad i ymarfer cynhwysol
Ymrwymiad i gyfrinachedd
Ymrwymiad i fodelu egwyddorion gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol creiddiol i’r gwasanaeth.
Trefnus, gyda sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu effeithiol.
Hyblyg ac yn gallu addasu mewn amgylchedd gwaith sy’n newid
Bod yn berson onest, dibynadwy, agored a chyfeillgar.
Agwedd weledigaethol, gyda’r gallu i ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd eraill wrth ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol.
Trwydded yrru ddilys
DYMUNOL
Hyblygrwydd a gallu i reoli newid yn effeithiol.
Diddordeb mewn creu pecynnau o hyfforddiant perthnasol a datblygu dulliau newydd o weithio.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant (neu’n gymwys i gofrestru).
City & Guilds Lefel 4 – Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a City & Guilds Lefel 5 – Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (neu gymhwyster cyfatebol a dderbynnir ar gyfer cofrestru).
Gellir ystyried ymgeiswyr sydd wedi’u cofrestru ar y cymhwyster Lefel 5 os ydynt yn gallu ei gwblhau o fewn y cyfnod amser gofynnol gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
DYMUNOL
Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol gyda chymhwyster rheoli perthnasol (e.e. Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol).
Profiad rheoli sylweddol mewn gofal preswyl i blant neu wasanaethau Egwyl Fer.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda plant anabl a’u teuluoedd
Profiad sylweddol o weithredu o dan ofynion y Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014)
Profiad o agweddau o waith rheoli (e.e goruwchwylio aelod staff/hyfforddai/myfyriwr).
DYMUNOL
Profiad o ddarparu a chyfrannu i hyfforddiant
Profiad blaenorol mewn uned breswyl neu mewn darpariaeth egwyl fer i blant
Profiad fel rheolwr cofrestredig o dan Rheoliadau RISCA 2016
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i weithredu’n effeithiol fel aelod o dîm
Gallu i gyfathrebu o safon uchel, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
Gallu i arwain ac ysgogi tîm, a gweithio a chynllunio’n drefnus
Gallu i weithio dan bwysau a blaenoriaethu’n effeithiol
Gallu i weithio mewn partneriaeth a chynnal cyd-weithio effeithiol.
DYMUNOL
Dealltwriaeth a phrofiad o fodelau megis Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol / Cefnogaeth Weithgar
Tystysgrif IOSH ac Iact
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Gweithredu fel rheolwr Tîm. Pwrpas y Tîm yw:
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Rheoli darpariaeth Breswyl/Egwyl Fer yn Hafan y Sêr a rheoli Uned Breswyl (Hafan Ni,) sydd o fewn darpariaeth Grŵp Cartrefi Bychain yr adran. Mae’r gwasanaeth yn benodol ar gyfer blant anabl ar draws dwy uned breswyl, sy’n golygu gweithredu fel rheolwr cofrestredig i’r ddau safle fydd yn gweithredu fel cartrefi plant.
- Rheoli cyfeiriadau am wasanaeth yn yr unedau gan ddatblygu a rhoi amserlen yn ei le er mwyn diwallu anghenion plant am ofal preswyl/egwyl fer yn yr unedau.
- Rhoi trosolwg ar ddatblygiad preswyl/egwyl fer i blant anabl, sy’n cynnwys ystyried gofal preswyl/egwyl fer fel ystod o wasanaethau ac ymyrraethau wedi eu hanelu fel rhan o wasanaeth statudol ac ataliol i blant anabl.
- Sicrhau fod yr unedau yn cydymffurfio gyda’u Datganiadau o Bwrpas a bod y blant a’r bobl ifanc sydd yn byw/derbyn arosiadau egwyl fer yn derbyn y gefnogaeth addas i gyrraedd deilliannau cadarnhaol sy’n gyson gyda’u cynlluniau person ganolog yn unol â gofynion o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a Rheoliadau RISCA (2016)
- Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Rheoli staff, cyllideb ac adeilad egwyl fer.
Prif Ddyletswyddau. .
- Bod yn gyfrifol am reoli, cydlynu a darparu ystod o wasanaethau o safon i blant a phobl ifanc sy’n cael u cyfeirio a/neu eu lleteya o fewn yr unedau. Hyrwyddo’r ymarfer o weithio mewn partneriaeth â phlant/pobl ifanc, eu teuluoedd, staff eraill yn y Gwasanaeth Plant ac asiantaethau allanol er mwyn diwallu anghenion y plant/bobl ifanc.
