Swyddi ar lein
Rheolwr Cynnwys Digidol ac Adrodd Straeon Rhanbarthol
£37,280 - £39,152 y flwyddyn | Dros dro (gweler hysbyseb swydd)
- Cyfeirnod personel:
- 25-29008
- Teitl swydd:
- Rheolwr Cynnwys Digidol ac Adrodd Straeon Rhanbarthol
- Adran:
- Gogledd Cymru Actif
- Dyddiad cau:
- 04/12/2025 05:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (gweler hysbyseb swydd) | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,280 - £39,152 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad: Hybrid gyda disgwyliad i fynychu cyfarfodydd yn Llanelwy yn ôl y gofyn.
📅 Math Swydd: Cyfnod penodol o ddwy flynedd, gyda’r posibilrwydd o estyn yn amodol ar ddangos effaith y rôl a’r argaeledd o gyllid yn y dyfodol.
Croesewir ceisiadau ar sail secondiad.
Rheolwr Cynnwys Digidol ac Adrodd Straeon Rhanbarthol
Ydych chi'n storïwr creadigol gydag angerdd am gynnwys digidol ac effaith gymunedol?
Mae hwn yn gyfle unigryw i lunio sut rydym yn adrodd stori gweithgarwch corfforol, chwaraeon a symudiad ledled Gogledd Cymru.
Mae Gogledd Cymru Actif yn edrych i ymgorffori adrodd straeon wrth wraidd ein system ranbarthol — ac rydym yn chwilio am rywun i'w harwain.
Rydym yn chwilio am Reolwr Cynnwys Digidol ac Adrodd Straeon Rhanbarthol i'n helpu i ddal a rhannu straeon go iawn symudiad ar draws ein cymunedau.
✅ Gwneuthurwr cynnwys creadigol
✅Angerddol am weithgarwch corfforol, chwaraeon, iechyd a chynhwysiant
✅ Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
✅ Yn barod i weithio'n hyblyg ar draws Gogledd Cymru
Mae gan Gogledd Cymru Actif becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Manon O'brien ar 07920 456 201 neu drwy e-bost: Manon@gogleddcymruactif.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
⏰ DYDDIAD CAU: 17:00 O’R GLOCH, 04/12/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Creadigol ac arloesol, gydag angerdd dros adrodd straeon ac ymgysylltu digidol.
Cydweithredol ac yn fodlon cyd-greu cynnwys gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau amrywiol.
Eiriolwr brwd dros weithgarwch corfforol, chwaraeon a symud.
Hunangymhellol, a’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Hyblyg a pharod i addasu, a’r gallu i ymateb i flaenoriaethau ac amgylcheddau newidiol.
Wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth gynhwysol ym mhob agwedd ar y gwaith.
Dymunol
Gwydn, a’r gallu i dderbyn adborth a gweithredu ar ei sail mewn modd adeiladol.
Dull cadarnhaol, rhagweithiol o ddatrys problemau a sicrhau gwelliannau parhaus.
Yn angerddol dros leihau anghydraddoldebau a gwella bywydau trwy gyfrwng gweithgarwch corfforol, chwaraeon a symud.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. y cyfryngau, cyfathrebu, marchnata digidol, newyddiaduraeth, y celfyddydau creadigol).
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ymwneud â chreu cynnwys digidol neu feysydd cysylltiedig.
Dymunol
Hyfforddiant achrededig mewn cynhyrchu fideos, dylunio graffeg neu reoli’r cyfryngau cymdeithasol.
Hyfforddiant diogelu (neu barodrwydd i fynd i’r afael â hyfforddiant o’r fath).
Cymhwyster proffesiynol yn y cyfryngau digidol, mewn cyfathrebu neu mewn maes cysylltiedig.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o reoli ymgyrchoedd digidol a sianeli cyfryngau cymdeithasol sefydliadol.
Hanes blaenorol o greu cynnwys digidol diddorol (e.e. fideos, graffigwaith, blogiau, riliau).
Profiad o gofnodi a rhannu straeon gan gymunedau neu sefydliadau.
Yn hyderus wrth weithio mewn amgylchedd dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Dymunol
Profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth neu leoliad partneriaeth.
