NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Personoliaeth groesawus.
Llygad am fanylder a chywirdeb.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth da i’r Cwsmer a gwastad yn edrych am ffyrdd i wella gwasanaeth.
Person sydd yn mynd y filltir ychwanegol er mwyn cael y maen i’r wal.
Yn unigolyn sydd yn cyfleu brwdfrydedd ynglŷn â’r gwaith.
DYMUNOL
Perchen ar drwydded yrru ddilys.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster o safon uchel mwen pwnc perthnasol megis busnes / T.G. / gweinyddiaeth neu dystiolaeth o brofiad eang o’r maes gwaith.
DYMUNOL
Lefel dda o TGAU.
NVQ III neu gyfartal mewn pwnc perthnasol megis busnes / T.G. / gweinyddiaeth.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio yn y maes busnes / T.G. / gweinyddol / cefnogol.
Profiad o weinyddu a defnyddio systemau T.G. perthnasol ar gyfer y maes gwaith.
Profiad o weithio fel rhan o dim.
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
Profiad o weithio i amserlenni tynn ac o dan bwysau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth o systemau TG a phecynnau TG a’r gallu i’w defnyddio.
Sgiliau cyfathrebu a gweinyddol cryf
DYMUNOL
Dealltwriaeth o brosesau gwaith cynllunio.
Dealltwriaeth o drefniadau gwaith Llywodraeth Leol.
Arbenigedd yn y defnydd o sustem(au) TG sydd yn berthnasol i’r maes cynllunio.
Y gall ii deipio yn gywir ar raddfa / cyflymder derbyniol.
Sgiliau cyfathrebu cryf yn llafar.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).