UWCH SWYDDOG CAFFAEL
Fel Uwch Swyddog Caffael, byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi cyflawni gweithgareddau caffael a rheoli contractau Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Yn rhan o Dîm Gweithrediadau y Swyddfa Rheoli Portffolio, byddwch yn cefnogi i sicrhau bod y broses caffael yn gcydymffurfio, yn strategol ac yn cyd-fynd â gwerthoedd y sefydliad—gan gynyddu gwerth cymdeithasol a darparu'r gwerth gorau i'r rhanbarth.
Mae hon yn swydd gydweithredol, yn gweithio yn agos gyda thimau mewnol ac partneriaid allanol i gefnogi cyflawni prosiectau trawsnewidiol ar draws Gogledd Cymru. Byddwch yn darparu cyngor, cyfrannu tuag at ddatblygu strategaethau caffael, a chefnogi gyda rheoli contractau ar draws portffolio eang o brosiectau.
Er nad yw’r swydd yn rheoli tîm yn uniongyrchol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn capasiti cefnogol ac pan fo angen yn dirprwyo ar ran y Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer person proffesiynol caffael sydd yn angerddol am werth cyhoeddus, cynaliadwyedd a effaith rhanbarthol
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu drwy ebost: swyddi@uchelgaisgogledd.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 16/02/2026
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau ar y 5ed o Fawrth 2026.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.