Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyflawni gwaith i’r Amlosgfa a’r wasanaeth brofedigaeth (sef mynwentydd Cyngor Gwynedd) mewn modd effeithiol a gweithredu arferion ‘gofal cwsmer’. Gweithredu fel Marsial Tan i’r amlosgfa a chynorthwyo Technegwyr Amlosgi yn ol yr angen.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer swyddfa sylfaenol a chyfarpar cyfrifiadur â ddarperir gan yr amlosgfa gogyfer dyletswyddau’r swydd.
Prif ddyletswyddau
•Cynnal weithdrefnau weinyddol yr Amlosgfa a’r wasanaeth brofedigaeth.
•Cyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd ac eraill ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan yr Amlosgfa a’r mynwentydd.
•Ymdrin â ffurflenni statudol a ffurflenni arall.
•Mewnfwydo data i gynnal rhestrau statudol yr Amlosgfa a mynwentydd Cyngor Gwynedd, â’r rhestrau dyddiol o amlosgiadau a chladdedigaethau.
•Derbyn taliadau ac ymarfer rheoliadau ariannol y Cyngor.
•Ymarfer trefniadau gofal cwsmer.
•Gweithredu trefniadaeth iechyd a diogelwch yr amlosgfa.
•Bod yn rhan o’r broses rheoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd.
•Cynorthwyo Technegwyr Amlosgi gyda’u dyletswyddau, fel y bo’r angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o’r dyletswyddau. Disgwylir i deilydd y swydd ymgymeryd ag unrhyw ddyletswydd arall sydd yn berthnasol i natur a lefel y swydd, sy’n cydfynd gyda ceisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae pob aelod o staff yr amlosgfa i ymarfer elfen o hyblygrwydd mewn dyletswyddau a chyfrifoldebau i alluogi’r gwasanaeth i ymdopi’n effeithiol ag amgylchiadau gwahanol i’r arfer neu digwyddiadau annisgwyl. Mae gweithio goramser achlysurol, fel y bo’r angen, yn nodwedd o drefniant gwaith a berthyn i’r swydd.