Swyddi ar lein
Athro/Athrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar
£25,947 - £39,956 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2028
- Cyfeirnod personel:
- 25-28750
- Teitl swydd:
- Athro/Athrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 25/09/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2028 | 26 Awr
- Cyflog:
- £25,947 - £39,956 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- -
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG / PLANT A CHEFNOGI TEULU
UNED BLYNYDDOEDD CYNNAR
Yn eisiau: I gychwyn cyn gynted â phosib
ATHRO/ATHRAWES YMGYNGHOROL BLYNYDDOEDD CYNNAR
(RHAN AMSER 0.8)
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwysedig gyda phrofiad addas ar gyfer y swydd uchod.
Bydd lleoliad y swydd yn ne y sir - Meirionnydd - Dolgellau neu Blaenau Ffestiniog.
Y prif ddyletswyddau fydd darparu cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar yn y sector gwirfoddol a phreifat. Bydd deilydd y swydd yn aelod o dîm o athrawon ac yn atebol i’r Uwch Athrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£25,947 - £39,956) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda Sioned Owen Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar ar 01286 678824 neu drwy e-bost sionedowen@gwynedd.llyw.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda’r Tîm Gweinyddol, Plas Pawb, Safle Ysgol Maesincla, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DF rhif ffôn 01286 678824 neu e-bost plaspawb@gwynedd.llyw.cymru <mailto:plaspawb@gwynedd.llyw.cymru> Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD IAU, 25 MEDI, 2025.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau am y swydd – I gadarnhau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL• Brwdfrydig ac ymroddgar.
• Ymrwymedig i welliant parhaus.
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
• Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
• Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Person amyneddgar sydd â’r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
• Person egnïol gyda’r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
• Trefnus
• Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
• Sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenafDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd Anrhydedd.
• Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.DYMUNOL
• Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
• Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
• Hyfforddiant o’r maes blynyddoedd cynnar fel ElklanPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL• Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
• Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
• Profiad o ddysgu yn y sector cynradd a’r Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm i GymruDYMUNOL
• Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
• Profiad o weithio yn y maes blynyddoedd cynnarSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL• Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
• Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd
• Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
• Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
• Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
• Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg
• Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol ac o fewn y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
• Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf yn y blynyddoedd cynnar
• Dealltwriaeth o wasanaethau a strategaethau yn y blynyddoedd cynnar
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau ansawdd lleoliadau addysg feithrin yn y sector nas cynhelir a Dechrau’n Deg.
• Sicrhau mewnbwn a chefnogaeth arbenigol i leoliadau addysg nas cynhelir a lleoliadau Dechrau’n Deg.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer TG
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau penodol: Cefnogi arweinyddion lleoliadau leoliadau addysg a lleoliadau Dechrau’n Deg nas cynhelir yn effeithiol. Golyga hyn:Atebolrwydd
• Gweithredu fel rhan o dîm effeithiol o athrawon ymgynghorol sy'n ymdrechu i hybu'r dysgu a'r addysgu i'r safon uchaf yn y sector nas cynhelir.
• Datblygu ac ymestyn arferion arweinyddion drwy adnabod a rhannu a arferion da.
• Cynnal, mentora a chynghori arweinyddion lleoliadau ar arfer dda gyda phlant ifanc gan gynnwys trefniadaeth, cynllunio, asesu a chofnodi.
• Cydweithio’n agos gyda’r mudiadau sy’n cefnogi’r lleoliadau megis y Mudiad Meithrin, AGC, Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy, Swyddogion Addysg, Swyddogion yr Awdurdod a.y.b. mewn perthynas â gweithredu cynlluniau yn y Cyfnod Sylfaen, Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant.
• Cefnogi’r Uwch Athrawes y Blynyddoedd Cynnar wrth weithredu blaenoriaethau’r tîm.
• Sicrhau adnabyddiaeth a dealltwriaeth drylwyr o ddatblygiadau yn y maes addysg y blynyddoedd cynnar
• Cyfrannu i gyfarfodydd tîm.
• Paratoi adroddiadau o ansawdd ar gyfer Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrannu tuag at y dystiolaeth angenrheidiol i osod y lleoliadau ar gategorïau mesur yn unol a’r Cytundeb Partneriaeth
• Cynnal ymweliadau rheolaidd a thrafod rhaglen weithredu i godi safonau mewn lleoliadau sydd ar gategori dilynol
• Chware rôl flaenllaw wrth baratoi cynlluniau gwella lleoliadau.
• Cefnogi’r lleoliadau i lunio Cynlluniau Datblygu sy’n ymateb i ganfyddiadau’r hunan arfarnu.
• Cefnogi gweithredu Cynlluniau Datblygu y lleoliadau.
• Cynnal a chefnogi staff y lleoliadau
• Cyfrannu tuag at hunan arfarniad o waith y tîm ar gais yr Uwch Athrawes/ro y Blynyddoedd Cynnar.
• Sicrhau bod trefniadau effeithiol yn y maes ADY i blant meithrin nas cynhelir.
• Cynghori cylchoedd ar weithredu gofynion y Côd Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn.
• Ymgymryd â’r rôl Cydlynydd dynodedig i gydlynu achosion a gweithredu’n unol a’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Cefnogi a chynghori arweinwyr i adnabod disgyblion sydd ag ADYch yn unol â gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Cefnogi lleoliadau i ddefnyddio dull ymateb graddoledig yn unol â Map Darpariaeth ADYAcH Gwynedd a Môn
• Cynnal hyfforddiant i ddatblygu gweithlu’r lleoliadau i gyfarch a gofynion fel y Cwricwlwm i GymruCynlluniau Gwella
• Datblygu cynlluniau gwella cynhwysfawr ar y cyd ac arweinyddion y lleoliadau sy’n cyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol arall.
