Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Sicrhau cyfraniad bositif at lif arian y Cyngor trwy ad-ennill dyledion cyffredinol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Yn gyfrifol am fonitro a gweinyddu dyledion ar gyfrifon cleientau gofal. Golygai hyn weithio’n agos gyda’r Uned Gyfreithiol fewnol, Cwmnïau Cyfreithiol allanol a’r Gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal. Bydd yn golygu cysylltu yn ysgrifenedig i gael manylion stadau, monitro profiant a gwirio manylion ar y Cofrestrfa Tir i sicrhau bod manylion y cyfrifon yn gyfredol a bod trefniadau mewn lle i dderbyn yr incwm dyledus.
•Bod yn rhan o’r drefn ad-ennill dyledion cyffredinol drwy gysylltu â chwsmeriaid drwy ffonio, anfon llythyrau a rhybuddion cyn cyfeirio yn unol â threfn ad-ennill safonol y Cyngor.
•Cyfeirio achosion o ôl-ddyled at asiantaethau ad-ennill y Cyngor megis asiantaethau casglu a’r uned gyfreithiol fewnol a monitro cynnydd.
•Hysbysu gwasanaethau’r Cyngor o statws eu dyledion ble bo angen a cheisio cymeradwyaeth y gwasanaethau i ad-ennill dyledion.
•Sefydlu ac arolygu trefniadau talu gyda chwsmeriaid a monitro’r fath drefniadau.
•Codi anfonebau a nodiadau credyd pan bo angen.
•Cynorthwyo i greu, diweddaru a chynnal manylion cwsmeriaid ar y sustem dyledwyr ar gais y gwasanaethau.
•Chwarae rhan llawn wrth i’r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu’r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
•Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r Tim i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.
•Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
•Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi’r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
•Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Cynorthwyo timau eraill i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Posibilrwydd o’r angen i weithio gyda’r nos / penwythnosau o bryd i’w gilydd.