Swyddi ar lein
Rheolwr Twnnel a Thechnoleg Cynorthwyol
£39,862 - £41,771 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30182
- Teitl swydd:
- Rheolwr Twnnel a Thechnoleg Cynorthwyol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 29/01/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,862 - £41,771 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Cynorthwyol Twnneli a Thechnoleg
Cyflog: PS1 (SCP 29-31) (£39,862 – £41,771)
Lleoliad: - Conwy (gweithio o’r swyddfa)
Mae gan ACGChC gyfle cyffrous i ymgeisydd brwdfrydig ymuno â’n tîm technoleg deinamig.
Mae’r swydd barhaol hon yn addas ar gyfer unigolyn sy’n edrych i symud ymlaen yn ei yrfa mewn technoleg a
rheoli asedau trydanol.
Byddai’r swydd yn addas ar gyfer ymgeisydd sydd â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf sy’n llawn
cymhelliant ac yn gallu defnyddio ei fenter ei hun i gwblhau tasgau. Elfen allweddol o’r rôl hon yw’r gallu i
graffu’n gywir ar wybodaeth megis lluniadau technegol, manylebau a thystysgrifau.
Byddai gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am dechnoleg ac arloesedd. Byddent yn cefnogi cyflawni prosiectau
sy’n ymwneud â defnyddio technoleg ar y rhwydwaith cefnffyrdd sy’n cynnwys datblygu cynhyrchion a
gwasanaethau arloesol, rheoli adnoddau, cyllidebau a chyswllt cleient / rhanddeiliaid.
Codi proffil galluoedd y tîm technoleg o fewn y sefydliad.
Bydd yr ymgeisydd yn cael cyfleoedd i fod yn rhan o arferion gorau a safonau cyfredol a newydd sy’n ymwneud â
chynllunio, dylunio a gweithredu datrysiadau technoleg.
Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i addasu arddull i
weddu i’ch cynulleidfa.
Mwynhau gweithio’n agos gyda chleientiaid ac aelodau eraill o’r tim proffesiynol a chwarae rhan ganolog wrth
ddatblygu datrysiadau sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleient.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol, gallu mynd i’r afael â phroblemau’n
rhesymegol a defnyddio tystiolaeth i ddod o hyd i atebion neu argymhellion, bod yn gyfforddus wrth ddefnyddio
amrywiaeth o feddalwedd, a dysgu’n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad a dealltwriaeth o systemau rheoli asedau, gosodiadau trydanol a
Thechnolegau Microsoft megis Word, Excel a PowerBI.
Gan weithio i ACGChC byddwch yn profi amgylchedd gwaith cynhwysol, cyfeillgar a hyblyg lle caiff cydweithwyr eu
hannog i dyfu a datblygu. Cyfle gyrfa ystyrlon a gwerth chweil lle byddwch yn helpu i drawsnewid cymdeithas.
Manteision eraill o weithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, gwyliau â thâl a gostyngiadau staff eraill.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol yn ymwneud â’r swyddi uchod, cysylltwch â Andrew Roberts ar
01492 564750.
Dyddiad cau: 29/01/26 10:00
Os byddwch yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost gan defnyddio’r
cyfeiriad a ddarperir ar eich ffurflen gais. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwyrio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio mewn tîm.
Hunan-reolaeth.
Gallu dangos arloesedd a chreadigrwydd.
Parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun o fewn paramedrau diffiniedig.
Medru ysgogi ei hun yn dda ac yn ymroddedig iawn.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.
Dymunol
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau sylfaenol sy’n briodol i’r swydd
Hyder wrth ymwneud â chontractwyr neu weithwyr statudol eraill.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
HNC mewn Peirianneg Trydanol neu Fecanyddol neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad perthnasol, neu brofiad perthnasol sylweddol a chyflawni HNC mewn Peirianneg Trydanol neu Fecanyddol neu gymhwyster cyfwerth o fewn blwyddyn i'r penodiad.
Dymunol
Gradd mewn pwnc perthnasol.
Peiriannydd Corfforedig
Profiad perthnasol
Hanfodol
Cynnal a chadw a gwella asedau technoleg priffyrdd ar rwydwaith cefnffyrdd neu briffyrdd allweddol; neu, profiad o gynnal a chadw, gwella a rheoli prif asedau mecanyddol a thrydanol mewn amgylchedd weithredol.
Dymunol
Archwilio ac asesu systemau technoleg yn ymwneud â gweithrediadau cefnffyrdd neu isadeiledd gweithredol mecanyddol a thrydanol allweddol arall.
