Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi'r prosesau ymgeisio, asesu, cyfeirio a monitro a'r gwaith cysylltiedig o weinyddu Grant Cymorth Tai ar draws Sir Gwynedd; cymorth ar sail llety a chymorth hyblyg ar draws yr ystod gyfan o anghenion cymorth tai
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Yn gyfrifol am fonitro'r Grant Cynnal Tai o 6.8 miliwn.
•Goruchwylio unrhyw offer, peiriant neu nwyddau sy'n gysylltiedig â'r dyletswyddau uchod
Prif ddyletswyddau
•Derbyn a gwerthuso pob atgyfeiriad ar gyfer y gwasanaethau cefnogaeth ar wasgar sy'n gysylltiedig â thai a ariennir gan Grant Cymorth Tai yng Ngwynedd ar gyfer yr ystod gyfan o grwpiau cleientiaid h.y. digartrefedd, iechyd meddwl, pobl ifanc, pobl ifanc sy'n gadael gofal, camddefnyddio sylweddau, pobl hŷn, anableddau dysgu ac ati.
•Cynnal asesiad i adnabod angenion unigolion, penderfynu pa gefnogaeth gan ddarparwyr addas, yna monitro’r ddarpariaeth a newid/ychwanegu gefnogaeth hyd at ddiwedd y cyfeiriad. Gwirio risg ar gyfer yr holl atgyfeiriadau cymorth arnawf sy'n gysylltiedig â thai a dderbynnir, a lle bo'n briodol, gwirio a herio gwybodaeth a methodoleg a ddefnyddir.
•Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan weithwyr / asiantaethau proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd ar gyfer gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â Grant Cymorth Tai.
•Cyfateb yr atgyfeiriad i'r cymorth mwyaf priodol sy'n ymwneud ai anghenion.
•Datblygu a gweithredu polisïau a phrosesau dyrannu ar gyfer blaenoriaethu atgyfeiriadau.
•Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, gwasanaeth Datrysiadau Tai, y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol a sefydliadau partner (fel y Gwasanaeth Prawf a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr) i sicrhau bod y defnyddiwr gwasanaeth yn gallu defnyddio'r gwasanaeth mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion a nodwyd.
•Gallu nodi a deall anghenion defnyddwyr gwasanaeth cymhleth a gwirio pa asiantaethau sydd yn rhoi cefnogaeth / neu wedi gwneud yn y gorffennol.
•Gweithio gydag asiantaethau, darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau i oresgyn rhwystrau i sicrhau'r lleoliad gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Lledaenu gwybodaeth ac annog arferion da o ran cleientiaid sydd ag anghenion lluosog / cymhleth.
•Trefnu a chadeirio cyfarfodydd amlasiantaethol i sicrhau'r lleoliadau gorau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion lluosog / cymhleth.
•Mynychu fforymau amlasiantaethol perthnasol eraill i ddarparu cyngor ar dai a chyfeirio at weithwyr proffesiynol eraill
•Ymateb i wybodaeth a dderbyniwyd gan yr atgyfeiriadau i wneud penderfyniadau am wasanaethau cymorth unigol.
•Sicrhau bod yr holl wybodaeth electronig am ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n ceisio ac yn derbyn gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn cael ei diweddaru.
•Datblygu a chynnal systemau cydgysylltiedig ar gyfer atgyfeiriadau a dyraniadau a rheoli bylchau a rhestrau aros lle bo angen, gan ddefnyddio rhaglenni TG priodol i gefnogi'r gwaith hwn.
•Gweithio'n agos gydag Arweinydd Tîm Grant Cymorth Tai a'r Swyddog Contractau ac Adolygu i sicrhau bod y gweithrediadau'n rhedeg yn effeithlon ac yn effeithiol.
•Darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai'r Cyngor yn unol â Strategaeth Comisiynu Leol Grant Cymorth Tai a chanllawiau ac amodau grant Llywodraeth Cymru.
•Bod yn ymwybodol o bolisi a chanllawiau mewn perthynas ag Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed a diogelu plant a'u datblygu.
•Bod yn ymwybodol o'r anghenion, y nodweddion a'r risgiau cymorth sy'n gysylltiedig â phob grŵp cleientiaid
•Sefydlu a chynnal cysylltiadau cyfathrebu effeithiol a pherthynas waith da gydag asiantaethau statudol perthnasol, sefydliadau proffesiynol, annibynnol a gwirfoddol, defnyddwyr, gofalwyr a rhandaliadau allweddol eraill
•Dadansoddi data (ystadegol ac ansoddol) a darparu adroddiadau ar wasanaethau cymorth a ariennir gan Grant Cymorth Tai.
•Ysgrifennu adroddiadau, coladu gwybodaeth a gwneud argymhellion mewn perthynas â threfnu a gwella gwasanaethau a fydd yn llywio'r Broses Gomisiynu Cefnogi Pobl.
•Mynychu fforymau ffurfiol, yn fewnol ac yn allanol ee pwyllgor craffu, Bwrdd Rhaglen Tai, Llywodraeth Cymru ac ati sydd yn gysylltiedig â'r gwasanaeth.
•Ymgymryd â gwaith prosiect arall neu ei gefnogi fel y'i diffinnir gan y Swyddog Arweiniol Cefnogi Pobl neu'r Rheolwr Strategaeth Tai
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mi fydd angen ar rhai adegau gweithio oriau anghymdeithasol.