Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu cadarn.
Y gallu i weithio a chymysgu’n hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Y gallu i wrando a chynnal sgyrsiau anodd ar adegau ac ymateb yn bwyllog a sensitif.
Y gallu i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau gyda phobl a mudiadau amrywiol
Y gallu i weithio o dan bwysau, yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd.
Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau.
Ymrwymiad i sicrhau mynediad amserol i wasanaethau er mwyn gwella safon a chyfleon bywyd.
Person sy’n hyderus yn ysgrifennu, sgwrsio a chyflwyno gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster lefel 3 neu uwch mewn maes perthnasol.
3 + TGAU A-C (yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a rhieni.
Dymunol
Hyfforddiant amddiffyn plant sylfaenol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Dealltwriaeth o ofynion y gwasanaeth plant a’r angen i gwrdd â safonau ymarfer statudol.
Gallu i weithio mewn partneriaeth gyda phlant, teuluoedd ac asiantaethau eraill.
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur yn y gwaith , gydag isadeiledd sgiliau ar gyfer datblygu medrusrwydd yn nefnydd systemau Gwybodaeth electronig y gwasanaeth
Profiad o weithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd o angen a rhoi cyngor.
Dymunol
Profiad o asesu anghenion plant / teuluoedd a’u helpu i flaenoriaethau materion sy’n eu pryderu.
Profiad o weithio mewn tîm plant neu leoliad gwaith gyda plant.
Profiad o weithio mewn cyd-destun cefnogi plant a theuluoedd.
Profiad o ymgysylltu cymunedol er mwyn helpu teuluoedd i ddarganfod beth
sydd ar gael i’w cefnogi’n lleol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a’r gallu i ymwneud â phobol, plant a phobl ifanc yn effeithiol a hyderus, yn aml mewn amgylchiadau o angen, gan barchu’r angen am gyfrinachedd.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Y gallu i weithio’n effeithiol a chreadigol, mewn cyd-destun aml-asiantaethol ac aml-ddisgybledig.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda amrediad eang o weithwyr proffesiynol,Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office sylfaenol.
Sgiliau rhwydweithio da.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
Sgiliau trefnu da.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dealltwriaeth o ganllawiau Amddiffyn Plant
Dymunol
Gallu crynhoi a chofnodi sgyrsiau efo plant a theuluoedd a nodi eu dyheadau a beth sy’n bwysig iddynt
Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy’n berthnasol i’r maes plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gwybodaeth am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r meddylfryd tu ôl i’r Tîm o Amgylch y Teulu.
Dealltwriaeth o Ddeddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant 2014.
Dealltwriaeth o egwyddorion Rhaglenni Trechi Tlodi y Llywodraeth , yn benodol, Teuluoedd yn Gyntaf
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)