Gwerthoedd ac Ymddygiadau
Gwerthoedd y Tîm
- Rydym yn Uchelgeisiol - Rydym yn ymdrechu i gyflawni'r gorau i ogledd Cymru. Rydym yn arweinwyr yn ein meysydd, yn ffurfio barn ac yn ddylanwadwyr, ac rydym yn herio syniadau confensiynol. Rydym yn crefu safonau uchel, yn anelu at fod ein gorau, ac yn datblygu ein hunain yn broffesiynol yn barhaus.
- Rydym yn Gweithio ar y Cyd - Rydym yn rhannu gwybodaeth, sgiliau, gwybodaeth a chefnogaeth a sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i'n cydweithwyr am y datblygiadau diweddaraf. Rydym yn helpu ein gilydd bob amser, yn hwyluso cyfleoedd i ogledd Cymru ac yn cydnabod bod ein effaith ar y cyd yn fwy sylweddol na'n heffaith yn unigol.
- Rydym yn gwneud y peth iawn - Rydym yn gwneud y peth iawn, nid y peth hawsaf. Rydym yn herio ymddygiad anfoesol ac yn codi ein llais pan nad yw pethau'n teimlo'n iawn. Rydym yn barchus, yn deg ac yn ystyriol ac fe ellir ymddiried ynom i gyflawni'r ymrwymiadau sydd wedi'u cytuno ar amser.
- Rydym yn gwneud gwahaniaeth - Rydym yn canlyn cyfleoedd i wneud gwahaniaeth yng ngogledd Cymru. Rydym yn bencampwyr yr iaith Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn cefnogi elusennau rhanbarthol. Rydym yn gwarchod yr amgylchedd ac yn chwilio am gyfleoedd i leihau ein hôl-troed.
Ymddygiadau craidd i bob rôl
- Arweinyddiaeth – rydym oll yn arwain drwy esiampl ac rydym i gyd yn arweinwyr yn ein meysydd ein hunain.
- Cyfrifoldeb - rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein gwaith, ein perfformiad a'n datblygiad.
- Parch - rydym yn parchu ein cydweithwyr, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ac yn arddangos hyn drwy ein gwaith ac yn y ffordd yr ydym yn adeiladu perthnasau effeithiol.
Cymwysterau
- Gradd/ôl-radd mewn maes perthnasol (neu gyfatebol)
- Cymhwyster Rheoli Prosiect / Rhaglen (e.e. Ymarferydd PRINCE 2 neu gyfatebol)
- Aelod o Sefydliad Proffesiynol perthnasol (dymunol)
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau
- Gwybodaeth dda o ddulliau rheoli prosiect, ysgrifennu bid a/neu brosesau datblygu achos busnes.
- Profiad o gyflawni rhaglenni a/neu brosiectau'n llwyddiannus ar amser ac o fewn y gyllideb.
- Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Gwybodaeth am, neu brofiad perthnasol yn y sector ynni carbon isel a mentrau ynni ledled y DU
- Gwybodaeth dda am heriau a chyfleoedd ynni a sero net yng ngogledd Cymru a'r DU.
- Dealltwriaeth o arferion rheoli ariannol a rheoli contractau.
- Sgiliau cyfathrebu cryf gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol yn fewnol ac yn allanol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu da a'r gallu i weithio ar sawl blaenoriaeth ar yr un pryd.
- Gallu cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel wrth weithio i amserlen dynn.
Gofynion Ieithyddol
Ar gyfer y rôl hon, mae'r gofynion a ganlyn yn DDYMUNOL:
- Gwrando a Siarad - Yn gallu ymdrin â holl agweddau’r swydd yn llafar mewn modd hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall - Yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth yn gywir o amrywiaeth eang o ffynonellau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn gallu ymdrin â phob agwedd o’r swydd.
- Ysgrifennu - Yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn hollol hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio’r iaith a’r arddull fwyaf priodol i gwrdd ag anghenion y darllenydd.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i'r rhanbarth a pharodrwydd i ddatblygu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg.