Pwrpas y Rôl
Bydd y Rheolwr Ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru cyflawniad llwyddiannus prosiectau yn y rhaglen drwy arwain ar ymdrechion ymgysylltu ar draws cyrff sector cyhoeddus a rhanddeiliaid y diwydiant. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am hyrwyddo amcanion y prosiect, gan ddatblygu cydweithio ystyrlon, a pharhau i adeiladu perthnasau cryf i alluogi defnydd effeithiol o’r isadeiledd digidol yng Ngogledd Cymru. Ffocws allweddol o'r rôl fydd codi ymwybyddiaeth o'r cynlluniau arian grant sydd ar gael.
Cyfrifoldebau Craidd y Tîm
- Cyfrifol am ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifoldeb ar y cyd fel rhan o'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifol am gefnogi cydweithwyr ac aelodau'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Gweithredu fel llysgennad i Uchelgais Gogledd Cymru a'r rhanbarth.
Cyfrifoldebau Penodol i'r Rôl
- Arwain gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer prosiectau yn y rhaglen gan sicrhau camau ymestyn allan a chydweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
- Hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad mewn cynlluniau grant sydd ar gael – drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid cymwys, egluro meini prawf, ac arwain darpar ymgeiswyr a chefnogi'r gwaith gwerthuso.
- Adeiladu a chynnal perthnasau cryf gydag awdurdodau lleol, y sector cyhoeddus ehangach, darparwyr gwasanaeth isadeiledd telegyfathrebu a di-wifr, cymunedau, a busnesau, i gefnogi cyflwyniad llwyddiannus y prosiect.
- Cefnogi'r Rheolwr Prosiect perthnasol i gyflawni cynllun y prosiect, gan gyflawni amcanion y prosiect, adnabod risgiau, a chynnig strategaethau lliniaru.
- Cefnogi Rheolwr y Rhaglen Ddigidol a'r tîm ehangach gyda chynllunio strategol, datrys problemau a sicrwydd cyflawni ar draws pob prosiect, gan sicrhau aliniad â nodau sefydliadol a rhanbarthol.
- Gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol i adnabod a hyrwyddo cyfleoedd sy'n gwneud y mwyaf o'r budd cymunedol ac economaidd o'r prosiectau yn y rhaglen.
- Monitro ac adrodd ar weithgareddau ymgysylltu ac adborth rhanddeiliaid i'r Rheolwr Prosiect perthnasol, gan wneud argymhellion i wella effeithiolrwydd prosiectau a chydweithio rhanbarthol.
- Cefnogi cytundebau mynediad drwy gysylltu ag awdurdodau lleol a pherchnogion eiddo i annog mabwysiadu er mwyn hwyluso'r defnydd o rwydweithiau di-wifr symudol ac uwch, tra'n cynnal cyfathrebu tryloyw gyda rhanddeiliaid y diwydiant ynghylch cyfleoedd a phrosesau.
- Cyfrannu at Brosiect / Byrddau Rhaglen cysylltedd digidol perthnasol fel bo'r angen.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gofynnol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel y rôl i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau sefydliadol.