Pwrpas y swydd
•Cysoni cyfrifon rheolaeth, sicrhau dilysrwydd trafodion ariannol, goruchwylio gwaith dosbarthu defnyddiau dan reolaeth, a dello gyda chyfrifon banc.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Arwain a goruchwylio gwaith staff iau o fewn yr Uned yn achlysurol.
Prif ddyletswyddau
- Cyflawni'r targedau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol – Cyfrifeg a Phensiynau a'r Cyfrifydd Grŵp - Cyfalaf a Rheolaeth.
•Ymgymryd a threfniadau bancio'r Cyngor, gan gynnwys rheolaeth dros yr awdurdod i arwyddo, cytundebau ynglyn a chyfrifon banc a chardiau credyd, ac adrodd fel bo angen i'r Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth, yr Uwch Reolwr Cyllid a/neu'r Pennaeth Cyllid.
•Goruchwylio gwaith dosbarthu sieciau a defnyddiau/dogfennau dan reolaeth, archebu a rheoli cyflenwad o'r fath ddefnyddiau.
•Cysoni'r sieciau a godwyd ar holl gyfrifon gwariant y Cyngor.
•Trefnu, goruchwylio a chynorthwyo'r gwaith rheoli sieciau sydd heb eu defnyddio, a ddiddymwyd neu a gyfnewidiwyd am sieciau newydd, a sicrhau cofnod cyflawn o'r holl sieciau a ddefnyddiwyd.
•Trefnu, goruchwylio a chynorthwyo'r gwaith o ymchwilio i bob siec a ddychwelwyd, a wrthodwyd neu a ataliwyd.
•Cysoni'r banc yn "awdurdod-eang".
•Trefnu i ddileu sieciau sydd heb eu cyflwyno, ac ymchwilio pam na chyfiwynwyd rhai ohonynt (yn unol a pholisi'r Gwasanaeth).
•Cysoni nifer o gyfrifon rheolaeth amrywiol.
•Monitro trafodion buddsoddi tymor-byr yn ddyddiol, a chysoni'r cyfrifon sy'n rheoli'r fath fuddsoddiadau.
•Trefnu, goruchwylio a chynorthwyo'r gwaith o gysoni ad-dalu a threfnu cyfrifon imprest ac arian man.
•Cynorthwyo'r Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth i ystyried unrhyw ddatblygiadau ym maes bancio a rheolaeth, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i'r Cyngor gydymffurfio a hwynt.
•Cynorthwyo'r Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth i sicrhau fod trafodion banc y Cyngor yn cydymffurfio a safonau proffesiynol priodol, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau a geir gan yr Uwch Reolwr Cyllid neu'r Pennaeth Cyllid.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a roddir o bryd i'w gilydd gan y Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth neu'r Uwch Reolwr Cyllid.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
-