Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynnig cefnogaeth glerigol effeithiol i’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar. Cynnig gwasanaeth derbynfa o ansawdd ar y safleoedd gan gynnig gofal cwsmer ardderchog i ddefnyddwyr.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
• Cyflawni gofynion clerigol drwy ffeilio papur ac electroneg, ateb y ffôn, cofnodi negeseuon, cynnal dyddiaduron staff yr Uned, archebu adnoddau, llungopïo, casglu a dosbarthu post, trefnu cyfarfodydd gan gyhoeddi agenda a chofnodion, prosesu geiriau, prosesu a thracio anfonebau a mewnbynnu cronfeydd data.
• Cofnodi a gwirio rhestrau Iechyd a Diogelwch ar y safle.
• Gofalu am y dderbynfa Tŷ Cegin trwy ymateb i ymholiadau ymwelwyr sydd yn dewis galw heibio a hefyd ymateb i alwadau ffôn neu e-bost a chyfeirio ymlaen fel bo angen. Sicrhau safon uchel o ofal Cwsmer gan gymryd a throsglwyddo negeseuon yn glir a chryno a thrin yr ymholwyr pob amser yn gwrtais. Cadw’r dderbynfa a’r adeilad yn daclus bob amser. Bydd angen hefyd rhoi gwasanaeth derbynfa mewn canolfannau eraill hefyd fel Plas Pawb.
• Cyfrifoldeb am drefn o logi’r cyfleusterau'r Uned drwy ateb ymholiadau, cadw dyddiadur, trefnu ar gyfer anghenion y cwsmer e.e. defnydd o’r offer T.G., gosodiad yr ystafell, trefnu lluniaeth a.y.b. , cynnig cyfarwyddiadau a chodi anfonebau am y defnydd.
• Paratoi’r ystafelloedd ar gyfer cyrsiau a chyfarfodydd yn unol â dymuniad y cwsmer gan drefnu dodrefn neu offer, paratoi diodydd a chlirio a glanhau cwpanau, gosod bwyd pan fod angen a chlirio ar ôl y digwyddiad.
• Cyfrifoldeb dros weinyddu llogi adnoddau
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Cyflogaeth: Contract dros dro
Oriau Gwaith: 29 awr yr wythnos ond gofynnir i weithio ar rota sy’n hyblyg . Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol