Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Rheoli a dileu pla diffiniedig sydd yn bennaf o arwyddocâd i iechyd y cyhoedd mewn ymateb i geisiadau, cwynion a chontractau blaenorol.
•Cynnal a datblygu perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid trwy addysg, hyrwyddo ac achosion gweithredu.
•Ymgymryd ag ymweliadau, arolygon a thriniaeth a fo’n deillio o gyfrifoldebau
•gwarchod y cyhoedd dan gyfarwyddyd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer gwaith,
•Camera, ffon symudol, tabled ayb
•Dillad Gwarchod
•Cerbyd gwaith
Prif ddyletswyddau
•Rheoli a dileu pla gan osod abwydydd, gwenwyn, maglau a thriniaeth a monitro effeithiolrwydd trwy weithredu yn sgil hynny.
•Rhoi cyngor i fusnes a'r cyhoedd yn gyffredinol ar fesurau i atal heintio gan bla.
•Diheintio a mygdarthu adeiladau, eitemau a dillad a fo wedi'u heigio neu'u baeddu.
•Gosod abwydydd mewn carthffosydd a sustemau draenio i wirio presenoldeb cnofilod, a chynnal profion/gwiriadau am ddiffygion a allai ddenu llochesu heigiadau gan gnofilod.
•Cofnodi ymweliadau a thriniaeth a roddir, gan nodi gwenwynau a chyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r dyletswyddau ac anfonebu prydlon.
•Patrolio ardaloedd, vn cynnwys mannau cyhoeddus a, tir o eiddo'r Cyngor a thraethau lle ceir mesurau arbennig i reoli anifeiliaid trwy ddeddfwriaeth.
•Gweithredu trefn rheoli cwn crwydr y Cyngor gan gymryd camau priodol i ddiogelu’r cyhoedd.
•Casglu tystiolaeth, cadw cofnodion a pharatoi adroddiadau ar gyfer rhybuddio ac erlyn am droseddau vn erbyn y rhai sy'n methu a rheoli anifeiliaid.
•Cysylltu a’r Heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill sy'n ymwneud a lles a stiwardiaeth anifeiliaid, a rhoi cyngor i'r cyhoedd yn gyffredinol ac i grwpiau â diddordeb arbennig.
•Ymgymryd ag ymweliadau, arolygon ac archwiliadau dan oruchwyliaeth Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, a chynorthwyo Swyddogion eraill yn ôl y gofyn
•Gweithredu mewn modd diogel sydd yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, polisïau a chynlluniau rheoli risg y Cyngor
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
Bydd rhaid I’r ymgeisydd llwyddianus fod yn barod I weithio oriau tu allan I’r oriau arferol e.e. yn ystod yr penwythnos, gwyl bank ag ella angen weithio oriau ychwanegol neu newid patrwm oriau gwaith I gwneud yn siwr bod yr gwaith yn gallu cael ei cwblhau yn safonol fel mae ei angen.