DYLETSWYDDAU
Arwain a Rheoli:
Arwain a rheoli’r maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan gynnwys i:
o fod yn gyfrifol am y gyllideb maes ac archebion offer / adnoddau
o fod yn gyfrifol am holl adnodau’r maes dysgu
o gynnal cyfarfodydd rheolaidd
o lunio Cynllun Gwella Maes Dysgu a Phrofiad a’i adolygu’n flynyddol
o gynorthwyo’r UDRh gyda hysbysebu ac apwyntio rolau o fewn y maes dysgu
o fynychu cyfarfodydd / pwyllgorau fel yr angen
• Arwain a chefnogi tîm o staff addysgu ym maes y cwricwlwm gan sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cwricwlaidd yr ysgol ynghyd â dyletswyddau athrawon dosbarth yn cael eu cyflawni
• Archwilio gwaith staff ategol sy'n cefnogi gwaith o fewn maes y cwricwlwm, gan sicrhau eu defnydd mwyaf effeithiol
• Ymateb i a chynorthwyo eraill am geisiadau am wybodaeth
• Sicrhau cyfathrebu effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth rhwng disgyblion, staff, UDRh ac asiantaethau allanol ar gyfer lles, gofal a datblygiad addysgol disgyblion
• Sicrhau cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol i staff o fewn y maes dysgu
• Datblygu cysylltiadau rhwng y maes dysgu a'r gymuned a'r byd gwaith – lle bo'n briodol ac yn fanteisiol
• Datblygu cysylltiadau agos ag ysgolion cynradd dalgylch ar gyfer cydweithio a throsglwyddo cynradd i uwchradd
• Mynd i'r afael â materion Iechyd a Diogelwch yn briodol
Dysgu ac Addysgu:
• Llunio nodau ac amcanion ar gyfer y maes dysgu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau yr Ysgol gan fanylu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd i'w ennill gan ddisgyblion o bob oedran a gallu
• Llunio a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf am y maes dysgu sy'n ymateb i feysydd gwaith Cwricwlwm Cymru a’r bwrdd arholi, gan ystyried:
o parhad yn y cwricwlwm 5-16 oed
o dulliau dysgu ac addysgu
o dulliau asesu
o gofynion disgyblion o wahanol alluoedd
o talu sylw priodol i agweddau trawsgwricwlaidd
• Datblygu a gweithredu cyfundrefn asesu briodol a fydd yn:
o talu sylw i'r holl wybodaeth, deall sgiliau a gwerthoedd a ddatblygwyd
o asesu cynnydd yn rheolaidd
o galluogi staff i nodi tangyflawni
o galluogi staff i fonitro ac olrhain cynnydd disgyblion
o galluogi staff i roi gwybod am gynnydd disgyblion iddyn nhw eu hunain, eu rhieni a'r UDRh
• Bod yn gyfarwydd â gofynion dulliau asesu cenedlaethol gan gynnwys Cwricwlwm i Gymru, maes llafur y bwrdd arholi ac arholiadau allanol
• Bod yn gyfrifol am gyfansoddiad grwpiau dysgu o fewn maes y cwricwlwm
• Cynghori UDRh ar y defnydd gorau o staff yn y maes dysgu
• Sicrhau bod ystafelloedd dosbarth ardal y cwricwlwm ynghyd â'r coridorau cyfagos yn darparu amgylchedd taclus a diddorol sy'n ysgogi disgyblion, a bod arddangos gwaith disgyblion yn rhan o'r amgylchedd hwn
• Monitro ac adolygu datblygiad a chynnydd disgyblion yn rheolaidd yn y maes dysgu
• Cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau o fewn y maes dysgu (megis cynnwys, methodoleg) a maes trawsgwricwlaidd
• Ymgymryd â rhaglen addysg briodol yn unol â dyletswyddau staff addysgu a disgrifiadau swydd
• Asesu, cofnodi ac adrodd cynnydd disgyblion yn unol â dyletswyddau a disgrifiad swydd staff addysgu
Cynnydd disgyblion:
• Bod yn gyfrifol am ymddygiad a chynnydd addysgol disgyblion yn y maes dysgu
• Monitro cynnydd addysgol disgyblion o fewn y maes dysgu
• Llunio / paratoi adroddiadau ar gynnydd addysgol disgyblion o fewn y maes
• Monitro cofnodion academaidd disgyblion o fewn y maes drwy:
o awdurdodi'r dathlu o lwyddiant yn unol â pholisi ymddygiad, canmoliaeth a disgyblu'r ysgol
o gweithredu'r weithdrefn ddisgyblu yn unol â pholisi ymddygiad, canmoliaeth a disgyblu'r Ysgol
Safonau a Sicrhau Ansawdd:
- Monitro gwaith a safonau o fewn y maes dysgu drwy:
- monitro gwersi
- safoni gwaith disgyblion
- cadw portffolio o waith a safonau disgyblion
- dadansoddi data