Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i gydlynu a gweithredu ar y gwaith o dderbyn a phrosesu ceisiadau ar draws Gwasanaethau Adran Amgylchedd, ceisiadau am wasanaeth, hysbysiadau a cheisiadau am drwyddedau, darparu gwasanaeth pridiannau tir a gweinyddu’r chwiliadau a chofrestr pridiannau tir,
•Derbyn ffioedd, sganio a digideiddio gwybodaeth a’r holl ddyletswyddau cysylltiedig.
•Gwneud defnydd effeithiol o’r systemau a ddefnyddir yn unol â gofynion y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd.
•Sicrhau y darperir gwasanaeth o safon uchel ac yn unol â pholisïau a strategaethau corfforaethol y Cyngor.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Prosesu ffioedd a dderbynnir gan y Gwasanaeth yn unol a chanllawiau ariannol yr awdurdod a
threfniadau gwaith y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am offer personol ac offer arbenigol sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Cydlynu a gweithredu ar y gwaith o gofrestru a phrosesu ceisiadau cynllunio, achosion gorfodaeth cynllunio
ac apeliadau, cofrestru a prosesu ceisiadau am wasanaeth, hysbysiadau a cheisiadau am drwyddedau,
gweithredu a gweinyddu’r chwiliadau a chofrestr pridiannau tir a’r gofrestr tir comin.
•Derbyn ac ymdrin â ffioedd y gwasanaeth.
•Prosesu arian a dderbynnir gan y gwasanaeth yn unol â chanllawiau’r awdurdod.
•Mewnfwydo gwybodaeth i systemau cyfrifiadurol y gwasanaeth a phrosesu’r wybodaeth fel bo’r angen
ynghyd a sganio, plotio, a chofrestru.
•Cydlynu, chydgordio, ac ymateb i ymholiadau pridiannau tir.
•Ymgymryd â gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth ar gyfer anghenion y Gwasanaeth a chyrff allanol.
•Cynnig cyngor dechreuol i ddefnyddwyr y gwasanaeth ar faterion cynllunio, gwarchod y cyhoedd, a
pridiannau tir.
•Cyfrifoldeb am gynnal cofrestrau'r gwasanaeth e.e. ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig,
cadwraethol a choed o fewn yr ardal, pridiannau tir, tir comin, a chynllunio.
•Dirprwyo dros y Swyddog Cefnogol fel bo angen.
•Ymdrin â gwaith cefnogol arall ar gyfer y Gwasanaeth megis ymdrin â phost, costau teithio, gweinyddu
apeliadau, ffeilio a phrosesu anfonebau pan fo angen.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol ar achlysuron arbennig. Fod yn hyblyg i symud lleodiad dros dro pe
bai’r angen yn codi.