Profiad o ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a/neu grwpiau cymunedol.
Profiad o ategu gwerthuso a dysgu trwy gyfrwng adrodd straeon creadigol.
Profiad o ddatblygu neu wella brand digidol neu hunaniaeth sefydliadol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau rhagorol o ran creu cynnwys digidol, yn cynnwys ffilmio, golygu, dylunio graffeg ac ysgrifennu copi.
Y gallu i ddadansoddi data ymgysylltu digidol ac addasu strategaethau cynnwys yn unol â hynny.
Sgiliau cryf o ran cyfathrebu ac adrodd straeon sydd wedi’u teilwra i gynulleidfaoedd amrywiol.
Sgiliau effeithiol o ran rheoli prosiectau – y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a gweithio o fewn amserlenni.
Sgiliau rhyngbersonol da, gyda hyder i ymgysylltu â chymunedau, plant, pobl ifanc a phartneriaid y system.
Hyfedredd o ran defnyddio platfformau ac offer digidol (e.e Canva, Adobe Creative Suite, meddalwedd golygu fideos, offer amserlennu cyfryngau cymdeithasol).
Dealltwriaeth o ddiogelu data, cydsynio a diogelu yng nghyd-destun cynnwys digidol.
Dymunol
Gwybodaeth am y sector gweithgarwch corfforol, chwaraeon neu iechyd yng Ngogledd Cymru.
Ymwybyddiaeth o ddylunio cynhwysol a safonau hygyrchedd digidol.
Sgiliau animeiddio, podledu neu ffrydio byw.
Dealltwriaeth o ddadansoddeg ddigidol a dulliau gwerthuso.
Profiad o weithio mewn/gyda sefydliadau gwirfoddol/cymunedol.
Yn gyfarwydd â’r cyd-destun polisi yng Nghymru (e.e. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru).
Profiad o gyflwyno hyfforddiant neu uwchsgilio pobl eraill mewn perthynas â chreu cynnwys digidol.
Ymwybyddiaeth o dechnolegau datblygol, yn cynnwys platfformau ac offer Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
Pwy yw Gogledd Cymru Actif?
Gogledd Cymru Actifyw partneriaeth ranbarthol sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid i wella iechyd a lles y boblogaeth drwy annog a chefnogi mwy o bobl i fod yn actif – mewn ffyrdd sy’n berthnasol, hygyrch ac yn gynaliadwy iddyn nhw.
Diben y swydd newydd ac arloesol hon yw gwella amlygrwydd, cyrhaeddiad ac effaith Gogledd Cymru Actif trwy wneud y canlynol:
•Cofnodi a rhannu straeon o bob cwr o’r rhanbarth.
•Cynhyrchu cynnwys digidol dwyieithog, o’r radd flaenaf (e.e. fideos byr, graffigwaith, blogiau, riliau).
•Rhannu ac amlygu lleisiau plant, pobl ifanc a chymunedau.
•Ategu gwerthuso a dysgu trwy gyfrwng adrodd straeon creadigol.
Bydd y rôl yn cryfhau ein presenoldeb digidol a’n hunaniaeth ranbarthol, yn helpu partneriaid a chyllidwyr i ddeall gwerth gweithgarwch corfforol a chwaraeon ledled y system, ac yn profi a yw capasiti creadigol mewnol yn esgor ar effaith fwy na chynnwys a gaiff ei greu gan gyflenwyr allanol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli Cyllidebau: Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli cyllideb fach yn ymwneud â chreu cynnwys, yn cynnwys comisiynu cymorth llawrydd (e.e. fideograffwyr, cyfieithwyr), prynu trwyddedau meddalwedd a goruchwylio gwariant ar ymgyrchoedd digidol. Disgwylir i ddeiliad y swydd sicrhau gwerth am arian a chydymffurfio â gweithdrefnau caffael ac ariannol.
•Rheoli Cyfarpar: Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am warchod, cynnal a chadw, a defnyddio cyfarpar digidol yn briodol (e.e. camerâu, microffonau, offer golygu, dyfeisiau symudol) a ddarperir ar gyfer creu cynnwys. Efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gaffael cyfarpar newydd fel bo’r angen.
