Pwrpas y swydd
Pwy yw Gogledd Cymru Actif?
Gogledd Cymru Actif yw partneriaeth ranbarthol sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid i wella iechyd a lles y boblogaeth drwy annog a chefnogi mwy o bobl i fod yn actif – mewn ffyrdd sy’n berthnasol, hygyrch ac yn gynaliadwy iddyn nhw.
Diben y swydd hon yw gwella gwydnwch, cynhwysiant a chynaliadwyedd clybiau cymunedol ledled Gogledd Cymru.
Bydd y swyddog yn gweithio yn y rhanbarth er mwyn pennu heriau cyffredin, cysylltu clybiau a phartneriaid, a darparu cymorth strategol, teilwredig a fydd yn cynorthwyo i gyflawni gwaith yn lleol.
Dyma rôl newydd ac arloesol sy’n anelu at wneud y canlynol:
•Mynd i’r afael â bylchau mewn cymorth datblygu clybiau ledled y rhanbarth.
•Creu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau a phartneriaid y system.
•Hwyluso atebion cydweithredol a’r arfer o ddysgu gan gymheiriaid.
•Profi a gwerthuso model rhanbarthol ar gyfer cymorth i glybiau – sef model a fydd yn ychwanegu gwerth at strwythurau sy’n bodoli eisoes.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Ni cheir cyfrifoldebau rheolwr llinell uniongyrchol.
•Cadw Golwg ar y Gyllideb: Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli cyllideb i ategu mentrau datblygu clybiau (e.e. digwyddiadau, adnoddau, comisiynu cymorth, mentora).
•Rheoli Perthnasau:
oAdeiladu a chynnal cydberthnasau gweithio cryf gyda swyddogion awdurdodau lleol, clybiau, gwirfoddolwyr, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a phartneriaid y system.
oGweithredu fel cyswllt rhwng partneriaid cyflawni lleol a phartneriaid rhanbarthol/cenedlaethol (e.e. Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, y trydydd sector).
•Rheoli Gwybodaeth:
oSicrhau y cofnodir yn fanwl gywir y gwaith ymgysylltu a wneir gyda chlybiau, y cymorth a ddarperir a’r canlyniadau a gyflawnir.
oCyfrannu at ddysgu rhanbarthol trwy gyfrwng astudiaethau achos ac adborth.
Prif ddyletswyddau
Ymgysylltu â Chlybiau a Rhoi Cymorth i Glybiau
•Mapio clybiau cymunedol a chysylltu â chlybiau cymunedol ar draws y chwe ardal awdurdod lleol.
•Pennu themâu, heriau a chyfleoedd cyffredin.
•Rhoi cymorth ymatebol, cymesur i glybiau, yn cynnwys cyfeirio a mentora.
•Cynnig cymorth hyblyg, yn cynnwys gyda’r nos/ar benwythnosau, i gyd-fynd ag argaeledd gwirfoddolwyr.
Hwyluso a Dysgu
•Datblygu a chyflawni rhaglen dreigl o fentrau cymorth (e.e. gweithdai, dysgu gan gymheiriaid, ceisiadau ar y cyd).
•Hyrwyddo a rhannu arferion da ledled y rhanbarth.
•Hwyluso cymorth thematig neu gymorth sy’n seiliedig ar y clwstwr er mwyn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith.
Llywio trwy Systemau a Gweithio mewn Partneriaeth
•Gweithredu fel cyswllt rhwng clybiau a phartneriaid ehangach y system.
•Cyd-lunio a chyd-ddarparu cymorth gyda phartneriaid, pan fo’n briodol.
•Sicrhau y cydweddir â chynlluniau lleol a blaenoriaethau strategol Actif.
Monitro, Gwerthuso a Dysgu
•Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth ranbarthol trwy ddefnyddio astudiaethau achos, adborth a mewnwelediadau.
•Cynorthwyo i werthuso’r model peilot a rhannu’r pethau a ddysgir ledled y rhanbarth.
Cyfrifoldebau Corfforaethol
•Ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddatblygiad personol a dysgu parhaus.
•Sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a pholisïau’r Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y Cyngor.
•Rheoli gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data a chanllawiau’r Cyngor.
•Cyfrannu at leihau allyriadau carbon y Cyngor, yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon.
•Mynd i’r afael ag unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n gymesur â’r rôl a’r cyflog.
•Rhoi gwybod am unrhyw bryderon neu amheuon yn ymwneud â diogelu plant neu oedolion agored i niwed.
Amgylchiadau arbennig
Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn fodlon teithio ledled Gogledd Cymru a gweithio’n hyblyg, yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o dro i dro, er mwyn diwallu anghenion y rôl.