Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Aelod allweddol o’r tîm Dysgu a Datblygu, i sicrhau darpariaeth a rhaglen dysgu a datblygu effeithiol i Aelodau Etholedig a staff Cyngor Gwynedd
•Bod â chyswllt cyson gyda’r Gwasanaeth Democrataidd i sicrhau bod anghenion datblygu Aelodau yn cael eu cyfarch.
•Darparu gwasanaeth ymgynghorol ar gyfer Aelodau yn ystod eu cyfnod sefydlu a thu hwnt.
•Cyfrifoldeb penodol am gynllunio, trefnu a darparu hyfforddiant o safon uchel i Aelodau Etholedig y Cyngor.
•Cyfrannu at bob agwedd o weithrediad y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer a deunyddiau dysgu
•Rhannol gyfrifol am gyllideb
Prif ddyletswyddau
Datblygu Aelodau
•Arwain ar y broses o ymgynghori yn fewnol (gyda Aelodau, ac Uwch Swyddogion ar draws y Cyngor) ac allanol gyda sefydliadau megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau eraill, ar gyfer nodi a choladu anghenion a chyfleon datblygol Aelodau gan gyd fynd â blaenoriaethau y Cyngor.
•Cyfrifoldeb am lunio rhaglen ddysgu gynhwysfawr ar gyfer Aelodau (gan gynnwys rhaglen gyflwyno i Aelodau newydd) i gynnwys ystod eang o ddulliau dysgu megis hyfforddiant, a sesiynau codi ymwybyddiaeth ayb sy’n ateb gofyn Fframwaith Hunan asesu
•Cyfrannu i’r broses o adnabod dyddiadau Dysgu a Datblygu yng nghalendr Pwyllgorau’r Cyngor
•Datblygu cynnwys, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus tudalen Dysgu a Datblygu ar y Fewnrwyd Aelodau.
•Trefnu a chyfrannu i gyfarfodydd cynnydd ac adolygu rheolaidd rhwng y Gwasanaeth Democratiaeth a’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu ar y rhaglen Ddatblygu Aelodau.
•Trefnu digwyddiadau hyfforddiant o safon uchel i Aelodau’r Cyngor sy'n ymatebol i ofynion yr Aelodau ac anghenion y Cyngor ynghyd â threfnu hyfforddiant penodol mandadol ar gyfer Aelodau o gwahanol Bwyllgorau
•Cydlynu ymlaen llaw gyda hyfforddwyr a choladu unrhyw wybodaeth y maent ei angen.
•Cydweithio gyda swyddogion Democratiaeth i sicrhau fod trefniadau datblygu Aelodau yn gyson ac yn rhedeg yn llyfn
•Annerch a hwyluso sesiynau hyfforddiant i Aelodau boed wyneb yn wyneb neu ar-lein
•Cydweithio a chyfrannu i drafodaethau gyda gyda Cyrff allanol megis Data Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru i gyd-lynu digwyddiadau datblygol ar gyfer Aelodau
•Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer Aelodau, Adrannau y Cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas ag unrhyw faterion Dysgu a Datblygu Aelodau, gan dderbyn ymholiadau ganddynt, pontio rhyngthynt a sicrhau fod ymateb yn cael ei roi
•Ymchwilio opsiynau a gweinyddu ceisiadau i fynychu hyfforddiant / cynadleddau a digwyddiadau tebyg gan aelodau unigol gan sicrhau’r awdurdod priodol a chyd-lynu ceisiadau o’r fath gyda’r rhaglen ddysgu
•Gweinyddu trefniadau Dysgu a Datblygu a monitro ansawdd ynghyd â phresenoldeb Aelodau ar y rhaglen,
•Trefnu a chreu darpariaeth Dysgu a Datblygu gan gynnwys hysbysebu hyfforddiant, trefnu hyfforddwyr, trefnu ystafelloedd, lluniaeth, offer, paratoi deunyddiau hyfforddi, sicrhau bod cywirdeb deunyddiau yn addas ac o safon uchel, ynghyd â chysylltiadau rhithiol.
•Monitro a dadansoddi gwybodaeth er mwyn adnabod a blaenoriaethu anghenion hyfforddi Aelodau yn dilyn Cyfweliadau Datblygu Personol a gynhelir gan Uwch Swyddogion o fewn yr Adran.
•Gweinyddu’r gyllideb Dysgu a Datblygu ar gyfer Aelodau gan fonitro a rheoli gwariant yn unol â Rheolau Ariannol y Cyngor ac mewn modd sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau; rhoi adroddiadau ar y gyllideb o bryd i’w gilydd i’r Rheolwr Dysgu a Datblygu a Phennaeth Adran.
•Cyflwyno sesiynau hyfforddi un i un i Aelodau yn ôl y gofyn
•Cyfrannu at lunio a threfnu i anwytho Aelodau newydd gan egluro’r drefn Dysgu a Datblygu iddynt
•Paratoi adroddiadau a thystiolaeth (data) i swyddogion, pwyllgorau e.e. Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ynghyd â chyrff allanol, a chynorthwyo y Rheolwr Gwasanaeth i’w cyflwyno yn ôl yr angen.
•Rhoi cymorth ar anghenion arbennig sydd gan rai Aelodau i hwyluso iddynt gyfrannu.
Dysgu a Datblygu
•Gwaith trefnu a gweinyddu o fewn y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu
•Pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau ffôn ac e-bost
•Cyfrannu at drefnu darpariaeth Dysgu a Datblygu, gan gynnwys:
ohysbysebu cyrsiau
otrefnu hyfforddwyr
otrefnu ystafelloedd, lluniaeth ac offer
oparatoi deunyddiau hyfforddi
•Cyfrannu at weithredu’r drefn gaffael (dyfynbrisiau, tendro) yn unol a gweithdrefnau ariannol y Cyngor pan yn prynu adnoddau a darpariaeth yn allanol. Defnyddio system gyfrifiadurol i gofnodi anghenion datblygol, rhaglenni dysgu a gwybodaeth allweddol staff
•Cyfrannu at weinyddu’r drefn benthyg offer hyfforddi
•Gweithredu o fewn targedau amser penodol
•Cyfrannu’n ymarferol tuag at y rhaglen Dysgu a Datblygu (gosod offer ayyb)
•Cyfrannu i’r broses o werthuso a monitro safon ac effeithiolrwydd dysgu a datblygu
•Mynychu cyfarfodydd rheolaidd (wythnosol & misol) y tîm Dysgu a Datblygu gan gofnodi yn achlysurol
•Mynychu rhwydweithiau Mewnol y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu a chofnodi yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn i ddeilydd y swydd deithio i gyfarfodydd oddi fewn ac oddi allan i Wynedd yn achlysurol.
•Gall rhai cyfarfodydd fod tu allan i oriau gwaith arferol.