•Rheoli Perthnasau: Er na fydd gan ddeiliad y swydd unrhyw gyfrifoldebau rheolwr llinell uniongyrchol, bydd rôl hollbwysig o ran rheoli perthnasau ledled partneriaeth Gogledd Cymru Actif. Bydd hyn yn cynnwys:
oCreu a chynnal cydberthnasau gweithio cryf gyda swyddogion awdurdodau lleol, ysgolion, grwpiau cymunedol a phrosiectau a gomisiynir.
oGweithredu fel cyswllt rhwng y tîm rhanbarthol a phartneriaid cyflawni lleol er mwyn pennu a chyd-greu straeon llawn effaith.
oCynrychioli Gogledd Cymru Actif mewn modd proffesiynol a chydweithredol wrth gyfathrebu ac ymgysylltu’n allanol.
Prif ddyletswyddau
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau hollbwysig a ganlyn ar draws pum maes craidd:
Creu Cynnwys ac Adrodd Straeon
•Cynhyrchu cynnwys digidol diddorol a chynhwysol (fideos byr, riliau, ffotograffiaeth, blogiau, graffigwaith).
•Sicrhau bod yr holl gynnwys yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), yn berthnasol yn ddiwylliannol, ac yn gydnaws â’r gynulleidfa.
•Cofnodi straeon dilys a lleisiau plant, pobl ifanc a chymunedau.
•Creu cynnwys ymgyrchu sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Actif (Cymdeithasau, Systemau, Pobl, Amgylcheddau Actif).
Ymgysylltu â Chymunedau
•Creu cydberthnasau llawn ymddiriedaeth gyda phartneriaid lleol, ysgolion, grwpiau a chlybiau cymunedol, a phrosiectau a gomisiynir.
•Cyd-greu cynnwys gyda chymunedau, gan sicrhau bod lleisiau’n cael eu cynrychioli mewn modd teg a chynhwysol.
•Mynd ati’n hyderus i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc er mwyn tynnu sylw at eu hanesion.
Monitro, Gwerthuso a Dysgu
•Dod â data ac effaith yn fyw trwy gyfrwng allbynnau creadigol (astudiaethau achos, ffeithluniau, adroddiadau digidol).
•Cynorthwyo’r tîm rhanbarthol i arddangos canlyniadau i gyllidwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid y system.
Presenoldeb Digidol a Datblygu Brand
•Rheoli ac ehangu sianeli cyfryngau cymdeithasol Actif, gan sicrhau cynnwys rheolaidd, cyson a diddorol.
•Gwella adnabyddiaeth o frand Actif ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.
•Monitro dadansoddeg ac addasu strategaethau cynnwys ar sail deall cynulleidfaoedd.
Cydweithredu a Chyfrannu at y System
•Gweithio’n agos gyda thîm canolog Actif, chwech o bartneriaid awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ledled y system i bennu a rhannu straeon.
•Gweithredu fel cyswllt rhwng gwaith a gyflawnir yn lleol a blaenoriaethau rhanbarthol/cenedlaethol.
•Cydweddu’r cynnwys gyda chanlyniadau a blaenoriaethau partneriaid y system (e.e. iechyd, tai, addysg, llywodraeth leol, y trydydd sector).
Cyfrifoldebau Corfforaethol
•Cyfrifoldeb dros hunanddatblygiad.
•Sicrhau y cydymffurfir â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle, yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 ac ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau cydraddoldeb a chyfle cyfartal y Cyngor.
•Yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymo i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon, ac annog eraill i weithredu mewn modd cadarnhaol mewn perthynas â lleihau Ôl Troed Carbon y Cyngor.
•Mynd i’r afael ag unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n gymesur â’r cyflog a’r cyfrifoldebau.
•Cyfrifoldeb i roi gwybod am unrhyw bryderon neu amheuon yn ymwneud â cham-drin plant neu oedolion agored i niwed.
Amgylchiadau arbennig
Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn fodlon teithio ledled Gogledd Cymru a gweithio’n hyblyg, yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o dro i dro, er mwyn diwallu anghenion y rôl.