Swyddi ar lein
Cyfarwyddwr Portffolio
£84,480 - £93,163 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-30119
- Teitl swydd:
- Cyfarwyddwr Portffolio
- Adran:
- Uchelgais Gogledd Cymru
- Dyddiad cau:
- 22/01/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £84,480 - £93,163 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- -
- Lleoliad(au):
- Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu ag Alwen Williams, Prif Weithredwr - Cyd- Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru drwy ebost: swyddi@uchelgaisgogledd.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 22/01/2026
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau ar yr 20fed o Fawrth 2026.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Gwerthoedd ac Ymddygiadau
Gwerthoedd y Tîm
Rydym yn Uchelgeisiol – rydym yn ymdrechu i gyflawni'r gorau i Ogledd Cymru. Rydym yn arweinwyr yn ein meysydd, yn ffurfio barn ac yn ddylanwadwyr, ac rydym yn herio syniadau confensiynol. Rydym yn canlyn safonau uchel, yn anelu at fod ein gorau, a datblygu ein hunain yn broffesiynol yn barhaus.
Rydym yn Gweithio ar y Cyd – rydym yn rhannu gwybodaeth, sgiliau a chefnogaeth a sicrhau ein bod yn rhoi cyfathrebu’n gyson â'n cydweithwyr. Rydym yn helpu ein gilydd bob amser, yn hwyluso cyfleoedd i Ogledd Cymru ac yn cydnabod bod ein heffaith ar y cyd yn fwy sylweddol na'n heffaith yn unigol.
Rydym yn gwneud y peth iawn – rydym yn gwneud y peth iawn, nid y peth hawsaf. Rydym yn herio ymddygiad anfoesol ac yn codi ein llais pan nad yw pethau'n teimlo'n iawn. Rydym yn barchus, yn deg ac yn ystyriol ac fe ellir ymddiried ynom i gyflawni'r ymrwymiadau sydd wedi'u cytuno ar amser.
Rydym yn gwneud gwahaniaeth – rydym yn mynd ar drywydd cyfleoedd i wneud gwahaniaeth yng Ngogledd Cymru. Rydym yn bencampwyr yr iaith Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn cefnogi elusennau rhanbarthol. Rydym yn gwarchod yr amgylchedd ac yn chwilio am gyfleoedd i leihau ein hôl-troed.
Ymddygiadau craidd i bob rôl
Arweinyddiaeth -– rydym oll yn arwain drwy esiampl ac rydym i gyd yn arweinwyr yn ein meysydd ein hunain.
Cyfrifoldeb – rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein gwaith, ein perfformiad a'n datblygiad.
Parch – rydym yn parchu ein cydweithwyr, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ac yn arddangos hyn drwy ein gwaith ac yn y ffordd yr ydym yn adeiladu perthnasoedd effeithiol.
Disgwylir i ddeilydd y swydd arddangos ymddygiad moesegol a gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus sy'n gyson ag Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan, sef anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth.
Cymwysterau
Addysg i lefel gradd neu gyfatebol mewn maes perthnasol.
Tystiolaeth o ddatblygiad personol a rheolaethol parhaus perthnasol.
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau
Cofnod wedi ei brofi o arweinyddiaeth ar lefel uchel wrth gyflawni portffolios, rhaglenni neu fentrau datblygu economaidd cymhleth, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gyda nifer o rhanddeiliaid neu sector cyhoeddus.
Gwybodaeth gadarn am ddatblygu economaidd, twf rhanbarthol a pholisi adfywio yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys dealltwriaeth o gyllid y llywodraeth a chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF mewn perthynas â Gwell
Achosion Busnes.
Profiad helaeth o weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, addysg uwch/bellach, y sector preifat, a'r llywodraeth, gyda thystiolaeth o adeiladu perthnasau effeithiol a chydweithredol.
Arddangos y gallu i drosi gweledigaeth strategol i weithrediad, gydag allbynnau mesuradwy, gwerth am arian a buddion cynaliadwy.
Ymwybyddiaeth wleidyddol a sgiliau rheoli rhanddeiliaid gwych, gyda'r gallu i ddylanwadu a negodi ar draws gwahanol ddiddordebau a lefelau uchel.
Gallu wedi'i brofi ym maes rheoli rhaglenni, gan gynnwys risgiau, perfformiad, rheolaeth ariannol a llywodraethu.
Sgiliau dadansoddi cadarn, gyda'r gallu i ddehongli data economaidd, ariannol a demograffig er mwyn cefnogi proses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da, gyda'r gallu i ysbrydoli hyder a hyrwyddo gweledigaeth Uchelgais Gogledd Cymru i gynulleidfaoedd amrywiol.
Sgiliau wedi'u profi ym maes arwain a rheoli pobl, gyda phrofiad o ddatblygu timau sy'n perfformio i lefel uchel ac wedi'u cymell.