Ymdrin â chwynion;
Rheoli argyfyngau;
Goruchwylio contractau;
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gweithgareddau cynnal a chadw mecanyddol, trydanol a chyfathrebu mewn amgylchedd weithredol a deddfwriaeth gysylltiol;
Yn gwbl wybodus o TG;
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig datblygedig;
Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch;
Trwydded yrru ddilys gyfredol
Dymunol
Systemau monitro a rheoli technoleg ymyl ffordd;
Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd;
Safonau a deddfwriaethau priffyrdd;
Cyfarwydd â systemau rheolaethol cyfrifiadurol.
Gwybod am Archebu Gwaith neu systemau caffael eraill.
Safonau rheoli traffig.
Ysgrifennu Adroddiadau Technegol.
Gwybodaeth am fonitro a rheoli systemau.
Gwybodaeth am Reoliadau Diogelwch Twnneli Ffyrdd
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i sicrhau y darperir asedau technoleg dibynadwy a chydsyniol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
•Cynorthwyo'r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i reoli gweithgareddau gweinyddu gweithredol a thechnegol mewn perthynas ag asedau technegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
•Monitro'n barhaus a sicrhau perfformiad pob Contractwr perthnasol i sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud ar amser ac i safon foddhaol i gwrdd â gofynion argaeledd asedau.
•Sicrhau lefel gytunedig o argaeledd ar gyfer eu hasedau dynodedig.
Mae asedau technoleg ar y Gefnffordd yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r hyn a ganlyn:
Golau ffordd twnneli, offer monitro'r amgylchedd, ffaniau jet, Systemau Supervisory Control and Data Acquisition (SCADA) rheolyddion/cyfarpar rhesymegol rhaglenadwy, cyfarpar canfod digwyddiad, systemau pŵer mewn argyfwng, gorsafoedd pwmpio, arwyddion negeseuon amrywiol (VMS), Teledu Cylch Cyfyng (TCC), cyfathrebiadau ffeibr optig, switsh a llwybrydd rhwydwaith, dyfeisiau diogelwch TG, gorsafoedd tywydd, teleffonau cefnffordd, systemau adnabod platiau rhif yn awtomatig, cyfarpar trosglwyddo fideo, offer switsh foltedd isel a foltedd uchel, arwyddion traffig, goleuo stryd, cyfarpar monitro llygredd, systemau dosbarthiad traffig.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifol am reoli rhaglenni gwaith a chyllidebau priodol ar gyfer cynnal a chadw a gwella asedau technoleg y rhwydwaith cefnffyrdd perthnasol.
•Cyfrifol am staff yn cyflawni neu oruchwylio gweithrediadau o fewn y rhwydwaith cefnffyrdd perthnasol.
•Cyfrifol am reoli’r Darparwyr Gwasanaeth gwasanaethau technoleg wrth iddynt gyflawni gweithrediadau mewn sefyllfaoedd brys ar y rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys twnneli'r A55.
•Cyfrifol am reoli stoc dros ben ar gyfer eu hasedau dynodedig.
•Gliniadur/dyfais casglu data
•Ffôn symudol
•Cyfarpar Diogelu Personol
Prif ddyletswyddau
Archwiliadau
Cynorthwyo'r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i gwrdd â gofyniad adran 58 Deddf Priffyrdd 1980 ynghylch asedau technoleg.
Sicrhau y cwblheir yr holl archwiliadau a’r arolygon arferol a’r rhai arbenigol ar elfennau perthnasol y rhwydwaith yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd (TRRM) LlC neu unrhyw gynlluniau mabwysiedig eraill.
Cynnal archwiliadau arbenigol o'r isadeiledd technoleg yn ôl gofyn y Rheolwr Gweithredol Twnneli neu'r Rheolwr Asedau ITS a Thechnoleg Drydanol a diweddaru Cronfeydd Data LlC ar y cyd â’r Uned Asedau.
Cynnal a chadw
Sicrhau yr ymatebir yn briodol i ddiffygion a nodir gan archwiliadau, patrolau, adroddiadau/hysbysiadau gweithredol ac ati, o fewn yr amserlenni gofynnol, gan gynnwys comisiynu, rheoli a goruchwylio gwaith brys ac unrhyw waith adweithiol arall yn ôl y gofyn gan ddefnyddio’r adnoddau Contract Cynnal a Chadw Arferol (RMC) priodol a Rhestr Gyfraddau’r Asiant.
