Swyddi ar lein
Rheolwr Cofrestredig - Gofal Cymunedol x2
£40,746 - £42,708 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28373
- Teitl swydd:
- Rheolwr Cofrestredig - Gofal Cymunedol x2
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 29/05/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £40,746 - £42,708 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
LLEOLIAD: I'W DRAFOD
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhion Glyn ar 01286 679268 neu Elliw Haf Thomas ar elliwhafthomas@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 29/05/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau personol
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn delio gydag ystod eang o bobl.
• Y gallu i ddangos parch, hiwmor ac empathi.
• Ymrwymiad cryf i fod yn darparu gofal sydd yn berson canolog ac yn canolbwyntio ar gryfderau unigolion.
• Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest a dibynadwy.
• Gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
• Agwedd gyfeillgar ac yn gallu meddwl yn bositif wrth ddelio gyda heriau.
• Unigolyn sydd yn barod i gynnal ansawdd y Gwasanaeth gan sicrhau ein bod yn gweithredu i’r safon gorau posib.
• Y gallu i drin cyfrinachedd, a pharchu eraill.
• Y gallu i ddangos hyblygrwydd mewn byd gwaith sydd â natur ddeinamig.
• Y gallu i ymdrin â sefyllfaoedd heriol, a gwneud penderfyniadau anodd pan fo angen.Sgiliau arweinyddol
• Y gallu i ysgogi, arwain a chefnogi tîm.
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
• Gallu gweithredu yn unigol i ddatblygu neu arwain ar ddarnau gwaith penodol.
• Yn gallu gwrando, gwerthfawrogi a pharchu syniadau eraill.
• Gallu ymddwyn yn broffesiynol, ac yn berson sydd yn ennyn parch ac ymddiriedaeth eraill.
• Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol ar bob lefel, boed yn staff neu yn unigolion rydym yn eu cefnogi yn y gymuned.
• Dangos angerdd dros y Gwasanaeth, a chwilfrydedd i gwrdd â’n staff a’r unigolion rydym yn eu cefnogi yn rheolaidd er mwyn gwerthuso a gwella ein perfformiad.
• Unigolyn rhagweithiol sydd yn anelu i wella’n barhaus.Sgiliau datrys problemau
• Yn gallu meddwl tu allan i’r bocs i ddatrys problemau.
• Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant neu gymwysterau perthnasol er mwyn datblygu sgiliau presennol, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd.
• Gwerthfawrogi gallu’r unigolyn, a bod yn barod i ganfod datrysiadau sydd yn eu galluogi i fyw eu bywyd fel y maent yn dymuno.
• Bod yn barod i chwilio am ddatrysiadau i heriau sydd yn ein hwynebu fel gwasanaeth..DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig i gwblhau Lefel 4 - Paratoi i arwain a rheoli mewn iechyd a gofal.
• Ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig i gwblhau Lefel 5 - Arwain a Rheoli mewn iechyd a gofal.
DYMUNOL
• Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth
• Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal, nyrsio neu faes perthnasol e.e., iechyd a gofal
• Goruchwyliaeth
• IOSH
• Rheoli Safle
• Cymhelliant
• Mentora
• Cyfathrebu DISCPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o fod wedi gweithio / cefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn dymuno.
• Profiad o gyd-weithio fel rhan o dîm.DYMUNOL
• Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o gefnogi unigolion ac anghenion cymhleth.
• Profiad o recriwtio, hyfforddi neu ddatblygu staff.
• Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm.
• Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol.
• Profiad o reoli cyllidebau a dealltwriaeth o bwysigrwydd rheolaeth ariannol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOLHANFODOL
• Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal, gan weithio i ddarparu gofal sydd yn berson canolog.
• Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2014 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol ‘Regulation and inspection of socail care wales 2016’.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, staff ac asiantaethau allanol.
• Gwybodaeth am reoli risg a phrotocolau diogelu.
• Sgiliau Technoleg Gwybodaeth ardderchog, gan gynnwys Microsoft Office, Outlook, ac offer adrodd data.
• Yn gallu trin data, gyda’r gallu i ddehongli graffiau syml, a mewnfwydo gwybodaeth ar raglen megis Excel, er mwyn adrodd ar berfformiad yn gyson.
• Hyfedr mewn tasgau gweinyddol gydag ymrwymiad i gefnogi’r Gwasanaeth i symud i weithio yn fwy electroneg, gan leihau’r defnydd ar bapur.
• Y gallu i weithio dan bwysau, gan allu rheoli blaenoriaethau cystadleuol a datrys problemau’n effeithiol.
DYMUNOL• Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol.
• Profiad o weithio gydag oedolion bregus all fod yn agored i niwed.