Ymrwymiad i'r safonau uchaf o wasanaeth cyhoeddus a llywodraethu, gan gynnwys glynu at Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth).
Gofynion Ieithyddol
Mae’r gofynion isod yn HANFODOL ar gyfer y swydd hon:
Gwrando a Siarad – yn gallu ymdrin â holl agweddau’r swydd yn llafar mewn modd hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth yn gywir o amrywiaeth eang o ffynonellau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn gallu ymdrin â phob agwedd o’r swydd.
Ysgrifennu – yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn hollol hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio’r iaith a’r arddull fwyaf priodol i gwrdd ag anghenion y darllenydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Rôl
- Darparu arweiniad a chyfeiriad ar lefel uwch i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn unol â gweledigaeth hirdymor y rhanbarth ar gyfer Lles Economaidd.
- Gyrru a hyrwyddo cydweithio ar draws chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, addysg bellach ac uwch, y sector preifat, ynghyd â Llywodraethau Cymru a'r DU i wneud y mwyaf o'r effaith economaidd a chymdeithasol.
- Arwain y gwaith o gynllunio rheoli a chyflawni portffolio'r Cynllun Twf, gan sicrhau gwerth am arian a chyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt.
- Hyrwyddo twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy drwy arloesi, datblygu sgiliau, creu swyddi, buddsoddiad sector preifat a'r trawsnewid i economi carbon-isel.
- Datblygu a chynnal perthnasau gwaith cadarn gyda rhanddeiliaid rhanbarthol, cenedlaethol a'r DU, gan gefnogi'r Prif Weithredwr wrth ddylanwadu ar bolisi, denu buddsoddiad, ynghyd â chryfhau safle economaidd Gogledd Cymru.
- Sicrhau safonau uchel o lywodraethu, tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd o gyflawni'r portffolio.
- Gweithredu fel uwch gynrychiolydd y sefydliad, gan hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau'r rhanbarth i bartneriaid, buddsoddwyr a chymunedau.
Cyfrifoldebau Arweinyddiaeth Craidd
- Cyfrifoldeb ar y cyd fel rhan o'r Tîm Arweinyddiaeth i osod strategaeth, cyflawni a rheoli perfformiad ar draws y sefydliadau.
- Cyfrifoldeb am ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau Uchelgais Gogledd Cymru fel unigolyn ac ymysg y staff mewn timau.
- Cyfrifoldeb am gefnogi cydweithwyr ac aelodau'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru a chefnogi eu datblygiad.
- Rheolaeth matrics o staff ac adnoddau ar draws y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ôl yr angen i gyflawni blaenoriaethau.
- Gweithredu fel llysgennad i Uchelgais Gogledd Cymru a'r rhanbarth
Cyfrifoldebau Penodol i'r Swydd
1. Arweinyddiaeth a Gweledigaeth Strategol
-Bod yn atebol i Is-bwyllgor Lles Economaidd Gogledd Cymru i ddatblygu a chyflawni ei Weledigaeth ar gyfer Lles Economaidd, gan roi cyngor a chyfeiriad strategol er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd i gyflawni twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol ar draws y rhanbarth.
- Darparu arweiniad ac argymhellion arbenigol i'r Is-bwyllgor ar y strategaethau a'r systemau sy'n angenrheidiol i greu twf a ffyniant, gan sicrhau bod cyflogaeth a sgiliau, trafnidiaeth, a chynllunio defnydd tir yn cael eu hintegreiddio fel rhan ehangach o swyddogaeth Lles Economaidd y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
- Adnabod a mynd ar drywydd cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a denu buddsoddiad allanol, gan hyrwyddo anghenion a photensial Gogledd Cymru ar lwyfan rhanbarthol a chenedlaethol.
- Hyrwyddo dull gweithredu cyd-gysylltiedig a chydweithredol ymhlith partneriaid allweddol yn y rhanbarth i fynd i'r afael â materion economaidd strategol a gwneud y gorau o unrhyw gyfleoedd twf.
- Cynnal perthynas gadarn a chefnogol gyda Pherchennog Cyfrifol (SRO) a Phrif Weithredwr Uchelgais gogledd Cymru, gan dynnu sylw at risgiau a materion yn briodol.
2. Cyflawni'r Rhaglen a'r Portffolio
- Arwain a chydlynu'r gwaith o gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan sicrhau bod yr holl rhaglenni a phrosiectau yn cael eu cyflawni'n effeithiol gan y partneriaid perthnasol, wedi eu cefnogi gan gynllun rhaglen cynhwysfawr gydag adnoddau, trefniadau rheoli prosiect cadarn a monitro perfformiad clir.
