Gwerthoedd ac Ymddygiadau
Gwerthoedd y Tîm
• Rydym yn Uchelgeisiol - Rydym yn ymdrechu i gyflawni'r gorau i Ogledd Cymru. Rydym yn arweinwyr yn ein meysydd, yn ffurfio barn ac yn dylanwadu, ac rydym yn herio syniadau confensiynol. Rydym yn crefu safonau uchel, yn anelu i roi o’n gorau, a datblygu ein hunain yn broffesiynol yn barhaus.
• Rydym yn Gweithio ar y Cyd - Rydym yn rhannu dealltwriaeth, sgiliau, gwybodaeth a chefnogaeth a sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i'n cydweithwyr am y datblygiadau diweddaraf. Rydym yn helpu ein gilydd bob amser, yn hwyluso cyfleoedd i Ogledd Cymru ac yn cydnabod bod ein heffaith ar y cyd yn fwy sylweddol na'n heffaith yn unigol.
• Rydym yn gwneud y peth iawn - Rydym yn gwneud y peth iawn, nid y peth hawsaf. Rydym yn herio ymddygiad anfoesol ac yn codi ein llais pan nad yw pethau'n teimlo'n iawn. Rydym yn barchus, yn deg ac yn ystyriol ac fe ellir ymddiried ynom i gyflawni'r ymrwymiadau sydd wedi'u cytuno ar amser.
• Rydym yn gwneud gwahaniaeth - Rydym yn ceisio cyfleoedd i wneud gwahaniaeth yng Ngogledd Cymru. Rydym yn bencampwyr yr iaith Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn cefnogi elusennau rhanbarthol. Rydym yn gwarchod yr amgylchedd ac yn chwilio am gyfleoedd i leihau ein hôl-troed.
Ymddygiadau craidd i bob rôl
• Arweinyddiaeth – rydym oll yn arwain drwy esiampl ac rydym i gyd yn arweinwyr yn ein meysydd ein hunain.
• Cyfrifoldeb - rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein gwaith, ein perfformiad a'n datblygiad.
• Parch - rydym yn parchu ein cydweithwyr, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ac yn arddangos hyn drwy ein gwaith ac yn y ffordd yr ydym yn adeiladu perthnasau effeithiol.
Cymwysterau
• Addysg i lefel gradd neu gyfwerth
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau
• Profiad a thystiolaeth o ddarparu cymorth gweithredol yn llwyddiannus ar lefel uwch.
• Profiad a thystiolaeth o gydlynu adnoddau a rheoli gweithredol.
• Profiad o weithio mewn neu gefnogi sefydliadau sector cyhoeddus neu sefydliadau partner, yn ddelfrydol gydag ymwybyddiaeth o strwythurau llywodraethu (e.e. pwyllgorau, byrddau).
• Profiad a thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol effeithiol i gysylltu â thimau mewnol, uwch reolwyr, a phartneriaid allanol.
• Y gallu i gydweithio ar draws timau a chyrff allanol i gefnogi nodau cyffredin.
• Profiad pendant o arwain a bod yn rheolwr llinell, yn ddelfrydol rheoli tîm bach (hyd at bump o weithwyr).
• Y gallu i ganolbwyntio ar fanylder, sicrhau cywirdeb a thrylwyredd ym mhob tasg wrth nodi anghysondebau a chynnal safonau ansawdd uchel.
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o strwythurau a phrosesau llywodraeth leol, ranbarthol a chanolog.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyflwyno rhaglenni a phrosiectau.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o Ogledd Cymru, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a phartneriaeth Uchelgais Gogledd Cymru.
Gofynion Ieithyddol
Ar gyfer y rôl hon, mae'r gofynion a ganlyn yn HANFODOL:
• Gwrando a Siarad - Yn gallu ymdrin â holl agweddau’r swydd yn llafar mewn modd hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• Darllen a Deall - Yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth yn gywir o amrywiaeth eang o ffynonellau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn gallu ymdrin â phob agwedd o’r swydd.
• Ysgrifennu - Yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn hollol hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio’r iaith a’r arddull fwyaf priodol i gwrdd ag anghenion y darllenydd.