Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithredu cynllun Marchnata Storiel
• Arwain tîm blaen tŷ Storiel
• Cynorthywo’r Swyddog Datblygu Amgueddfeydd gyda gofal cwsmer a rhedeg safle Storiel
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Ymdrin ac arian, arwain tîm blaen ty,
Prif Ddyletswyddau.
• Cynorthwyo’r Swyddog Datblygu Amueddfeydd gan arwain dydd i ddydd gyda gweinyddiaeth Storiel, gofal cwsmer, rhedeg y safle a chefnogi gyda threfnu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau
• Bod yn Arweinydd Tîm a chyswllt dydd i ddydd i Gymhorthion Safle. Trefnu rota agor a chau'r adeilad a blaen tŷ. Datblygu’r tim blaen tŷ i roi y profiad gorau i ymwelwyr.
• Arwain ar weithredu’r cynllun marchnata gan ddangos arbenigedd yn y maes. Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Storiel. Addasu’r cynllun marchnata fel yr angen. Cyfrannu at gynllun datblygu cynulleidfa Storiel ( Angen Gradd neu profiad perthnasol)
• Croesawu ymwelwyr i Storiel, hyrwyddo’r gwasanaethau, ymdrin ag ymholiadau a darparu gwybodaeth gan arddangos sgiliau gofal cwsmer da yn cynnwys bod yn groesawus a chlên wrth holl ddefnyddwyr
• Trefnu rota a bod yn bwynt cyswllt i wirfoddolwyr.
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithdrefnau llogi; ymdrin ac ymateb i ymholiadau am logi, digwyddiadau, gweithgareddau, ymholiadau amrywiol, yn cynnwys ymdrin ac arian a chymryd tal ar-lein a thros y ffon.
• Cydgordio a phrosesu’r archebion, taliadau a pharatoi gofodau yn ôl rhaglen y dydd gyda chefnogaeth y cymhorthion safle.
• Cynorthwyo a chefnogi gydag/hwyluso ymweliadau, gweithgareddau a digwyddiadau gan gynnwys grwpiau
• Arwain ar weinyddiaeth gyffredinol, y siop, yr orielau, gofod lluniaeth a’r dderbynfa gan werthu a chofnodi cynnyrch y gofodau; gweinyddu’r till, arian a rheoli stoc gan gynnwys cadw cyfrifon sylfaenol a bancio’r incwm
• Dadansoddi gwerthiannau ac ystadegau cyffredinol am ac adrodd arnynt i’r Swyddog Datblygu a’r Rheolwr.
• Arddangos nwyddau’r siop mewn modd mor ddeniadol â phosib ac ymchwilio i artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr newydd
• Annog a derbyn rhoddion ariannol
• Bod yn bwynt cyswllt dydd i ddydd i adrodd i’r adran Eiddo/ chynnal a chadw/cyflenwyr a/neu’r Swyddog Datblygu am unrhyw ddiffyg ar yr adeilad yn ôl yr angen.
• Glanhau a thacluso yn unol â chynllun gwaith a monitro’r adeilad
• Sicrhau a chadw at safonau a rheolau hylendid bwyd ac ymgymryd gydag unrhyw hyfforddiant penodol yn y maes hwn. Gweini diodydd poeth, diodydd medal, diodydd alcoholig a byr frydau i gwsmeriaid
• Sicrhau trefn a diogelwch yn ystod ymweliadau, llogi, gweithgareddau ayyb yn cynnwys cyfeirio ( a tywys os yn briodol ) defnyddwyr ( e.e i’r orielau ) a chynorthwyo gyda materion mynediad a gadael
• Bod yn ymwybodol o reolau tân ac yn gallu cynorthwyo i wacau’r adeilad yn ddiogel mewn argyfwng
• Lleolir y swydd yn Storiel ond gellir o dro i dro ail leoli i gynorthwyo yn sefydliadau eraill y Gwasanaeth
• Cwblhau tasgau eraill sy’n ofynnol dan reolaeth strategol a gweithredol y gwasanaeth
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Oriau 37 awr Dydd Mawrth - Sadwrn. Ar adegau mae angen gweithio tu allan i oriau arferol ar gyfer digwyddiadau/ hyfforddiant / llogi ayyb.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.