- Bod yn gyfrifol am berfformiad, rheolaeth risgiau, ac allbynnau rhaglenni a Phrosiectau'r Cynllun Twf, ynghyd â mentrau ehangach sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth a'r Weledigaeth Corfforaethol.
- Adolygu a threfnu dadansoddiadau demograffig ac economaidd gan bartneriaid a'r sector busnes, er mwyn cyfrannu at gynllunio a blaenoriaethu'r portffolio.
- Datblygu a rheoli'r gyllideb a phortffolio'r Cynllun Twf, mewn partneriaeth â phartneriaid busnes Cyllid, i'w gymeradwyo gan yr Is-bwyllgor – gan sicrhau rheolaeth ariannol gadarn a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
- Sicrhau bod materion yn cael eu codi'n briodol i'r Uwch Berchennog Cyfrifol a'r Prif Weithredwr, gan rannu'r ddealltwriaeth o risgiau a pherfformiad.
3. Llywodraethu, Atebolrwydd a Chydymffurfio
- Cydlynu'r broses o wneud penderfyniadau drwy'r cynghorau partner ac asiantaethau eraill lle nad yw penderfyniadau yn llwyr o fewn cylch gwaith yr Is-bwyllgor.
- Sicrhau bod materion o fewn cylch gwaith yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cael eu dwyn ymlaen mewn da bryd i wneud penderfyniadau, gydag adroddiadau perfformiad cynhwysfawr, cywir, o ansawdd uchel, ynghyd ag argymhellion.
- Arwain y gwaith o gyflawni'r Cynllun Twf drwy'r Swyddfa Rheoli Portffolio, sicrhau bod y dull gweithredu yn effeithlon ac yn unol â'r dull llywodraethu y cytunwyd arno, ac y defnyddir adnoddau yn effeithiol i ddiwallu blaenoriaethau'r portffolio.
- Sicrhau bod partneriaid cyflawni a'r ffrydiau gwaith a ddosberthir yn derbyn adnoddau digonol a'u bod yn cael eu dal i gyfrif wrth gyflawni i'r amcanion, amserlenni, a'r cyllidebau a'r deilliannau y cytunwyd arnynt.
- Sicrhau bod mesurau rheoli cadarn ar waith ar gyfer rheoli risgiau, gwireddu'r buddion, datrys materion a rheoli newidiadau ar draws rhaglen y Cynllun Twf.
- Gweithio'n rhagweithiol gyda swyddogion statudol (Adran 151 a Swyddog Monitro) i sicrhau bod holl weithgareddau'r portffolio yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau ariannol, cyfreithiol a llywodraethu, ac yn unol â Chyfansoddiad a pholisïau cysylltiedig Uchelgais Gogledd Cymru.
4. Ymgysylltu gyda Rhanddeiliaid a Phartneriaid
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf a strategol gyda Llywodraethau Cymru a'r DU, Awdurdodau Lleol cyfagos, Awdurdodau Cyfunol, a rhanddeiliaid eraill rhanbarthol a chenedlaethol.
- Gweithredu fel yr uwch bwynt cyswllt ar gyfer rhanddeiliaid allanol sy'n ymwneud â'r Is-Bwyllgor Lles Economaidd, gan sicrhau bod cyfathrebu ac ymgysylltu wedi'u cydlynu.
- Gweithio'n rhagweithiol gyda'r Bwrdd Busnes Ymgynghorol Rhanbarthol i adnabod cyfleoedd ar gyfer twf, arloesi a buddsoddi - gan sicrhau bod eu cyngor yn derbyn ystyriaeth wrth i'r Is-bwyllgor wneud penderfyniadau.
- Arwain ar ddull o ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n gynhwysol ac yn rhagweithiol ar draws awdurdodau lleol, asiantaethau partner, busnesau a chymunedau.
- Sicrhau bod gan yr Is-bwyllgor strategaeth gyfathrebu sy'n glir ac yn effeithiol, sy'n hyrwyddo'i weledigaeth, blaenoriaethau a llwyddiannau i'r holl ran-ddeiliaid.
5. Arwain Pobl ac Adnoddau
- Darparu arweiniad clir a gweledol sy'n cefnogi datblygiad diwylliant tîm o berfformiad uchel a chymhelliant.
- Arwain a gweithredu fel model rôl ar gyfer gwerthoedd ac ymddygiadau Uchelgais Gogledd Cymru, gan feithrin diwylliant o gydweithio, onestrwydd a rhagoriaeth.
- Cefnogi a datblygu staff drwy rheolaeth llinell a matrics effeithiol, a chyfrannu at arweinyddiaeth ehangach y sefydliad.
6. Dyletswyddau Ychwanegol
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â lefel awdurdod y swydd i gefnogi'r Prif Weithredwr a'r tîm ehangach wrth gyflawni blaenoriaethau sefydliadol a rhanbarthol.