NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Yn hunan ysgogol a brwdfrydig ac yn gallu gweithio fel unigolyn heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd
- Gweithio fel rhan o dîm
- Hyblyg
- Gallu i Ysbrydoli
- Sgiliau Cyfathrebu Ardderchog
- Uchelgeisiol
- Egnïol
- Sgiliau Arwain pobl
- Diddordeb cyffredinol yn y maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol
DYMUNOL
- Gwybodaeth am yr ardal/cymuned
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Lefel A neu BTEC Level 3 neu gymhwyster cyfwerth yn un o’r meysydd canlynol - Rheoli, Chwaraeon, Addysg, Datblygiad Cymunedol neu faes cyfatebol
DYMUNOL
- Cymwysterau ychwanegol perthnasol i addysgu, Chwaraeon, arweinyddiaeth, Rheolaeth prosiect, datblygiad cymunedol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio neu wirfoddoli yn rhai o’r meysydd canlynol - chwaraeon, hamdden, addysg, maes ieuenctid, cyswllt cymunedol, gwaith partneriaeth
- Profiad o weithio hefo plant a phobl ifanc
DYMUNOL
- Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
- Profiad o Reoli/arwain ar brosiectau
- Profiad o drefnu hyfforddiant neu ddigwyddiadau
- Profiad o weithio gyda aml-asiantaethau gwahanol
- Profiad o helpu i wneud ceisiadau grant
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Meddu ar fedrau ysgrifennu ffurfiol, rhifyddeg a llythrennedd cyfrifiadurol
- Sgiliau trefnu cryf
- Rheolaeth amser ardderchog
- Sgiliau cyflwyno o safon uchel
- Sgiliau dylanwadu da
- Gallu i greu partneriaethau gyda rhanddeiliaid amrywiol
- Sgiliau negydu cryf
DYMUNOL
- Dealltwriaeth o waith seiliedig ar le
- Sgiliau arwain prosiect
- Wedi gweithio i dargedau
- Profiad o reoli cyllid
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)