- Derbyn cyfeiriadau am wasanaeth a rheoli amserlen egwyl fer ar gyfer pant sy’n gymwys i dderbyn gwasanaeth, creu a chyd-lynu’r cynlluniau gofal personol ar gyfer y gwasanaeth.
- Sicrhau bod Datganiadau o Bwrpas mewn lle, sy’n briodol i anghenion y plentyn a’r gwasanaeth a’i gadw yn gyfredol yn unol a gofynion rheoliadau RISCA (2016)
- Goruchwylio, rhoi arweiniad, ysgogi a chynghori staff i lunio rhaglenni ymyrraeth ar gyfer plant a’u teuluoedd ac adolygu’n gyson. Darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd i gefnogi i wneud penderfyniadau sydd bob tro er lles y plentyn/person ifanc a sicrhau bod y sefydliad yn rhagweithiol wrth fonitro a darparu adborth i unigolion a rheolwyr llinell yn y cyswllt hwn.
- Darparu rheolaeth weithredol o’r tîm staff a rhyddhau adnoddau staff fel bod tasgau allweddol yn cael eu cyflawni. Sicrhau bod digon o adnoddau wrth gefn ar gael mewn sefyllfa argyfwng/tu allan i oriau.
- Cymryd rhan rhagweithiol mewn prosesau recriwtio, cwynion, disgyblaeth, iechyd a diogelwch a materion staffio eraill gyda chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau) a/neu yr Unigolyn Cyfrifol.
- Bod a chyfrifoldebau rheolaeth llinell am dim o staff, gan sicrhau bod bob aelod o staff wedi cofrestru gyda Cyngor Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Rheoli llwythi gwaith a’u hadolygu’n gyson a chymryd rhan yng Nghynllun Datblygu Staff yr Adran. Hyrwyddo datblygiad tîm a datblygiad staff, gan gynnwys adnabod anghenion hyfforddiant a chynllunio ar y cyd gyda’r Adran Datblygu’r Gweithlu i gyfarfod yr anghenion hynny.
- Sicrhau bod gweithwyr y tîm yn cydymffurfio ac yn cyflawni dyletswyddau yr awdurdod lleol.
- Galw a chadeirio cyfarfodydd cynllunio ac adolygu.
- Bod yn gyfrifol i’r Pennaeth Gwasanaeth (adnoddau) a/neu yr Unigolyn Cyfrifol am weithredu polisïau a threfniadau adrannol, gan sicrhau bod gweithwyr y tîm yn ymwybodol o rhain ac yn eu deall.
- Yn achlysurol cynorthwyo gyda chyfrifoldebau cysylltiadau cyhoeddus.
- Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill, y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth.
- Rheoli cyllideb benodol.
- Sicrhau bod gweithwyr yn defnyddio dulliau dogfennu a chofnodi’r Adran
- Trosglwyddo gwybodaeth a hysbysrwydd proffesiynol ac Adrannol.
- Sicrhau bod amgylchedd Hafan y Sêr a Hafan Ni yn addas i anghenion y plant sy’n derbyn gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg yn ôl yr angen
- Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau am berfformiad a gwaith y tîm.
- Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion yn ôl yr angen.
- Hysbysu’r Pennaeth Gwasanaeth (adnoddau) a/neu yr Unigolyn Cyfrifol o achosion a sefyllfaoedd sy’n codi cwestiynau polisi allweddol neu sy’n achosi problemau difrifol i’r Adran fel y gellir cael arweiniad arbennig neu ddatblygu polisi penodol newydd.
- Arwain ar ddatblygiad strategol y tîm gan ddatblygu rhaglenni gwaith ataliol a defnyddio dulliau ymyrraeth ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil.
- Cyfrannu tuag at werthuso ac adolygu safonau gwaith y tîm a’r gwasanaeth yn gyffredinol.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd Rheolwyr Tîm sirol.
- Cyfrannu at gynllunio tymor hir yn Adrannol ac ar lefel rhanbarthol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
- Mae’r swydd wedi ei lleoli ym Menrhyndeudraeth, ond bydd hefyd yn golygu teithio gn y bydd yn delio gydag achosion ar draws Gwynedd ac Ynys Mon.