Cynorthwyo'r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i gwrdd â gofyniad adran 41 Deddf Priffyrdd 1980.
Monitro’r holl weithrediadau ar y rhwydwaith perthnasol a sicrhau diogelwch defnyddwyr y cefnffyrdd cymaint â phosib.
Monitro diogelwch y darpariaethau a’r rhagofalon a weithredir gan y sawl sy’n cyflawni unrhyw weithrediadau o fewn y rhwydwaith, gan gynnwys monitro gwaith risg uchel megis cynnal a chadw foltedd uchel a gwaith mewn Mannau Cyfyng.
Cynorthwyo i reoli pob agwedd technoleg o’r rhwydwaith cefnffyrdd perthnasol.
Cyfrifol am oruchwylio’n uniongyrchol rhaglenni cynnal a chadw arferol.
Asesu cyflwr a gweithrediad isadeiledd technoleg, gan gynnwys safleoedd gwaith megis isadeiledd twnneli, ar ôl y gwaith. Cysylltu â rhanddeiliaid eraill ynghylch ailagor ble bo'n briodol.
Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol a brys, sy’n cynnwys:
•Cywiro a lliniaru ar gyfer methu â chwrdd â gofynion sylfaenol gweithredu;
•Ymateb mewn tywydd garw, ac ymdrin â chyfarpar monitro'r tywydd;
•Methiant yn yr offer (VMS, TCC, Offer Ffeibr Optig, Switshys Rhwydwaith, Teleffonau Cefnffyrdd, Cyfarpar M&T Twnnel, Pympiau swmp)
•Ymateb i fethiant yn y systemau diogelwch twnneli;
•Ymateb i fethiant yn y pŵer;
•Digwyddiadau amgylcheddol;
•Ymateb i fethiant yn yr Ystafell Reoli;
•Ymateb i fethiant yn yr isadeiledd cyfathrebu
•Monitro offer sy'n cefnogi cynnal a chadw yn y gaeaf
•Ailosod Gwaith Stryd;
•Cau Twnneli mewn Argyfwng;
•Difrod damweiniau ffyrdd;
•Cynnal a chadw pob canolfan adeiladu technoleg yn ymwneud â chefnffordd yr A55;
•Unrhyw ddiffygion sy’n berthnasol i ddiogelwch ac sydd angen sylw ar frys
Cysylltu â’r Cydlynwyr Gwaith Stryd priodol a Rheolwr meddiannaeth y rhwydwaith, rheolwr y llwybrau a'r timau dosbarthiad cyfalaf o ran rhaglennu gwaith.
Cynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i adnabod, rhaglennu a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw neu wella sy’n cynnwys gwariant refeniw a/neu gyfalaf.
Cysylltu â phartïon a sefydliadau allanol o ran materion cefnffyrdd, gan gynnwys:
•Swyddogion Llywodraeth Cymru;
•Aelodau o’r cyhoedd;
•Darparwyr Gwasanaeth cefnffordd ACGCC
•Perchnogion a datblygwyr tir;
•Cyrff statudol e.e. gwasanaethau, Asiantaeth yr Amgylchedd ac ati;
•Gwasanaethau Brys yn ystod digwyddiadau.
Prif Gontractwr Cau Twnneli (PGCT)
Cynorthwyo'r Rheolwr Prif Gontractwr Cau Twnneli i ddarparu gwasanaeth cau twnneli a phentir ar yr A55 (yn ystod y dydd neu gyda'r nos) sydd wedi'i raglennu neu ar frys.
Fel rhan o dîm dynodedig o Oruchwylwyr Cau Twnneli, rheoli a goruchwylio cau twnneli ar yr A55 gyda chyfrifoldebau penodol dros reoli elfennau Iechyd a Diogelwch yn unol â Rheoliadau Rheoli a Dylunio Adeiladu ar gyfer nifer o gontractwyr amlddisgyblaethol sy'n ymgymryd â gwaith cynnal a chadw yn y Twnneli gan gynnwys:
•Contractwyr Mecanyddol a Thrydanol
•Contractwyr Peirianneg Sifil
•Contractwyr Golchi Twnneli
Goruchwylio systemau gwaith diogel, gan gynnwys rheoli caniatadau gwaith/mynediad.
Rhestr Gynnwys a Chofnodion Gweithredol
Cynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth o ran casglu a chynnal a chadw gwybodaeth rhestr gynnwys isadeiledd cefnffyrdd.
Cynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i gasglu a chynnal a chadw cofnodion gweithredol e.e. adroddiadau safle, adroddiadau gwaith, profi derbyniad ffatrïoedd, profi derbyniad safleoedd.
Rôl Rheoli Archwilio a Pherfformiad
Ymgymryd â rhaglen o archwiliadau ar y gwaith archwilio, cynnal a chadw a rhestrau cynnwys a gyflawnir gan ddarparwyr gwasanaeth allanol.
Sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau a safonau.
Monitro perfformiad Darparwyr Gwasanaeth ac ymdrin â materion tanberfformio yn unol â gofynion yr Asiant.
Rôl Rheoli Digwyddiadau
Ymgymryd â rôl Rheolwr Comander (Gweithredol) Efydd yr Asiant pe bai digwyddiad brys fel y diffinnir dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Cynorthwyo Darparwyr Gwasanaeth mewn sefyllfaoedd argyfyngus i:
•Gweithredu cynlluniau rheoli traffig, cau twnneli a gwyro llwybrau yn briodol;
•Gweithredu gwaith atgyweirio brys i systemau diogelwch twnnel ac isadeiledd cysylltiedig;
•Gweithredu cynlluniau digwyddiad o wyntoedd cryfion wrth gefn priodol ar gyfer cyfarpar ITS;
Asesu cyflwr isadeiledd M&T twnnel/priffordd ar ôl digwyddiad, a chysylltu â rhan-ddeiliaid eraill ynghylch ailagor ble bo'n briodol.
Rôl Rheoli Risgiau
Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediad Twnneli a'r Swyddog Diogelwch Twnneli i reoli risgiau ar y rhwydwaith cefnffyrdd drwy adnabod y risgiau. Sicrhau y gweithredir mesurau lleihau risg priodol e.e. ymdrin ag argyfyngau a diffygion.
Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithredol Twnneli neu'r Rheolwr Asedau ITS a Thechnoleg Drydanol i adnabod, cofnodi ac arfarnu'r risgiau sy'n gysylltiedig ag isadeiledd technoleg o fewn fframwaith strwythuredig.
Gweinyddiaeth Dechnegol
Cynorthwyo’r Uned Fusnes i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch hawliadau trydydd parti, hawliadau ad-dalu a materion rhwydwaith eraill.
Cysylltu ag Awdurdodau sy’n Bartneriaid yn ôl y gofyn.
Rheoli Asedau
Cysylltu, hysbysu a chydweithredu â staff eraill yr Asiant a’r Awdurdodau sy’n Bartneriaid wrth weithio ar fathau penodol o isadeiledd gan gynnwys:
•Offer M&T Twnnel
•Teclynnau Cyfathrebu ar ochr y Ffordd, e.e. teleffonau cefnffyrdd
•Cyfarpar Monitro, e.e. gorsafoedd tywydd
•Systemau Arwyddion Ffordd, e.e. arwyddion prism sy'n cylchdroi
•Arwyneb y Ffordd Gerbydau
•Arwyddion traffig e.e. diffygion goleuo ar arwyddion terfynol;
•Asedau strwythurol e.e. waliau cynnal;
•Asedau priffyrdd e.e. adeiladwaith y ffyrdd cerbydau;
•Asedau Geodechnegol e.e.rhwydo creigiau;
•Elfennau meddal yr ystâd e.e. torri gwair.
Sicrhau y caiff cofnodion priodol eu cadw, gan gynnwys cynorthwyo i gynnal a diweddaru gwybodaeth rhestrau cofnodi isadeiledd technoleg.
Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiant.
Cynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i sicrhau cydymffurfiaeth â:
•Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
•Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
•Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiant yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaid a chyrff perthnasol eraill.
Bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch yr Adran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Ar y cyd â Goruchwyliwr Uned Ymateb i Ddigwyddiadau DSO’r Darparwr Gwasanaeth, gweithredu technegau asesu risg deinamig a phriodol i gyflawni’r rôl Rheoli Digwyddiad mewn amgylchedd ble mae diogelwch yn hanfodol.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan Bennaeth / Rheolwr y Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae gofyn gweithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn gan gynnwys dros nos, a chynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith i ymdrin ag argyfyngau fel bo’r gofyn.
•Mae gofyn ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn gan roi ystyriaeth arbennig i weithgarwch gweithredol a gweithgarwch yn ymwneud ag isadeiledd.
•Bod ar gael yn ôl y gofyn ar sail 24 awr yn unol â system rota i ddarparu ymateb y tu allan i oriau i reoli digwyddiadau.