• Cynnig cefnogaeth i leoliadau weithredu dulliau newydd o addysgu o fewn y cwricwlwm ac o fewn Dechrau’n Deg.
• Ceisio ffyrdd i hyrwyddo, mentora a chysoni yr arferion gorau ar draws y lleoliadau.
• Cyfrannu tuag at ddatblygu polisïau adrannol.Monitro a Hunan Arfarnu
• Monitro ansawdd yr addysg yn y sector gan hybu addysgu effeithiol ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Sicrhau adroddiadau o ansawdd uchel yn dilyn ymweliadau.
• Sicrhau fod yr ymyrraeth yn dilyn ymweliadau’n bwrpasol i godi safonau lle bo’r angen.
• Cyfrannu at systemau i fesur ansawdd lleoliadau gan ddyrchafu lleoliadau i sylw’r grŵp ansawdd ar sail risg.
• Sicrhau bod y lleoliadau Dechrau’n Deg yn cydymffurfio gyda gofynion fframwaith dysgu Dechrau’n Deg gan weithredu fel ymgynghorydd ar ofal plant Dechrau’n Deg lle bo’r angen.
• Cynorthwyo’r lleoliad gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg gyda’u trefn hunan arfarnu, cynllunio ac asesu
• Cynnal asesiadau amrywiol yn rheolaidd gan gefnogi’r gwaith o lunio cynllun gweithredu ôl asesiad a monitro’r gweithredu.
• Cefnogi'r lleoliadau i gynnal achrediad ansawdd neu gynllun rheoli ansawdd o fewn y lleoliadau.
• Sicrhau fod yr arfarniad y lleoliadau’n gyfredol.
• Cyfrannu tuag at y gwaith o gynnal awdit anghenion ar weithlu lleoliadau.
• Cyfrannu tuag at lunio a chyflwyno rhaglen bwrpasol i’r staff o fewn y lleoliadau nas gynhelir a Dechrau’n Deg i gyrraedd gofynion y Llywodraeth mewn cydweithrediad a’r Uned Gofal Plant
• Adrodd yn ôl i weddill y tîm yn dilyn unrhyw hyfforddiant mewn ymgynghoriad â’r Uwch Athrawes/ro.Delio â Thangyflawni
• cydweithio i gynnal a hybu cymhelliant a delio`n effeithiol â thangyflawni lleoliadau.Rheolaethol
• Llunio adroddiadau o ansawdd yn amserol i ddibenion arolygiadau Estyn.
• Sicrhau gweinyddiaeth effeithiol.
• Cyfrannu tuag at adroddiadau ar waith y tîm yn ôl y galw.
• Cyfarfod yn rheolaidd â’r Uwch Athrawes/ro Blynyddoedd Cynnar i drafod materion strategol
• Datblygu arbenigedd mewn meysydd amrywiol gan gynnwys y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Chwarae rhan weithredol yn y drefn Rheoli Perfformiad yn unol a threfn y gwasanaeth addysg.
• Cyd weithio’n agos gyda’r rhaglen Dechrau’n Deg gan rannu gwybodaeth Ymwelwyr Iechyd, Therapydd Iaith a Llefaredd a staff Dechrau’n Deg o fewn yr ardaloedd gan gydymffurfio gyda rheolau rhannu gwybodaeth.
• Cydweithio'n effeithiol gyda'r swyddogion eraill yn y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar.
• Cynrychioli’r tîm a gwneud cyfraniad ar lefel gwasanaeth mewn cyfarfodydd yn ôl y galw.
• Cydweithio i sicrhau dilyniant esmwyth i ddisgyblion wrth drosglwyddo.
• Sicrhau mewnbwn y tîm i gyfarfodydd trosglwyddo plant a phaneli cyfeiriadau gan gydlynu asesiadau, arsylwadau, proffiliau un tudalen , cynlluniau datblygu unigol plant a gwybodaeth niferoedd gofal plant yn yr ardaloedd
• Meithrin a hybu cysylltiadau rhwng darparwyr yn y sector â’r ysgolion gan hwyluso’r drefn o bontio plant i’r ysgolion.Cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd athrawes/ro ymgynghorol
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw’r person priodol at unrhyw broblem.
• Sicrhau fod addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
• Sicrhau fod y lleoliadau’n creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus i’r disgyblion.
• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu enghreifftiol o’r radd flaenaf i gefnogi gwaith oddi mewn i’r lleoliadau.
• Sicrhau fod y lleoliadau efo adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ar gyfer diwallu anghenion y disgyblion.
• Sicrhau fod y dysgu yn y lleoliadau’n llawn brwdfrydedd ac yn ymestyn pob disgybl hyd eithaf ei allu.
• Sicrhau fod y dysgu yn y lleoliadau’n cynnal disgyblaeth yn unol â’r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y lleoliad.
• Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith y tîm.
• Cyfrannu at drefniadau’r tîm ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
• Cymryd rhan yn nhrefniadau’r tîm ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
• Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
• Cynghori, arwain a chydweithio ag athrawon ac arweinyddion eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy’n ymwneud â chwricwlwm a gweithdrefnau bugeiliol.
• Hunan arfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
• Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu’r tîm i fod yn cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio’n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
• Sicrhau fod y tîm yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm y lleoliadau gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu ac addysgu.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yn achlysurol bydd angen i’r swyddog weithio oriau anghymdeithasol