CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Trwydded LGV neu'n barod i wneud cais am drwydded
DYMUNOL
Tystiolaeth o weithio yn y maes gwastraff
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio yn y maes gwastraff ynghyd â delio â'r cyhoedd.
DYMUNOL
Profiad o reoli gweithwyr allanol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Y gallu i yrru cerbydau ac ymwybyddiaeth o gerbydau glanhau strydoedd.
DYMUNOL
Sgiliau sy'n cyd-fynd â gweithio ym maes gwastraff a'r gallu i yrru cerbyd LGV neu beiriannau perthnasol
PRIODWEDDAU PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i gyfathrebu ac ysgogi gweithwyr.
DYMUNOL
Y gallu i wneud penderfyniadau yn aml sy'n golygu defnyddio menter a barn, hunanhyder a chadarnhad.
GOFYNION IAITH
Gwrando a Siarad - Lefel Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth.
Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.