• Dealltwriaeth o anghenion penodol gwahanol grwpiau e.e., yr henoed, dementia, iechyd meddwl.Cyffredinol
• Meddu ar drwydded yrru ddilys a mynediad at gar.
• Gwiriad DBS dilys.
• Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan gynnwys nosweithiau neu benwythnosau yn achlysurol yn ôl yr angen.ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithredu fel Rheolwr Cofrestredig gyda chyfrifoldeb dros ddarpariaeth Gofal Cartref i Oedolion yn eu cartrefi.
• Rheoli cyfeiriadau am wasanaeth yng nghartref yr unigolyn, gan ddatblygu a rhoi amserlen yn ei le er mwyn diwallu anghenion yr oedolyn am ofal yn eu cartref.
• Cydweithio’n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
• Sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau cenedlaethol a rheoliadau gofal cartref.
• Mae’r swydd yn rhan o adran sydd yn arwain ar faterion ataliol iechyd o fewn y Cyngor. Yn sgil hyn, mae cyfrifoldeb ar y Rheolwr i sicrhau eu bod yn cyfrannu’n llawn i’r agenda drwy gyd weithio a Rheolwyr eraill oddi fewn yr Adran. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at drafodaethau sydd yn ysgogi gwelliant mewn iechyd oddi fewn y boblogaeth.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid y gwasanaeth yn effeithiol.
• Cyfrifoldeb dros sicrhau fod adnoddau, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.Prif Ddyletswyddau. .
• Bod a throsolwg, dealltwriaeth a rheolaeth effeithiol o’r gofynion ar y gwasanaeth a bod yn barod i ymateb yn amserol er mwyn cydymffurfio a’r gofynion.
• Goruchwylio, rhoi arweiniad, ysgogi a chynghori staff i lunio rhaglenni unigryw a phenodol sy’n cwrdd ag angen yr unigolyn a’u hadolygu’n gyson.
• Delio a materion disgyblu mewn ymgynghoriad gyda swyddog Adnoddau Dynol.
• Rheoli llwythi gwaith a’u hadolygu’n gyson a chymryd rhan yng Nghynllun Datblygu Staff yr Adran.
• Derbyn cyfeiriadau am wasanaeth ar gyfer pobl hŷn yn dilyn asesiad proffesiynol, a rheoli’r amserlen.
• Sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio ac yn cyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol.
• Galw a chadeirio cyfarfodydd cynllunio ac adolygu.
• Bod yn gyfrifol i’r Rheolwr Ardal am weithredu polisïau a threfniadau adrannol, gan sicrhau bod y gweithwyr yn ymwybodol o'r rhain ac yn eu deall.
• Yn achlysurol, cynorthwyo gyda chyfrifoldebau cysylltiadau cyhoeddus.
• Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gyda Defnyddwyr Gwasanaeth, asiantaethau eraill e.e., awdurdod iechyd, a’r trydydd sector.
• Sicrhau bod gweithwyr yn defnyddio dulliau a dogfennau cofnodi’r Adran.
• Trosglwyddo gwybodaeth proffesiynol ac Adrannol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth gyda Safonau Cenedlaethol a Rheoliadau Gofal Cartref (RISCA).
• Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau am berfformiad a gwaith y tîm.
• Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion yn ôl yr angen.
• Hysbysu’r Rheolwr Ardal o achosion a sefyllfaoedd sy’n codi cwestiynau polisi allweddol neu’n achosi problemau difrifol i’r Adran fel y gellir cael arweiniad arbennig neu ddatblygu polisi penodol newydd.
• Cyfrannu tuag at werthuso ac adolygu safonau gwaith y tîm a’r gwasanaeth yn gyffredinol.
• Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd, ac at weithgareddau hyfforddi fel bo’n briodol.
• Sicrhau fod y gweithlu yn cwrdd â gofynion hyfforddiant yn unol ar safonau cenedlaethol a rheoliadau gofal cartref (RISCA).
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd rheolwyr sirol.
• Cyfrannu at gynllunio tymor hir yn Adrannol ac ar lefel rhanbarthol.
• Arwain ar recriwtio a phenodi staff addas ar gyfer y gwasanaeth.
• Arwain ar y broses anwytho staff newydd.
• Sicrhau fod goruchwyliaeth a datblygiad staff yn bodoli yn unol â pholisïau a chanllawiau’r Cyngor a’r Gwasanaeth, a bod staff yn cael ei gwerthuso’n flynyddol.
• Sicrhau fod trefn rheoli absenoldebau yn cael ei ddilyn, a sicrhau fod mesuriadau mewn lle i osgoi effaith anffafriol oherwydd yr absenoldebau ar y gwasanaeth a’r gyllideb.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
• Lleolir y swydd yng Ngwynedd fel fod hyblygrwydd i reoli`r Sir.Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.