Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio gyda’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, a Deddf Rheoli Traffig 2004.
•Cynghori a chynorthwyo’r Gwasanaeth ar faterion gorfodaeth, trwyddedu, polisi, rheoliadau gwasanaethwyr, a chodau ymarfer.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff – Cyfrifoldeb am archwilwyr gorfodaeth priffyrdd yr uned.
•Offer a cherbyd – Cyfrifoldeb am offer a cherbyd sydd yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd y swydd.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifol am sicrhau y gwarchodir strwythur y priffyrdd a’r asedau ble mae gwaith wedi’i wneud arnynt gan unrhyw sefydliad, contractwr neu berson fel Awdurdod Priffyrdd ar ran y Adran.
•Cyfrifol am roi goruchwyliaeth broffesiynol i Archwilwyr Ardal a Staff Cefnogi Gweinyddol sydd wedi’u haseinio i’r Uned Gwaith Stryd.
•Cyfrifol am sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i ddyletswydd a’i oblygiadau fel Awdurdod Priffyrdd dan Adran 59 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 i gydlynu’r holl waith ar y briffordd er mwyn sicrhau nad achosir oedi ac aflonyddwch gormodol i ddefnyddwyr y ffyrdd.
•Cyfrifol am sicrhau bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol i warchod strwythur y stryd a chyfanrwydd unrhyw offer a osodir arni.
•Arwain ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau a ddyrennir i’r Gwasanaeth fel Awdurdod Priffyrdd ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a sicrhau bod yr holl waith ar y briffordd yn cael ei wneud mewn dull diogel o ran gosod arwyddion, goleuo a diogelu.
•Cyfrifol am sicrhau yr ymgymerir â dyletswyddau gorfodi a thrwyddedu statudol dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 yn effeithiol; er enghraifft, gorfodi dan Adrannau 65, 72 ac 81 y Ddeddf.
•Ymgynghori a rhoi cyngor proffesiynol ar faterion Priffyrdd a Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd i gyfadrannau eraill yn y Cyngor, y Gwasanaethau Brys, Ymgymerwyr Statudol, Contractwyr ac eraill, gan roi pwyslais penodol ar waith dros dro, cynigion rheoli traffig, diogelwch a chau ffyrdd.
•Cynrychioli’r Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd mewn cyfarfodydd; er enghraifft, cyfarfodydd Cydlynu Statudol (Adran 59/60 NRSWA), HAUC Lleol, Rheolwyr Gwaith Stryd ac eraill fel bo’r angen.
•Cynorthwyo’r Gwasanaeth i ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu polisïau a rhaglenni’r Cyngor sy’n ymwneud yn benodol â dyletswyddau, darpariaethau a goblygiadau’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.
•Datblygu perthnasau ag ymgymerwyr statudol, contractwyr ac eraill gyda’r bwriad o ddylanwadu ar eu polisïau a’u gweithgareddau er mwyn cyflwyno arferion gorau a chydweithrediad.
•Cynorthwyo â Rheoli Perfformiad y tîm Gwaith Stryd yn cynnwys adnabod cyfleoedd hyfforddi a datblygu i staff, blaengynllunio a’r rhaglen waith.
•Cynorthwyo i baratoi adroddiadau, dogfennau polisi, cynlluniau technegol mewn cysylltiad â Gwaith Ffyrdd, Cydlynu, Trwyddedu a Gorfodi.
•Cynrychioli’r Cyngor ar grwpiau cenedlaethol, rhanbarthol, ac isranbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.